4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 23 Medi 2020.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am statws y Gymraeg yng ngwaith y Senedd yng ngoleuni dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf? OQ55557
Diolch, Siân Gwenllian, am y cwestiwn yna. Beth ddigwyddodd yn yr achos yma oedd bod y llys gweinyddol wedi atgyfnerthu'r egwyddor bod gan destun deddfau sy'n cael eu gwneud gan y Senedd yr un grym cyfreithiol yn Gymraeg ag yn Saesneg. Mae angen edrych ar y ddwy iaith, felly, er mwyn nodi gwir ddadansoddiad statud.
Yma yn y Senedd, mae gennym ni sail ddeddfwriaethol gref i'n statws ni fel deddfwrfa ddwyieithog. Mae adran 156 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi bod gan destun Cymraeg a Saesneg yr un statws mewn deddfwriaeth. Ymhellach, mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn datgan bod gennym ni ddwy iaith swyddogol yn y Senedd. Mae'r cynllun ieithoedd swyddogol yn amlinellu sut rydym ni'n trin y ddwy iaith ar y sail honno. Felly, mi ydym ni'n croesawu penderfyniad y llys gweinyddol i danlinellu a chadarnhau statws cydradd y Gymraeg o fewn y gyfundrefn ddeddfwriaethol.
Diolch yn fawr. Ddoe, mi ges i gyfle i drafod y dyfarniad llys arwyddocaol yma efo'r Cwnsler Cyffredinol. Mae yna ddwy agwedd arwyddocaol iawn o ran y Gymraeg yn codi yn sgil y dyfarniad yma, ac un—yr un roeddwn yn ei thrafod ddoe—sydd i bob pwrpas yn creu hawl i gael addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol i'r cartref.
Dwi'n codi mater arall a oedd yn rhan o'r dyfarniad yna efo chi, sef y tro cyntaf i destun Cymraeg deddfwriaeth chwarae rhan amlwg mewn achos cyfreithiol, ac mae hynny'n berthnasol i ni. Mi oedd cyngor Rhondda Cynon Taf wedi diystyru fersiwn Gymraeg Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn llwyr, ac yn anghywir i wneud hynny yn ôl y barnwr. Mi oedd yna gwestiwn hefyd ynglŷn â gwahaniaeth ystyr rhwng y fersiwn Gymraeg a'r Saesneg yn y ddeddfwriaeth.
Felly, a ydych chi'n cytuno bod yna gwestiynau pwysig yn codi o'r dyfarniad sydd angen sylw dyledus gan y Comisiwn, gan aelodau'r Llywodraeth, a gan arbenigwyr allanol fel Comisiynydd y Gymraeg, a bod yna gwestiynau fath â sicrhau ansawdd ein prosesau deddfu dwyieithog, yr angen i uchafu statws y Gymraeg yng ngwaith y Senedd, a rôl y Senedd mewn gyrru datganoli cyfiawnder yn ei flaen er lles y Gymraeg? Felly, byddwn i'n gofyn i chi am ymrwymiad heddiw yma i sicrhau dadansoddiad manwl ynglŷn ag arwyddocâd y dyfarniad yma ac unrhyw newidiadau ddylai ddilyn yn sgil hynny.
Diolch am y cwestiwn yna. Dwi'n meddwl bod Siân Gwenllian yn sicr yn iawn i bwysleisio gwir arwyddocâd y dyfarniad yma, a dwi yn sicr yn eiddgar iawn i'r arwyddocâd hwnnw gael sylw manwl gan y Comisiwn a gan y Llywodraeth. Dwi'n sicr hefyd bod hwn yn rhywbeth y byddai'n sicr o fod o ddiddordeb i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Dwi'n cytuno bod gweld yn fan hyn y Gymraeg yn cael ei chadarnhau mor bendant—bod hynny'n rhywbeth dylai ein sbarduno ni, dwi'n meddwl, i fod yn fwy penderfynol i wneud yn siŵr bod prosesau deddfu dwyieithog yn gadarn, yn fwy cadarn byth. Dylai fo roi hyder i ni fel Senedd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y ddeddfwrfa yma. Dwi'n gwahodd Aelodau i rannu eu syniadau ar sut i wireddu hynny hefyd wrth i'r arolwg blynyddol aelodau staff gael ei rannu yr wythnos yma.
A pwynt arall liciwn i ei wneud hefyd ydy bod y cynllun ieithoedd swyddogol, wrth gwrs, yn cael ei adolygu ar gyfer y chweched Senedd. Mae'r dyfarniad yma'n rhoi cyd-destun newydd i hwnnw. Mewn ffordd, mae'n cryfhau'r cyd-destun, ac mi fyddwn ni'n annog Aelodau i gyfrannu at y gwaith hwnnw hefyd pan fydd y Comisiwn yn ymgynghori arno fo.
Diolch yn fawr.
Diolch. Bydd cwestiwn 2 a chwestiwn 3 y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 2, Andrew R.T. Davies.