– Senedd Cymru am 5:52 pm ar 29 Medi 2020.
Dyma ni yn ailgychwyn gydag eitem 12 ar yr agenda. Yr eitem honno yw'r Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r eitem yma. Y Gweinidog—Julie James.
Cynnig NDM7398 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd. Mae'r canfasiad etholiadol yn cael ei gynnal bob blwyddyn. Er bod cofrestru yn broses drwy gydol y flwyddyn, mae'r canfasiad yn rhoi cyfle i swyddogion cofrestru etholiadol sicrhau cywirdeb y gofrestr. Yn draddodiadol, mae'r canfasiad yn dechrau ar 1 Gorffennaf bob blwyddyn, a gall gymryd hyd at bum mis i'w cwblhau. Yn dilyn hyn cyhoeddir y gofrestr etholiadol ddiwygiedig ar 1 Rhagfyr.
Nodir y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr mewn deddfwriaeth. Byddai'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod yma heddiw yn caniatáu i swyddogion cofrestru etholiadol gyhoeddi cofrestr etholiadol 2020 yn ddiweddarach os oes angen, hyd at 1 Chwefror 2021. Mae'r newid hwn ond yn berthnasol i gyhoeddiad cofrestr etholiadol 2020. Nid yw hyn yn golygu mai dim ond ar 1 Chwefror 2021 y ceir cyhoeddi cofrestrau. Gall swyddogion cofrestru etholiadol ddewis cyhoeddi ar 1 Rhagfyr fel arfer, neu unrhyw ddyddiad arall hyd at 1 Chwefror 2021 ac ar y diddiad hwnnw.
Ystyrir yr estyniad i'r dyddiad cyhoeddi yn hanfodol o dan yr amgylchiadau presennol a achoswyd gan y pandemig COVID-19. Dylai fod rhywfaint o hyblygrwydd i swyddogion cofrestru etholiadol gynnal y canfasiad mewn ffordd sy'n ystyried gofynion iechyd y cyhoedd. Gellir darparu hyblygrwydd drwy symud y dyddiad olaf erbyn pryd y dylid cyhoeddi cofrestr etholiadol 2020.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar waith awdurdodau lleol. Mae timau gwasanaethau democrataidd wedi gweld eu staff yn cael eu hadleoli i feysydd o angen, neu staff yn gweithio gartref. Gall y trefniadau hyn ei gwneud yn anodd cyflawni swyddogaethau arferol, gan gynnwys argraffu, derbyn ffurflenni a chanfasio dros y ffôn. Er bod proses y canfasiad blynyddol wedi'i moderneiddio yn ddiweddar, mae elfennau'n parhau i fod ar bapur. Mae'r broses yn dibynnu ar staff mewn timau gwasanaethau etholiadol yn anfon ac yn derbyn gohebiaeth bapur. Ceir elfen wyneb yn wyneb hefyd drwy ganfasio o ddrws i ddrws.
Mae'r trefniadau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith ar hyn o bryd yn cyflwyno rhywfaint o ansicrwydd o ran gallu swyddogion cofrestru etholiadol i ganfasio'n llwyddiannus a chofrestru etholwyr erbyn mis Rhagfyr 2020. Diben y rheoliadau hyn yw cydnabod effaith COVID-19 a rhoi hyblygrwydd i swyddogion cofrestru etholiadol drwy ymestyn dyddiad cyhoeddi terfynol cofrestr etholiadol ddiwygiedig 2020. Diolch, Llywydd.
Does gyda fi ddim siaradwyr i'r ddadl yma. Dwi'n cymryd dyw'r Gweinidog ddim eisiau ymateb i'w hunan. Felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.