15. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:21, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am y sefyllfa ddiweddaraf ledled Cymru. Rwyf i, y Prif Weinidog a Gweinidog Gogledd Cymru newydd ddod o gyfarfod gydag arweinyddion awdurdodau lleol, yr heddlu, y GIG ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd i drafod y cynnydd mewn heintiau coronafeirws mewn rhannau o'r gogledd. Yn anffodus, rydym ni'n gweld patrwm tebyg o drosglwyddo'r coronafeirws yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy ag yr ydym eisoes wedi ei weld mewn rhannau o'r de. Mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn isel yn Ynys Môn a Gwynedd ar hyn o bryd.

Ar ôl trafodaethau helaeth a chymryd i ystyriaeth y timau rheoli digwyddiadau lleol, cytunodd pawb yn y cyfarfod hwnnw fod angen gweithredu ar frys yn awr i reoli lledaeniad y feirws yn y gogledd ac i ddiogelu iechyd pobl. Bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn cyflwyno cyfyngiadau lleol—yr un mesurau cyfyngu lleol ag sydd ar waith mewn rhannau o'r de—yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy o 6.00 p.m. ddydd Iau 1 Hydref.

Llywydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion newydd o'r coronafeirws ledled Cymru yn gyffredinol. Yn genedlaethol, yn yr ardaloedd hynny nad ydyn nhw o dan gyfyngiadau lleol ychwanegol, mae'n rhaid i ni gofio na chaniateir i bobl gyfarfod yn gymdeithasol o dan do â phobl nad ydyn nhw'n byw gyda nhw ac nad ydyn nhw'n rhan o'u haelwyd neu eu swigen estynedig. Os yw pobl wedi ffurfio aelwyd estynedig, cânt gyfarfod dan do mewn grŵp o hyd at chwech o bobl o'r aelwyd estynedig honno ar unrhyw un adeg. Nid yw'r rhai dan 11 oed yn cael eu cynnwys wrth gyfrif y chwech, cyn belled â'u bod nhw'n rhan o'r aelwyd estynedig honno. Wrth gwrs, mae dan do yn cynnwys cartrefi pobl a lleoliadau lletygarwch. Ni chaiff pobl ymgasglu yn yr awyr agored mewn grwpiau o fwy na 30; mae gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do ac, wrth gwrs, ar gludiant cyhoeddus, yn amodol ar esemptiadau ac eithriadau penodol; ac ni chaiff safleoedd trwyddedig werthu alcohol ar ôl 10.00 p.m. Mae hynny'n cynnwys tafarndai a bwytai yn ogystal â siopau all-drwydded, archfarchnadoedd a siopau manwerthu eraill.

Er bod nifer yr achosion yn parhau i gynyddu yn genedlaethol, nid oes gennym gynlluniau i weithredu unrhyw gyfyngiadau cenedlaethol ychwanegol ar unwaith. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gweithredu os byddwn ni'n teimlo bod angen cyfyngiadau cenedlaethol ychwanegol i helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu a'u bod yn gorbwyso'r niwed ehangach y gall cyfyngiadau o'r fath ei achosi. Bydd unrhyw benderfyniadau yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor meddygol a gwyddonol.

Rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ar draws nifer o ardaloedd awdurdodau lleol ac, o ganlyniad, mae rhan fawr o boblogaeth y de bellach yn byw mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith i ddiogelu eu hiechyd ac atal lledaeniad y coronafeirws. Yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol ar hyn o bryd yw Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Llanelli, Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen. Mae'r cyfyngiadau lleol yr un fath ym mhob ardal ddynodedig. Ni chaniateir i bobl ddod i mewn i'r ardal na'i gadael heb esgus rhesymol ac ni chaniateir i bobl gyfarfod dan do gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gyda nhw am y tro. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd estynedig, a elwir weithiau yn swigod; yn anffodus bu'n rhaid eu hatal am y tro. Mae'n rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10.00 p.m. yn unol â chyfyngiadau cenedlaethol ac mae'n rhaid i bawb weithio gartref pryd bynnag y bo modd gwneud hynny.

I fod yn glir, mae esgus rhesymol dros adael neu fynd i mewn i ardal yn cynnwys mynd i weithio pan na all pobl weithio gartref neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus nad ydyn nhw ar gael yn lleol. Mae hefyd yn cynnwys ymweld â theulu neu ffrindiau agos ar sail dosturiol os oes angen. Felly, wrth gwrs, gall pobl sydd ag apwyntiadau brys mewn ysbyty, er enghraifft, adael neu fynd i mewn i ardal. O ran y rhai hynny sy'n rhannu cyfrifoldeb rhianta, cânt barhau â'r trefniadau presennol ar gyfer gweld a chysylltu â'u plentyn neu blant, gan gynnwys gadael neu fynd i ardal leol os oes angen. Yn yr un modd, caiff trefniadau gofal plant hanfodol barhau. Mae hynny'n cynnwys pan ddarperir hyn gan, er enghraifft, neiniau a theidiau, ond yn amlwg ceir mwy o beryglon gyda phobl hŷn ac rydym yn argymell y dylid dod o hyd i drefniadau gofal eraill os oes modd.

Dylai pawb, o leiaf, sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n rheolaidd a bod y canllawiau ehangach ar reoli'r feirws yn cael eu dilyn. Mae ymweliadau arferol â chartrefi gofal mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol wedi'u hatal gan yr awdurdodau lleol hynny ar hyn o bryd. Caiff ymweliadau â chartrefi gofal barhau i ddigwydd yn yr ardaloedd hynny mewn amgylchiadau eithriadol, fel diwedd oes, ond dylid trafod hyn gyda'r cartref gofal unigol cyn teithio. Dylai plant, ar yr amod eu bod yn iach, barhau i fynd i'r ysgol. Cadw ysgolion ar agor yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

Nid cyfyngiadau symud rhanbarthol yw'r rhain. Rydym ni wedi cyflwyno cyfres o gyfyngiadau lleol yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hyn er mwyn ymateb i gynnydd penodol mewn achosion ym mhob ardal. Mae gan bob un ohonyn nhw gadwyni trosglwyddo gwahanol ac unigryw. Dewiswyd y mesurau lleol i sicrhau'r effeithiau mwyaf posibl ar leihau trosglwyddo'r coronafeirws ac i leihau'r niwed ehangach y gall cyfyngiadau o'r fath ei achosi, fel y gwyddom. Mae'r mesurau wedi'u cynllunio i ategu a gwella ymatebion lleol gan yr awdurdod lleol, byrddau iechyd lleol a'r heddlu, ac mae'r rheini eisoes ar waith.

Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau hyn yn gyson a byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd gydag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, arweinyddion awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf ym mhob un o'r meysydd hyn. Yng Nghaerffili a Chasnewydd, rydym yn gweld gostyngiadau gwirioneddol yn nifer yr achosion ac rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu cymryd camau i lacio'r cyfyngiadau hyn yn yr ardaloedd hyn os bydd nifer yr achosion hynny yn parhau i ostwng. Mae'n bwysig bod pawb yn dilyn y rheolau ar gyfer ble y maen nhw'n byw. Mae angen cymorth pawb arnom i reoli'r coronafeirws. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni leihau nifer yr achosion o'r coronafeirws, y niwed y maen nhw'n ei achosi a diogelu ein hunain a'n hanwyliaid, a gyda'n gilydd, gallwn gadw Cymru yn ddiogel. Diolch, Llywydd.