– Senedd Cymru am 6:21 pm ar 29 Medi 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiweddariad ar gyfyngiadau coronafeirws lleol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am y sefyllfa ddiweddaraf ledled Cymru. Rwyf i, y Prif Weinidog a Gweinidog Gogledd Cymru newydd ddod o gyfarfod gydag arweinyddion awdurdodau lleol, yr heddlu, y GIG ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd i drafod y cynnydd mewn heintiau coronafeirws mewn rhannau o'r gogledd. Yn anffodus, rydym ni'n gweld patrwm tebyg o drosglwyddo'r coronafeirws yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy ag yr ydym eisoes wedi ei weld mewn rhannau o'r de. Mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn isel yn Ynys Môn a Gwynedd ar hyn o bryd.
Ar ôl trafodaethau helaeth a chymryd i ystyriaeth y timau rheoli digwyddiadau lleol, cytunodd pawb yn y cyfarfod hwnnw fod angen gweithredu ar frys yn awr i reoli lledaeniad y feirws yn y gogledd ac i ddiogelu iechyd pobl. Bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn cyflwyno cyfyngiadau lleol—yr un mesurau cyfyngu lleol ag sydd ar waith mewn rhannau o'r de—yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy o 6.00 p.m. ddydd Iau 1 Hydref.
Llywydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion newydd o'r coronafeirws ledled Cymru yn gyffredinol. Yn genedlaethol, yn yr ardaloedd hynny nad ydyn nhw o dan gyfyngiadau lleol ychwanegol, mae'n rhaid i ni gofio na chaniateir i bobl gyfarfod yn gymdeithasol o dan do â phobl nad ydyn nhw'n byw gyda nhw ac nad ydyn nhw'n rhan o'u haelwyd neu eu swigen estynedig. Os yw pobl wedi ffurfio aelwyd estynedig, cânt gyfarfod dan do mewn grŵp o hyd at chwech o bobl o'r aelwyd estynedig honno ar unrhyw un adeg. Nid yw'r rhai dan 11 oed yn cael eu cynnwys wrth gyfrif y chwech, cyn belled â'u bod nhw'n rhan o'r aelwyd estynedig honno. Wrth gwrs, mae dan do yn cynnwys cartrefi pobl a lleoliadau lletygarwch. Ni chaiff pobl ymgasglu yn yr awyr agored mewn grwpiau o fwy na 30; mae gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do ac, wrth gwrs, ar gludiant cyhoeddus, yn amodol ar esemptiadau ac eithriadau penodol; ac ni chaiff safleoedd trwyddedig werthu alcohol ar ôl 10.00 p.m. Mae hynny'n cynnwys tafarndai a bwytai yn ogystal â siopau all-drwydded, archfarchnadoedd a siopau manwerthu eraill.
Er bod nifer yr achosion yn parhau i gynyddu yn genedlaethol, nid oes gennym gynlluniau i weithredu unrhyw gyfyngiadau cenedlaethol ychwanegol ar unwaith. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gweithredu os byddwn ni'n teimlo bod angen cyfyngiadau cenedlaethol ychwanegol i helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu a'u bod yn gorbwyso'r niwed ehangach y gall cyfyngiadau o'r fath ei achosi. Bydd unrhyw benderfyniadau yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor meddygol a gwyddonol.
Rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ar draws nifer o ardaloedd awdurdodau lleol ac, o ganlyniad, mae rhan fawr o boblogaeth y de bellach yn byw mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith i ddiogelu eu hiechyd ac atal lledaeniad y coronafeirws. Yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol ar hyn o bryd yw Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Llanelli, Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen. Mae'r cyfyngiadau lleol yr un fath ym mhob ardal ddynodedig. Ni chaniateir i bobl ddod i mewn i'r ardal na'i gadael heb esgus rhesymol ac ni chaniateir i bobl gyfarfod dan do gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gyda nhw am y tro. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd estynedig, a elwir weithiau yn swigod; yn anffodus bu'n rhaid eu hatal am y tro. Mae'n rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10.00 p.m. yn unol â chyfyngiadau cenedlaethol ac mae'n rhaid i bawb weithio gartref pryd bynnag y bo modd gwneud hynny.
I fod yn glir, mae esgus rhesymol dros adael neu fynd i mewn i ardal yn cynnwys mynd i weithio pan na all pobl weithio gartref neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus nad ydyn nhw ar gael yn lleol. Mae hefyd yn cynnwys ymweld â theulu neu ffrindiau agos ar sail dosturiol os oes angen. Felly, wrth gwrs, gall pobl sydd ag apwyntiadau brys mewn ysbyty, er enghraifft, adael neu fynd i mewn i ardal. O ran y rhai hynny sy'n rhannu cyfrifoldeb rhianta, cânt barhau â'r trefniadau presennol ar gyfer gweld a chysylltu â'u plentyn neu blant, gan gynnwys gadael neu fynd i ardal leol os oes angen. Yn yr un modd, caiff trefniadau gofal plant hanfodol barhau. Mae hynny'n cynnwys pan ddarperir hyn gan, er enghraifft, neiniau a theidiau, ond yn amlwg ceir mwy o beryglon gyda phobl hŷn ac rydym yn argymell y dylid dod o hyd i drefniadau gofal eraill os oes modd.
Dylai pawb, o leiaf, sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n rheolaidd a bod y canllawiau ehangach ar reoli'r feirws yn cael eu dilyn. Mae ymweliadau arferol â chartrefi gofal mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol wedi'u hatal gan yr awdurdodau lleol hynny ar hyn o bryd. Caiff ymweliadau â chartrefi gofal barhau i ddigwydd yn yr ardaloedd hynny mewn amgylchiadau eithriadol, fel diwedd oes, ond dylid trafod hyn gyda'r cartref gofal unigol cyn teithio. Dylai plant, ar yr amod eu bod yn iach, barhau i fynd i'r ysgol. Cadw ysgolion ar agor yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
Nid cyfyngiadau symud rhanbarthol yw'r rhain. Rydym ni wedi cyflwyno cyfres o gyfyngiadau lleol yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hyn er mwyn ymateb i gynnydd penodol mewn achosion ym mhob ardal. Mae gan bob un ohonyn nhw gadwyni trosglwyddo gwahanol ac unigryw. Dewiswyd y mesurau lleol i sicrhau'r effeithiau mwyaf posibl ar leihau trosglwyddo'r coronafeirws ac i leihau'r niwed ehangach y gall cyfyngiadau o'r fath ei achosi, fel y gwyddom. Mae'r mesurau wedi'u cynllunio i ategu a gwella ymatebion lleol gan yr awdurdod lleol, byrddau iechyd lleol a'r heddlu, ac mae'r rheini eisoes ar waith.
Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau hyn yn gyson a byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd gydag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, arweinyddion awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf ym mhob un o'r meysydd hyn. Yng Nghaerffili a Chasnewydd, rydym yn gweld gostyngiadau gwirioneddol yn nifer yr achosion ac rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu cymryd camau i lacio'r cyfyngiadau hyn yn yr ardaloedd hyn os bydd nifer yr achosion hynny yn parhau i ostwng. Mae'n bwysig bod pawb yn dilyn y rheolau ar gyfer ble y maen nhw'n byw. Mae angen cymorth pawb arnom i reoli'r coronafeirws. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni leihau nifer yr achosion o'r coronafeirws, y niwed y maen nhw'n ei achosi a diogelu ein hunain a'n hanwyliaid, a gyda'n gilydd, gallwn gadw Cymru yn ddiogel. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. A gaf i yn gyntaf gofnodi diolch y Ceidwadwyr i'r holl swyddogion cyhoeddus a phawb sy'n gysylltiedig â cheisio atal y feirws yn yr ardaloedd lle ceir achosion o'r clefyd? Nid oes neb eisiau bod o dan gyfyngiadau, ond mae'n amlwg bod y cyfyngiadau hyn yn gosod rhwymedigaeth benodol ar rai swyddogion cyhoeddus a hefyd y cyhoedd yn gyffredinol i gadw atyn nhw, a hoffwn i gofnodi fy niolch i a diolch y Ceidwadwyr Cymreig i bob un sy'n brwydro i atal y feirws.
Gofynnais i gyfres o gwestiynau i'r Gweinidog ynglŷn â'i ddatganiad, ac rwy'n gwerthfawrogi na chyrhaeddodd honno fel y mae'n ei wneud fel arfer, ond rwyf wedi cael golwg cyflym arni, felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog yn y lle cyntaf: sut y penderfynir pryd y mae cyfraddau heintio yn mynd dros drothwy penodol fel bod y Gweinidog yn ymateb iddo ac yn rhoi'r cyfyngiadau ar waith? Oherwydd ddydd Sul, cafodd Bro Morgannwg, er enghraifft, ei rhoi yn y dosbarth o gyfyngiadau ar y nos Lun, ac eto roedd ganddi gyfradd heintio is na'r siroedd y mae ef wedi'u cyhoeddi heno na fyddan nhw'n mynd o dan gyfyngiad tan ddydd Iau. Roedd gan Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy gyfraddau heintio uwch ddydd Sul na Bro Morgannwg, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y mae'r Llywodraeth yn dehongli'r cyfraddau heintio hynny ac yn ymateb yn unol â hynny.
Hoffwn hefyd geisio deall, ar ôl gofyn iddo ryw bythefnos yn ôl, pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran ceisio datblygu ymgyrch wybodaeth leol, er mwyn i'r Llywodraeth, fel mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fod â dealltwriaeth fesul ward o gyfraddau heintio, a, phan fo hynny'n bosibl, sut y gellir cyflawni y cyfyngiadau symud hyperleol yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws y sir neu'r rhanbarth. Ar hyn o bryd, rwy'n anghytuno â'r Gweinidog pan fo'n dweud nad yw'r rhain yn gyfyngiadau symud rhanbarthol. Yn y de, mae tua 2 filiwn o bobl bellach dan gyfyngiadau symud; byddwn i'n dyfalu—gyda'm dealltwriaeth i o'r gogledd—fod hyn fwy na thebyg yn effeithio ar tua hanner miliwn o bobl yn y gogledd-ddwyrain. Mewn gwirionedd, mae'r gogledd-ddwyrain cyfan bellach dan gyfyngiadau symud o nos Iau ymlaen, yn dilyn y cyhoeddiadau hyn. Felly, rwyf yn credu bod angen i'r Gweinidog geisio datblygu strategaeth lle y defnyddir gwybodaeth leol yn well i geisio cefnogi cyfyngiadau symud hyperleol, yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws y sir, pan fo'r wybodaeth yn cefnogi hynny.
Hoffwn glywed hefyd gan y Gweinidog pa gamau y mae'n eu cymryd mewn ymateb i bryderon y comisiynydd pobl hŷn a godwyd ddoe am ymweliadau â chartrefi gofal. Rwy'n deall y bu rhywfaint o newid yn y cyfyngiadau hynny a'r canllawiau hynny a gyhoeddwyd ddoe, ond rwy'n credu bod y pryderon gan y comisiynydd pobl hŷn wrth edrych i'r dyfodol—yn enwedig wrth i ni fynd i fisoedd y gaeaf—werth eu newid gan y Llywodraeth lle y gellir gwneud hynny, i hwyluso ymweliadau o'r fath â chartrefi gofal, oherwydd lles meddwl y preswylwyr dan sylw.
Hoffwn hefyd ddeall gan y Gweinidog yn arbennig pa gamau y mae ei Lywodraeth yn eu cymryd ynghylch myfyrwyr yn dychwelyd i lawer o'r siroedd sydd dan gyfyngiadau symud. Mae'n rhaid i les ac iechyd meddwl y myfyrwyr, yn ogystal â'r rhai hynny sy'n gysylltiedig â phrifysgolion, fod yn flaenoriaeth hollbwysig, a hoffwn ddeall pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng y Llywodraeth a'r sefydliadau, i wybod bod cynllun cynhwysfawr o gefnogaeth a chymorth ar waith o ran iechyd meddwl a lles.
Hoffwn ddeall hefyd gan y Gweinidog sut y mae'n bwrw ymlaen â'r adolygiad nesaf—hoffwn i weld gweithredu nawr, ond rwy'n deall y broses adolygu y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio iddi—o ran ceisio hwyluso mwy o fynediad i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Oherwydd ar hyn o bryd, yn amlwg, ni fydd ganddyn nhw fawr ddim cyswllt ag unigolion eraill, ac unwaith eto, mae gan hynny oblygiadau difrifol i iechyd meddwl a lles. Rwyf yn clywed yr hyn a mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud y prynhawn yma am ddymuno gwneud cynnydd yn y maes hwn; rwy'n deall bod cynnydd wedi'i wneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sef yr Alban, a byddwn yn annog y Gweinidog, os yw'n teimlo ei fod yn gallu, o dan y dystiolaeth bresennol sydd ganddo, i geisio gwneud cynnydd yn y maes hwn yn gyflymach na dim ond yr adolygiad 21 diwrnod a gynhelir ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig y bore yma ynglŷn â chapasiti ysbytai Nightingale yn gostwng o 19 ledled Cymru i ddeg. Yn amlwg, roedd y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn ôl yn y gwanwyn yn ymwneud ag atal y feirws fel na fyddai baich enfawr ar y GIG, yn y pen draw, a chyflwynwyd y capasiti hwn i geisio lleddfu baich o'r fath. Gyda'r cynnydd sydyn mewn cyfraddau heintio, gyda'r rhagfynegiadau yr wyf yn tybio bod y Gweinidog wedi eu gweld, a all ef roi ffydd i ni ei bod yn ddoeth lleihau'r capasiti gwelyau sydd ar gael drwy weithrediad yr ysbytai Nightingale a bod ganddo ffydd os—a gobeithio na fydd hyn yn digwydd, ond os—yw'n wir y bydd ymchwydd yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty, y byddai'r nifer presennol sydd ganddo ar gael iddo, ac sydd gan y GIG ar gael iddo, o ran gwelyau, yn gallu ymdopi ag ymchwydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r gwasanaeth iechyd ledled Cymru? Diolch, Llywydd.
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau yna; fe geisiaf ymdrin â phob un ohonyn nhw mor gyflym ag y gallaf. O ran sut y mae'r broses o wneud penderfyniadau yn gweithio a'r enghraifft o Fro Morgannwg ac eraill, wel, rydym ni, wrth gwrs, yn edrych ar y ffigurau a'r ystadegau, felly byddwn yn edrych ar ffigurau ar nifer yr achosion positif fesul 100,000. Mae'n rhaid i ni ystyried y ffaith ein bod yn deall bod y ffigurau hynny ychydig ar ei hôl hi, oherwydd mae gennym ni her o hyd o ran bod rhai o ganlyniadau labordai Lighthouse yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach nag yr oedden nhw rai wythnosau yn ôl. Felly, rydym ni bob amser yn gwybod bod y ffigurau ar y diwrnod ychydig y tu ôl i'r sefyllfa. Rydym ni hefyd yn edrych ar gyfraddau positif hefyd, a'r profi sy'n digwydd. Nid yw'n arbennig o anodd gweld y symudiad yn nifer yr achosion positif, ond hefyd cyfraddau'r achosion positif. Dyna nifer yr achosion newydd fesul 100 o brofion sy'n cael eu cynnal, ac felly gallwn ni ddeall beth sy'n digwydd i'r cyfeiriad teithio ym mhob ardal.
Rydym ni hefyd yn ceisio gweithredu mewn ffordd nad yw'n aros nes bod niwed sylweddol wedi'i achosi. Mae hynny'n golygu ein bod wedi cymryd camau lle gallwn weld awdurdodau yn ein categori ambr, os mynnwch chi, cyn iddyn nhw gyrraedd coch a 50 ac uwch. Mae hynny hefyd yn ystyried nid yn unig y ffigurau, nid yn unig y patrwm a'r cyfeiriad teithio, ond hefyd yr amgylchiadau lleol, fel ein bod yn deall lledaeniad a natur cyfraddau heintio, pa mor wasgaredig y mae'r rheini, a oes gennym ni glystyrau nad ydyn nhw wedi eu hesbonio o ran ble y gwnaethon nhw ddechrau. Ac yn y patrwm hwnnw o heintiau—mae hyn i gyd wedi'i nodi yn y cynllun rheoli coronafeirws yr wyf i'n siŵr bod yr Aelod wedi cael cyfle i'w ddarllen ar ôl ei gyhoeddi yn ystod yr haf. Ac mae hynny hefyd yn nodi ein dull o weithredu o ran pa un a allwn ni ymgymryd â chyfyngiadau lleol, nid rhai sirol. Ym mhob un dewis yr ydym wedi ei wneud, rydym ni wedi ymarfer ac ystyried y posibilrwydd o beidio â chymryd camau ar draws ardal bwrdeistref sirol gyfan, ac ar wahân i Lanelli yn Sir Gaerfyrddin, nid yw'r achos wedi'i wneud bod y patrwm lledaenu yn golygu y gallem ni ac y dylem ni gymryd mesur lleol yn y modd hwnnw—ond yn Sir Gaerfyrddin, roedd yn glir iawn nad oedd y patrwm lledaenu yn Llanelli yn digwydd yng ngweddill y sir. Mae gan Sir Gaerfyrddin wledig gyfradd lledaenu lawer is, a phe byddai yn Sir Gaerfyrddin wledig yn unig, ni fyddem ni wedi cymryd camau ychwanegol, ar yr adeg hon beth bynnag. Felly, dyna'r safbwynt yr ydym wedi ei gymryd; mae'n ystyriaeth reolaidd i ni.
Ac o ran ei bwynt nad mesurau lleol yw'r rhain mewn gwirionedd, mae'r Aelod yn gwbl anghywir. Cyfyngiadau lleol yw'r rhain o fewn ardal awdurdod lleol. Dyna lle mae'r mesurau'n berthnasol; dyna lle mae'r pwynt am yr esgus rhesymol a'r mesurau teithio yn berthnasol. Os yw'n wir y bydd awdurdodau lleol yn symud ar wahanol gyfraddau a gwahanol gyflymder o ran eu hadferiad a'u gallu i atal y feirws, yna byddwn ni'n gwneud dewisiadau am yr awdurdod lleol hwnnw. Ni fyddwn, er enghraifft, yn oedi os caiff cynnydd ei wneud yng Nghaerffili a Chasnewydd, ac yn dweud na ellir gwneud unrhyw gynnydd o ran adfer rhywfaint o'r rhyddid y bu'n rhaid i ni ei atal i amddiffyn pobl rhag niwed gan y coronafeirws nes bod rhannau eraill o dde Cymru wedi gwneud cynnydd hefyd. Felly, nid yw hwnnw'n fesur rhesymol o gwbl.
O ran barn reolaidd y comisiynydd pobl hŷn am bwysigrwydd ymweliadau â chartrefi gofal, rydym ni'n ystyried y sylwadau a wnaeth y comisiynydd pobl hŷn o'r blaen, ac ymagwedd y Llywodraeth hon tuag at amddiffyn pobl rhag niwed, a'r pryder na chymerwyd camau'n ddigon cynnar i amddiffyn preswylwyr cartrefi gofal rhag y niwed posibl y gallai trosglwyddo cymunedol ei achosi yn yr ardal honno. Cynhyrchwyd canllawiau Llywodraeth Cymru gennym yr wythnos diwethaf a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Nawr, mae'r rheini yn nodi rhywfaint o gymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau, ond dewisiadau awdurdodau lleol yw'r rhain yn y pen draw ynghylch pa un a ddylid rhoi terfyn ar ymweliadau o fewn ardal eu hawdurdod lleol ar gyfer eu darpariaeth uniongyrchol, a'u perthynas uniongyrchol â darparwyr y maen nhw'n comisiynu gofal ganddynt. Felly, mater i awdurdodau lleol yw hynny, gan ystyried y canllawiau yr ydym ni wedi'u darparu, y sgyrsiau rheolaidd sy'n digwydd rhwng y Llywodraeth a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, ac, yn wir, y nodyn a ddarparodd y comisiynydd pobl hŷn, a hynny yn ddefnyddiol yn fy marn i, ddechrau'r wythnos hon.
O ran myfyrwyr yn dychwelyd, mae'r Gweinidog addysg wedi nodi llawer o'r wybodaeth, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn gynharach. Bydd e'n ymwybodol bod yna fesurau ar waith gan bob prifysgol, nid yn unig ynghylch addysgu a dysgu, ond sut i ymgymryd â mesurau rheolaeth. Ac, yn fwy na hynny, os gwelwn ni gynnydd mewn cyfraddau heintio, rydym ni'n bwriadu cael sgwrs sy'n ystyried y gymuned yr ydym yn ymdrin â hi—boed hynny'n fyfyrwyr neu'n bobl yn y boblogaeth nad ydyn nhw'n fyfyrwyr. Nid ydym ni'n bwriadu cymryd camau ychwanegol ynghylch y myfyrwyr na fyddem ni'n eu cymhwyso i rannau eraill o'r gymuned. Nawr, efallai fod yr amgylchiadau y mae myfyrwyr yn byw ynddyn nhw ac yn gweithredu ynddyn nhw ychydig yn wahanol, ond mae'n ymwneud â'r patrwm a welwn ni, yn hytrach na cheisio cymryd camau ychwanegol neu anghyffredin oherwydd y gall myfyrwyr fod yn gweld cynnydd neu ostyngiad mewn cyfraddau heintio. Mae'n werth nodi hefyd, fel y dywedais o'r blaen, fod arweinyddiaeth pob sefydliad prifysgol ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ar lefel Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru ac yn lleol, yn fy marn i wedi bod yn gyfrifol iawn o ran eu negeseuon a'u harweinyddiaeth ar y mater hwn.
O ran byw ar eich pen eich hun, rydych chi wedi clywed yr hyn a oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud: mae'n fater o ystyriaeth weithredol o fewn y Llywodraeth, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud, ac mae hynny'n unol â'n proses adolygu 21 diwrnod. Byddwn ni'n adrodd ddydd Gwener. Pe gallem ni wneud penderfyniad cyn hynny, yna mae'n agored, wrth gwrs, i ni wneud hynny, ond nid yw hwn yn fater lle'r ydym ni'n ceisio treulio wythnosau ac wythnosau yn ystyried ac osgoi gwneud penderfyniad. Nododd y Prif Weinidog hynny yn eithaf manwl yn gynharach heddiw.
O ran ysbytai maes yng Nghymru, rydym ni'n dysgu o'r don gyntaf. Byddwch chi'n cofio, gan eich bod yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y briff a roddwyd gennym i'r pwyllgor hwnnw ar y modelau sefyllfa waethaf rhesymol a'r wybodaeth yr ydym ni yn ei chael o ddata a gwybodaeth wirioneddol yma yng Nghymru. Dyna'r sail yr ydym ni'n cynllunio arni a'r sail yr ydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio arni. Dylai'r dewis o ysbytai maes yr wyf i wedi'i wneud roi i ni y capasiti y mae'r Aelod yn ei nodi ar gyfer y lefel honno o sicrwydd. Ac os gwelwn ni ymchwydd, yna dylem ni allu sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn briodol o fewn ein system ni yma yng Nghymru, naill ai mewn darpariaeth uniongyrchol estynedig mewn ysbyty gwasanaeth iechyd gwladol, neu yn wir yn un o ysbytai maes newydd y GIG sydd gennym ni yng Nghymru. Ond, fel bob amser bydd angen i ni barhau i adolygu'r sefyllfa gan fod lledaeniad y coronafeirws yn effeithio ar yr holl ddewisiadau a wnawn. Ond,rwy'n gobeithio y gallwn ni ymyrryd yn ddigon cynnar i beidio â bod angen y capasiti llawn hwnnw a'r niwed a fyddai'n golygu y bydd llawer iawn o ddinasyddion yng Nghymru yn dioddef.
Diolch am y datganiad gan y Gweinidog. I bobl sydd wedi bod yn cadw llygad ar ledaeniad y feirws a'r ystadegau sy'n cael eu rhannu efo ni, fydd, yn anffodus, y datganiad heddiw ddim wedi dod fel syndod mawr, o bosib. Ond, yn sicr, dwi'n teimlo dros y rhai sydd yn byw yn yr ardaloedd newydd, yng Nghonwy, Dinbych, sir y Fflint a Wrecsam, sydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr o siroedd sydd o dan gyfyngiadau ychwanegol. Maen nhw'n gyfyngiadau llym iawn sydd yn cymryd rhyddid oddi ar bobl, ac wrth gwrs rydyn ni'n gobeithio mai am gyfnod byr y bydd hynny. Y neges i fy etholaeth i yn Ynys Môn, ac i Wynedd a rhannau eraill o Gymru sydd ddim o dan gyfyngiadau, wrth gwrs, yw bod y peryg yno. Os ydy'r ffigurau yn codi, os dydy'r camau ddim yn cael eu cymryd gan Lywodraeth a'r boblogaeth i drio gwarchod eu hunain, gallan nhw fod nesaf, fel petai.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn fy mod i'n cefnogi gweithredu mor lleol â phosib. Tybed a ydy o'n gallu dweud wrthym ni, yng nghyd-destun y gogledd yn arbennig, sut ydyn ni'n gallu bod â hyder bod, dywedwn ni, sir Ddinbych wledig ddim angen bod mewn cyfyngiadau. Hynny ydy, pam gweithredu ar lefel sirol fel hyn? Dwi'n apelio am rannu'r data yna, fel maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, wrth gwrs, fyddai yn dangos yr achosion o ardal i ardal, ardaloedd bychain iawn.
Hefyd, wrth gwrs, wrth i ragor o ardaloedd gael eu cynnwys, rydyn ni'n cynnwys mwy a mwy o'r boblogaeth, ac mae fy mhryder i yn sicr yn cynyddu ynglŷn â'r effaith ar les pobl, ar iechyd meddwl pobl. Dwi'n meddwl yn arbennig am bobl sydd yn byw ar eu pennau eu hunain. Ydy'r Gweinidog yn siapio yn ei feddwl o ryw strategaeth allai estyn allan at y rheini sydd o dan fwyaf o fygythiad o ddioddef y pwysau yna o ran iechyd meddwl ac yn y blaen? Mi fyddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod sut mae'r Llywodraeth yn meddwl ar hyd y llinellau yna.
Rwyf eisiau troi at brofion hefyd. Rydym ni'n gofyn i bobl ymddwyn mewn ffordd benodol, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi trefn arni hi ei hunan hefyd. Eich penderfyniad chi, wrth gwrs, oedd dibynnu ar labordai lighthouse, yn hytrach na rheoli ein capasiti ein hunain. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw y byddai capasiti mewnol Cymru yn cyrraedd 8,000 y dydd ymhen ychydig wythnosau; 5,000 yr wythnos nesaf, 8,000 wythnos neu ddwy ar ôl hynny. Ond, rwyf am eich atgoffa chi o'r addewid y byddem ni wedi cyrraedd 9,000 y dydd erbyn diwedd mis Ebrill yng Nghymru. Pe byddem ni wedi cadw at y llwybr hwnnw, rwy'n credu y byddem ni fwy na thebyg mewn sefyllfa well na bod wedi aros gyda lighthouse. Mae angen datrys hyn, wrth gwrs, oherwydd mae angen profion cyflym arnom ni, canlyniadau cyflym, er mwyn cychwyn yr olrhain cyflym a fydd yn helpu i ynysu achosion. Felly, eich ymateb ar hynny hefyd.
Yn olaf, os caf i, droi at drosglwyddo mewn ysbytai. Nawr, mae pryder aruthrol, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn arbennig, am ddiffyg paratoi, mae'n ymddangos, ar gyfer yr ail don, er gwaethaf rhybuddion—yn enwedig gan dros 100 o glinigwyr, dywedir wrthyf i, a lofnododd lythyr yn ystod yr haf yn galw am sefydlu safle gwyrdd. Mae nifer o wardiau â phobl sydd wedi profi'n bositif ar gyfer COVID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg erbyn hyn, mae'r uned gofal dwys wedi bod yn gweithredu ar ei chapasiti llawn ac, er eu bod yn gwybod am beryglon trosglwyddo mewn ysbyty, dywedir wrthyf mai dim ond yr wythnos diwethaf y dechreuon nhw brofi cleifion wrth iddyn nhw gael eu derbyn i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, heblaw am gleifion dewisol. Nid yw profi staff yn rheolaidd yn digwydd o hyd, rwy'n deall.
Felly, a all y Gweinidog ddweud pam y mae gan yr ysbyty hwn gyfraddau trosglwyddo mor uchel, yn union fel yn ystod y don ddiwethaf, pam mae cyn lleied, i bob golwg, wedi newid, beth sydd wedi'i wneud i'w ddiogelu ef ac ysbytai eraill a'r rhai sy'n gweithio ynddyn nhw a'r rhai y gofelir amdanynt? Rwy'n deall y gallai newidiadau fod ar fin cael eu cyflwyno i'r ysbyty hwnnw a sut y mae'n derbyn cleifion ac yn y blaen, ond, os felly, pam dim ond nawr, o gofio'r rhybuddion a gafwyd ers cymaint o amser?
O ran eich pwynt am weithredu lleol yn hytrach na gweithredu ar draws y sir, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â hynny wrth ymateb i Andrew R.T. Davies. Mae'n rhan reolaidd o ystyriaeth, a byddwch chi'n gweld ein bod wedi gwneud y dewis hwnnw o fewn Sir Gaerfyrddin. Rydym ni'n ystyried yn rheolaidd y cyngor yr ydym ni'n ei gael gan y timau rheoli digwyddiadau lleol ar batrwm yr haint sy'n bodoli, ac yna mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau ar sail tystiolaeth a gwybodaeth leol am hynny. Os ydym ni mewn sefyllfa i fod â phatrwm gwahanol o fesurau'n dod i rym, yna byddem ni'n gwneud hynny. Mae hyn i gyd yn ymwneud â sut yr ydym ni'n diogelu Cymru a sut yr ydym yn cadw cymunedau unigol a grwpiau o gymunedau yn ddiogel ledled y wlad hefyd.
O ran eich pwynt am unigrwydd a bod yn ynysig ac iechyd a lles meddwl pobl, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei ystyried yn rheolaidd drwy gydol hyn. Mae rhan o'r rheswm pam mae'r swigod aelwydydd neu aelwydydd estynedig wedi'u cyflwyno, i wneud yn siŵr bod patrwm rhagweladwy o bobl sy'n cwrdd â'i gilydd dan do, oherwydd gan eich teulu a'ch ffrindiau y daw'r risg fwyaf o heintio. Byddwch chi wedi clywed gan Rob Orford, y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor iechyd mai nhw yw'r bobl yr ydych chi'n fwyaf tebygol o roi'r coronafeirws iddyn nhw neu o ddal y coronafeirws ganddyn nhw. Mae'n fesur anodd iawn, iawn i chwalu'r trefniadau swigod aelwydydd hynny ac mae'n un o'r rhannau anoddaf o wneud penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu hwynebu, felly nid ydym ni'n gwneud hynny'n ddifeddwl.
Rydym ni'n edrych, fel y gwyddoch chi, ar fesurau unigol i weld a allwn ni wneud mwy, oherwydd, yn sicr, fel yr wyf i wedi'i gydnabod yn y datganiad, rwy'n cydnabod bod y mesurau yr ydym yn eu cymryd i ddiogelu bywydau pobl yn dod gydag anfanteision, ac, fel y dywedais, nid yw hynny'n rhywbeth a wnawn yn ddifeddwl o gwbl.
O ran eich sylwebaeth reolaidd am brofion, byddwch chi'n ymwybodol nad oedd unrhyw gyllid canlyniadol ar gael o ran y rhaglen labordai lighthouse. Roedd yn rhaglen i ni naill ai gymryd rhan ynddi neu beidio, ac roedd llawer o'r sylwebaeth ar y dechrau yn gofyn pam nad oeddem ni'n cymryd rhan yn y rhaglen, a byddwch chi'n cofio i mi ddweud o'r blaen mai'r rheswm am hynny oedd nad oeddem ni'n gallu cael y data yn llifo i mewn atom ni. Rydym ni erbyn hyn. Rydym ni wedi gallu gwneud hynny mewn ffordd gyson yng Nghymru drwy gydol y cyfnod hwnnw. Dyna pam nad ydym ni wedi gweld rhai o'r heriau a fu yn Lloegr yn ddiweddar am ychydig ddyddiau ar ap COVID y GIG, oherwydd ein bod ni wedi llwyddo i drefnu ein system a chael yr holl wybodaeth honno yn llifo i mewn i system Cymru ac yn mynd i'n swyddogion olrhain cysylltiadau ac yn fwy cyffredinol.
Mae'n wir hefyd, wrth gwrs, nad ni yw'r unig Lywodraeth sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen brofi labordai lighthouse. Cymerodd Llywodraeth yr SNP yn yr Alban ran yn llawer cynharach nag y gwnaethom ni, fel y gwnaeth y Llywodraeth amlbleidiol yng Ngogledd Iwerddon. Ochr yn ochr â hynny, rydym wedi meithrin ein capasiti ein hunain ac yn awr mae gennym 3,000 i 4,000 o brofion labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu cynnal bob dydd. Rydym yn disgwyl gweld hynny'n cael ei ehangu yn y dyddiau nesaf i fod yn rhan reolaidd ac yn nodwedd o'n system. Felly, rydym ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa lle mae hynny'n helpu i gynnal proses brofi Cymru ar hyn o bryd, wrth i ni aros i labordai lighthouse adfer eu prosesau, ac rydym wedi cynnwys y cynnydd disgwyliedig yn y galw.
O ran eich pwynt am gyflymder olrhain ac nid ei lwyddiant yn unig, mae hon yn stori newyddion da wirioneddol i Gymru. Dylem ni fod yn falch iawn o'r hyn y mae ein gweision cyhoeddus wedi'i wneud wrth i iechyd a llywodraeth leol weithio gyda'i gilydd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf pan wnaethom ni gyhoeddi ffigurau, olrheiniwyd 94 y cant o achosion newydd yn llwyddiannus, ac o ran eu cysylltiadau, olrheiniwyd 86 y cant o'u cysylltiadau yn llwyddiannus ac olrheiniwyd 73 y cant o'r cysylltiadau hynny o fewn 24 awr. Felly, rydym ni'n cyrraedd niferoedd uchel o bobl ac rydym ni'n eu cyrraedd yn gyflym iawn hefyd. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau, serch hynny, yw bod mwy o wybodaeth yn cael ei darparu i ni yn gyflymach i ganiatáu i'n swyddogion olrhain cysylltiadau wneud eu gwaith, oherwydd mae hynny'n rhan hanfodol o gadw'r holl fathau eraill o weithgarwch ar agor i fusnes ledled Cymru, boed hynny mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel neu isel o achosion. Ond rwy'n credu'n gyffredinol y gall pobl o bob ochr a gogwydd gwleidyddol gymryd cyfran o'r clod am yr hyn y mae system profi, olrhain a diogelu GIG Cymru yn ei gyflawni ledled y wlad.
O ran Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol wedi anfon nodyn atgoffa at bob rhan o'r gwasanaeth ynghylch profi cleifion cyn iddyn nhw ddod i mewn. Mae staff yn cael eu profi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a bydd unrhyw benderfyniadau a wneir am unrhyw fesurau rheoli pellach yn digwydd ar ôl i'r tîm rheoli lleol a'r asiantaeth iechyd cyhoeddus leol eu hystyried, ynghyd â'r awdurdod lleol fel partner allweddol. Oherwydd bydd angen i ni feddwl am bwy y mae angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty hwnnw a sut y mae'r parthau coch a gwyrdd sydd ar waith yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mewn ysbytai eraill yn gweithio—i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n effeithiol. Rydym yn deall bod rhywfaint o hyn yn ymwneud â throsglwyddo o fewn yr ysbyty a daw rhywfaint ohono hefyd o'r realiti bod cronfa gymunedol o coronafeirws sydd wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf, a dyna pam mae Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r drefn cyfyngiadau lleol sydd gennym ar waith ar draws nifer o awdurdodau yng Nghymru. Ond pan fydd penderfyniad i'w wneud, mater i'r bwrdd iechyd lleol fydd cymryd rhai o'r camau hyn, ond os bydd angen i mi wneud penderfyniad, yna byddaf yn sicrhau fy mod yn cyfleu hynny i'r Aelodau a'r cyhoedd cyn gynted â phosibl.
Gweinidog Iechyd, mae pandemig COVID-19 bellach wedi mynd â bywydau dros filiwn o bobl ledled y byd, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Johns Hopkins. Yn y Deyrnas Unedig, cyfanswm y marwolaethau ar hyn o bryd o ran coronafeirws yw 57,860, ac yng Nghymru, cyfanswm ein marwolaethau ni yw 1,612. Mae'r niferoedd hyn yn cynrychioli bodau dynol—mam rhywun, tad rhywun, brawd rhywun a chwaer rhywun. Fel Aelod y Senedd dros Islwyn, gyda'i glwstwr mawr o gymunedau yn y Cymoedd sy'n rhan o awdurdod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy'n croesawu y camau prydlon iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ym mis Medi, pan welsom ni nifer y profion cadarnhaol yn cynyddu'n gyflym. Mae'r cyfyngiadau coronafeirws lleol yn anodd i bob un ohonom. Mae angen i bobl gymdeithasu a byw ein bywydau gwerthfawr mewn rhyddid. Fodd bynnag, rydym yn wynebu argyfwng iechyd y cyhoedd nas gwelwyd mewn canrif. Ceidwaid ein brodyr a'n chwiorydd ydym ni, a hoffwn ddiolch i bawb ledled Islwyn sy'n dilyn y cyfyngiadau yn ddiwyd ac sy'n aberthu'n ddyddiol i wneud hynny.
Gweinidog iechyd, a fyddech chi'n cytuno â mi fod trigolion Islwyn, sy'n gwneud yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, gan ufuddhau i'r cyfyngiadau a gwneud yr aberthau hynny, yn gyntaf, yn gwneud gwahaniaeth? Cyn y cyfyngiadau hyn, bwrdeistref sirol Caerffili oedd â'r gyfradd uchaf o gynnydd yn nifer yr achosion yng Nghymru, ac erbyn hyn mae ganddi un o'r cyfraddau gostwng cyflymaf, ledled y Deyrnas Unedig, i lawr i 50.3 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl, ar ôl mwy na phythefnos o dan gyfyngiadau, ac mae hyn yn bwysig. Ac i'r rhai hynny sy'n gwadu ac yn credu nad yw hynny'n wir, fe'ch cyfeiriaf chi at y gweithwyr iechyd proffesiynol sydd a budd yn eich iechyd, eich lles, y rhai hynny yr ydych chi'n mynd atyn nhw ynglŷn â materion tyngedfennol. A gwn fod y Gweinidog iechyd—
Rhianon Passmore, datganiad yw hwn, ac mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Diolch. Felly, i grynhoi, Gweinidog iechyd, pa neges, nawr, a fyddech chi yn ei rhoi i bobl Islwyn ynghylch sut y gallan nhw ddylanwadu ar y chwe mis nesaf, a pha neges o obaith a fyddech chi yn ei rhoi iddyn nhw bod angen y rheoliadau hyn a'u bod yn gweithio? Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Aelod dros Islwyn, ac rwy'n hapus i gadarnhau bod trigolion Islwyn wir yn gwneud gwahaniaeth. Bwrdeistref sirol Caerffili, fel y dywedwch, oedd â'r gyfradd uchaf yng Nghymru ychydig wythnosau yn ôl; mae'n gostwng erbyn hyn—mae'n hofran o amgylch 50 fesul 100,000. Rydym eisiau gweld y gostyngiad hwnnw, a'i fod yn ostyngiad cyson, o dan 50 fesul 100,000, i ganiatáu i ni ystyried dychwelyd y rhyddid yr oedd yn rhaid i ni gyfyngu arno. Ac, fel y dywedais, nid yw hynny'n rhywbeth ysgafn na hawdd ei wneud; mae'n ymyrraeth sylweddol i'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Rwy'n awyddus i weld hynny'n dychwelyd, ond mae'r mesurau yr ydym wedi'u cymryd i chwalu aelwydydd estynedig, wrth gyflwyno'r cyfyngiadau ar deithio—. Gwyddom fod llai o bobl yn teithio oddi mewn a'r tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili, rydym yn gwybod hynny, oherwydd bod y cyfraddau heintio yn gostwng, gallwn fod yn ffyddiog bod y mesurau y mae pobl yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth, a'r gobaith yw, a'r disgwyl yw, os gall hynny weithio yng Nghaerffili, yna gall weithio mewn unrhyw ran arall o'r wlad hefyd. Felly, diolch i'r tîm ym mwrdeistref sirol Caerffili, nid yn unig ar lefel y bwrdd iechyd ac ar lefel y cyngor, dan arweiniad Philippa Marsden, ond, mewn gwirionedd, y trigolion eu hunain hefyd. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys etholaethau eraill Caerffili a rhan Rhymni o Ferthyr Tudful a Rhymni.
Ac rwy'n credu mai'r gobaith ar gyfer y dyfodol yw nad yw'n anochel bod yn rhaid i gyfyngiadau fod yn esgynnydd un ffordd i fwy a mwy o fesurau ac ymyrraeth ychwanegol i ryddid pobl. Credaf ei bod yn bosibl gweld gostyngiad ac mae'n mater i bob un ohonom wneud ein rhan—deall y rheolau a dilyn y rheolau, a pheidio â chwilio am ffordd o dorri'r rheolau, ond cydnabod eu bod yno i bob un ohonom er lles pob un ohonom. Ac os byddwn yn eu dilyn, dyna'r peth mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud, ynghyd â hylendid dwylo da a chadw pellter cymdeithasol, i leihau maint y niwed, yr ydych chi yn ei nodi'n gywir, sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru a gweddill y DU.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n amlwg y bydd llawer o bobl yn y gogledd yn eithaf pryderus am y cyfyngiadau newydd y byddan nhw yn eu hwynebu nawr. Cyfeiriwyd eisoes at yr angen am ddata mwy lleol, ac, wrth gwrs, cyhoeddir yr wybodaeth hon fesul ward yn Lloegr, ond, yn anffodus, nid felly yma o ran nifer yr achosion mewn ardaloedd cyfagos. Ac, wrth gwrs, ein gwaith ni yw sicrhau ein bod yn craffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, ac un o'r pethau yr ydych chi wedi'i ddweud yn gyson sydd yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi gadw ato, yw bod yn rhaid i'r mesurau a gymerwch fod yn gymesur. Wel, sut yr ydym ni'n gwybod pa un a yw gosod cyfyngiadau symud ar draws y sir yn gymesur os na allwn ni weld y data yr ydych chi'n seilio eich penderfyniadau arnynt? Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnoch i gyhoeddi'r wybodaeth honno, oherwydd nid wyf yn deall ac nac yn gallu gweld sut, os yw cyfraddau heintio yn uchel mewn un rhan o sir, y dylai'r sir gyfan a'r holl bobl hynny sy'n byw ynddi wynebu cyfyngiadau ychwanegol o ganlyniad i hynny. Yng Nghonwy a Sir Ddinbych, ceir arfordiroedd trefol gyda chefnwlad wledig iawn, a gwyddom ei bod yn ymddangos bod y dystiolaeth yn awgrymu, lle ceir poblogaeth wledig wasgarog iawn, fod y cyfraddau heintio yn is.
Y peth arall sy'n wahanol iawn yn y gogledd o'i gymharu â'r rhannau hynny o'r de sy'n wynebu'r cyfyngiadau ychwanegol hyn ar hyn o bryd yw'r ffaith bod y gogledd yn dibynnu'n helaeth ar yr economi ymwelwyr. Mae oddeutu un o bob saith swydd yn fy etholaeth i fy hun yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth, ac nid busnesau yn y diwydiant twristiaeth yn unig sy'n cyflogi, ond, wrth gwrs, y busnesau eraill hynny nad ydyn nhw yn ymwneud â thwristiaeth yn uniongyrchol sydd hefyd yn dibynnu ar yr ymwelwyr sy'n dod i wario arian. Dim ond gwerth dau fis o ymwelwyr y mae'r busnesau twristiaeth wedi ei gael eleni, ac, yn gyffredinol, braster misoedd yr haf sy'n cadw llawer o'r busnesau hyn yn fyw yng nghanol trefi fel Bae Colwyn, Tywyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Felly, a gaf i ofyn pa gymorth ychwanegol y gallech chi sicrhau ei fod ar gael i'r busnesau hynny, o gofio eu bod wedi cael eu taro yn arbennig o galed? Clywais y datganiad gan Weinidog yr economi yn gynharach, ond nid wyf yn credu bod hynny'n mynd yn ddigon pell ar gyfer y busnesau hynny sy'n cael eu taro'n galed iawn gan y pandemig.
Un cwestiwn olaf, os caf i—
Un terfynol, yn fyr iawn.
Sylwaf fod y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o'r siroedd hyn hefyd yn effeithio ar bobl â ffydd mewn ffordd arwyddocaol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ystyrir ei fod yn esgus rhesymol i deithio y tu hwnt i ffin eich awdurdod lleol i fynychu man addoli o'ch dewis. Nawr, mae llawer o bobl â ffydd sy'n teithio ar draws ffiniau eu sir er mwyn mynd i wasanaethau mewn eglwysi a synagogau enwadau neu addoldai eu ffydd benodol. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n dderbyniol yn fy marn i, a byddwn yn eich annog, Gweinidog, i edrych ar hyn eto. Rydych wedi bod yn ystyriol iawn o gymunedau ffydd yn gyffredinol drwy gydol y cyfyngiadau symud hyn, ond mae lles ysbrydol yr un mor bwysig ag iechyd meddwl a lles corfforol, ac felly fe'ch anogaf i edrych eto ar y cyfyngiad penodol hwnnw i weld a oes unrhyw ffordd y gellir ymdrin â hynny.
O ran eich pwynt olaf, fe edrychaf eto ar y mater, oherwydd rydym ni'n cael sgyrsiau rheolaidd gydag arweinwyr ffydd, ond mae hyn yn ymwneud â chadw pobl yn fyw yn y lle cyntaf a sut yr ydym wedyn yn ceisio eu cadw'n iach, ac mae'r rhain yn ymyrraeth sylweddol ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Rwyf wedi cydnabod hynny nid yn unig heddiw, ond ar sawl achlysur arall. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw defnyddio dull o weithredu sy'n cydbwyso'r niwed y gwyddom y mae'r coronafeirws yn ei achosi a gweld sut y gallwn ni atal y feirws er mwyn caniatáu ffordd wahanol a mwy arferol, yn y cyfnod anarferol hwn yn sicr, i bobl fynd ati i fyw eu bywydau. Ond y man cychwyn yw sut yr ydym yn cadw pobl yn fyw yn y lle cyntaf.
Edrychwch, rwy'n deall y pwynt yr ydych wedi ei wneud, nid heddiw'n unig, ar ddata, ac rwyf wedi ymrwymo i edrych arno, a byddaf yn gwneud hynny ac yn dod yn ôl, nid yn unig at Darren Millar, ond mae'n rhywbeth y credaf y bydd yn cael ei godi yn y pwyllgor iechyd yfory am y data sydd gennym ni a sut y caiff y data eu darparu, eu cyhoeddi, ac y sicrheir eu bod ar gael, nid yn unig i Aelodau, ond i'r cyhoedd yn ehangach hefyd.
Ond mae'n bwysig nodi nad ymarfer sy'n cael ei lywio gan ddata yn unig yw hwn. Mae'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gawn ni gan ein timau profi, olrhain a diogelu lleol bob amser yn chwarae rhan, ac mae gan yr wybodaeth a'r dystiolaeth a gawn gan bartneriaid lleol sy'n gweithio gyda'i gilydd yn y timau rheoli digwyddiadau a nodwyd gennym ac a ddisgrifiwyd gennym yn glir yng nghynllun rheoli coronafeirws, ran i'w chwarae yn y dewisiadau a wnawn. Ac maen nhw bob amser yn ddewisiadau anodd hefyd. Nid yw cydbwysedd hyn yn syml o ran yr hyn yr ydym yn dewis ei wneud a sut yr ydym yn dewis ceisio amddiffyn pobl nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at eich pwynt am gymunedau arfordirol a'r lledaeniad gwledig, mae hwnnw'n bwynt yr ydym yn ei gydnabod mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd, a chredaf fod rhannau o'r de wedi cydnabod bod ganddyn nhw boblogaethau ar hyd eu harfordir a chefnwlad wledig hefyd. Mae'n werth nodi, wrth gwrs, bod llawer o'r cymunedau arfordirol yn y gogledd yn arbennig o agored i niwed, oherwydd mae nifer sylweddol o bobl wedi ymddeol ac yn byw yng nghymunedau arfordirol y gogledd. Felly, mewn gwirionedd, mae'r niwed y gallai cynnydd sylweddol mewn coronafeirws ei achosi fod yn fwy o lawer nag mewn poblogaethau eraill.
O ran eich pwynt am dwristiaeth, rwy'n cydnabod bod twristiaeth yn rhan sylweddol o'r economi yn y gogledd. Cefais gyfle mewn cyfnod gwell i ymweld â phenrhyn Llŷn gyda'm teulu am wythnos eleni, a chafodd y mesurau a oedd ar waith yn y rhan honno o Gymru i ofalu am drigolion a thwristiaid fel ei gilydd argraff fawr arnaf. Mae'r atyniadau yn glir iawn, ac mewn cyfnod gwell byddem i gyd yn annog pobl i'w profi. Ond nid yw'n wir, serch hynny, nad oes yr un math o effaith yn y de. Nid wyf yn credu bod y ffordd yr ydych chi'n nodweddu nad yw twristiaeth yn rhan sylweddol o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried yn y de yn gywir. Nid dim ond Gŵyr neu Ynys y Barri sydd ag effaith dwristiaeth, ac rydym wedi gorfod meddwl am hynny ym mhob dewis yr ydym wedi'i wneud. Fel y dywedais, nid ydyn nhw'n syml nac yn rhwydd. Mae cyhoeddiad Ken Skates wedi cadarnhau swm sylweddol o gymorth sydd ar gael i fusnesau yn yr ardaloedd hyn o gyfyngiadau lleol a chronfa wedi'i thargedu'n benodol at fusnesau yn y sector twristiaeth. Byddem yn dymuno gwneud mwy a mynd ymhellach, ond realiti ein sefyllfa cyllideb yw na allwn ni wario arian nad yw gennym ni.
Rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill ledled y DU i chwilio am becyn cymorth mwy sylweddol, oherwydd mae dadleuon tebyg, wrth gwrs, yn cael eu cyflwyno ymysg y 10 miliwn a mwy o'r bobl hynny yn Lloegr sydd hefyd yn gorfod byw gyda rhywfaint o gyfyngiadau lleol—yr effaith ar fusnesau yno. Gobeithiaf yn sicr y bydd y Canghellor yn edrych eto ar y mesurau y gall eu cymryd i gefnogi rhannau o'r economi yr effeithir arnynt yn uniongyrchol oherwydd y camau y bydd yn rhaid i bob Llywodraeth eu cymryd i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rydych chi yn llygad eich lle wrth dynnu sylw at yr anawsterau i bobl sydd wedi ymddeol, yn arbennig, a byddwch yn ymwybodol bod gan Aberconwy, wrth gwrs, o ran demograffeg, un o'r poblogaethau hŷn. Nawr, gallaf ddweud wrthych chi fod llawer o'm hetholwyr yn y math hwnnw o ddosbarth wedi dioddef o ddifrif yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf, ac roedd gennym y nosweithiau goleuach, roedd gennym y tywydd gwell, felly, wrth i ni fynd tuag at y dyddiau llawer byrrach a'r tywydd gwael, rwyf wir yn poeni. Felly, pa rwydwaith cymorth y byddwch yn ystyried ei roi ar waith ar gyfer y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain? Oherwydd, yng nghanol y cyfyngiadau symud diwethaf, tynnodd Age UK sylw at ymchwil yn dangos bod dros ddwy ran o bump o bobl 70 oed a hŷn wedi dweud bod coronafeirws wedi effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd meddwl. Felly, rwy'n ofni'r categori hwn o bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn aml heb unrhyw aelodau o'r teulu o gwmpas. Pa gymorth allan nhw ei gael? A allan nhw gael ffrindiau hyd yn oed—ffrind penodol—i ymweld? Dyma'r cwestiynau y bydd fy etholwyr i yn eu gofyn pan fyddan nhw'n cysylltu â mi.
Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i sicrhau bod y rheolau cyfyngiadau symud lleol yn unol ag erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a hwnnw yw'r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol? Pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi yn eu rhoi ar waith ar gyfer ein hardaloedd lleol? Gadewch i ni fod yn onest, yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf, mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, safodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei draed ac fe wnaeth ddarparu rhwyd gref o gefnogaeth i'n cymunedau lleol, ond daeth hynny ar gost i'n hardaloedd lleol, ac maen nhw'n dal yn sigledig yn sgil y pwysau y mae'r rheini—wyddoch chi, y diffyg cyllid gan eich Llywodraeth chi.
Roedd Darren Millar yn llygad ei le wrth sôn am fudd economaidd twristiaeth i'n sir—tua £900 miliwn. Eisoes y prynhawn yma, gan ofni'r hyn y gallech chi fod yn ei gyhoeddi heddiw, mae ein busnesau lletygarwch yn pryderu'n fawr. Nawr, y tro diwethaf, fe daeth Llywodraeth y DU i'r adwy yn dda iawn ar gyfer ein busnesau. A wnewch chi addo nawr—gwn y bu cyhoeddiad heddiw, ond a wnewch chi addo nawr y bydd eich Llywodraeth yn camu i'r adwy ac yn cefnogi'r busnesau hynny? A fyddan nhw'n gallu croesawu ymwelwyr o'r tu mewn ac o'r tu allan i'r sir?
Ac yn olaf—[Torri ar draws.]—ie, diolch, Llywydd—yn olaf, ar hyn o bryd, dim ond os ydyn nhw'n dangos symptomau y caiff preswylwyr cartrefi gofal yng Nghonwy eu profi. A wnewch chi yn awr—o gofio'r ffiasgo a welodd pob un ohonom ni yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf, a fyddwch chi nawr yn argymell cynnal profion wythnosol ar gyfer yr holl gartrefi gofal, cartrefi nyrsio, preswylwyr a staff? Diolch. Diolch, Llywydd.
Diolch am y cwestiynau y byddaf yn ymdrin â hwy yn eu tro. O ran aelwydydd un oedolyn, mae'n rhaid i ni ystyried y cydbwysedd rhwng niwed a budd, ac rwyf wedi ateb dau gwestiwn yn y gyfres hon o gwestiynau sydd eisoes ar y pwynt hwnnw'n union, ac atebodd y Prif Weinidog gwestiynau hefyd, felly bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r ffaith ei fod yn ystyriaeth gan y Llywodraeth gyfan, mae'n cael ei hystyried yn weithredol, ac rydym eisiau gallu gwneud penderfyniad o fewn yr wythnos hon, a byddwn yn glir gyda phobl beth bynnag fydd y dewis hwnnw. Mae'n werth nodi, wrth gwrs, nad oedolion hŷn yn unig sydd weithiau'n byw fel aelwydydd un oedolyn; mae oedolion ifanc a chanol oed unigol yn byw ar eu pennau eu hunain; mae rhieni unigol yn byw gyda phlant dibynnol y gwyddom eu bod hefyd wedi cael rhai heriau o ran yr unigrwydd a'r ynysu y maen nhw wedi ei deimlo. Felly, rydym ni'n cydnabod bod hon yn her ehangach.
Mae'n ddiddorol clywed Janet Finch-Saunders yn siarad am hawliau dynol a'r confensiwn Ewropeaidd. Cydnabyddir yr effaith ar hawliau dynol yn y memorandwm esboniadol ar gyfer yr holl reoliadau a gyhoeddir gennym, ac mae'n gydnabyddiaeth bod hyn yn ymyrraeth i amrywiaeth o hawliau. Ac mae'n ymwneud â'r cydbwysedd mewn hawliau ac mae'n ymwneud â chydnabod bod dull cytbwys i'w ddefnyddio. Yr un her a wynebwn bob tro y byddwn yn cyflwyno rheoliadau yn y pandemig hwn, yn union fel y mae'n rhaid i bob Llywodraeth arall, boed hynny yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ei wneud hefyd.
O ran eich galwadau ehangach am wariant, nid wyf yn derbyn y nodweddu y mae'r Aelod yn ceisio ei briodoli i gymorth ariannol i lywodraeth leol. Nid hynny yn unig ydyw, mae gan lywodraeth leol yng Nghymru, a dweud y gwir, fargen ariannu well yn gyffredinol na chydweithwyr yn Lloegr; rydym ni wedi darparu cyllid sylweddol ymlaen llaw ar gyfer llywodraeth leol a groesawyd ar draws y sbectrwm gwleidyddol o fewn llywodraeth leol. Ac rwyf o'r farn nad yw ei sylwadau yn adlewyrchu'r bobl sy'n gwneud y gwaith mewn llywodraeth leol a'r berthynas adeiladol iawn sydd gennym ni â nhw. Mae'r cyfarfodydd yr ydym wedi eu cael ar gyfer pob cyfres o gyfyngiadau lleol wedi cynnwys arweinyddion gwleidyddol, ni waeth pa blaid y maen nhw yn ei chynrychioli. Mae'n ymgais fwriadol i weithio mewn ffordd aeddfed ac adeiladol iawn, ac nid yw cywair sylwadau'r Aelod yn adlewyrchu'r busnes gwirioneddol yr ydym yn ei wneud gyda phobl mewn swyddi â chyfrifoldeb mewn llywodraeth leol ledled Cymru.
O ran arian i fusnesau, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â hynny o'r blaen, ac mae Ken Skates eisoes wedi nodi ble yr ydym ni o ran cymorth, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gallu gwneud mwy, ond realiti ein cyllideb yw, er bod gennym ni bwerau i wneud ystod o bethau, mae angen mwy o arian arnom i allu gwneud hynny. Nid ni yw'r unig Lywodraeth yn y sefyllfa honno a chredaf y bydd galw gan fusnesau ym mhob rhan o'r DU am fwy o gymorth, oherwydd mae'r pandemig ymhell o fod drosodd.
O ran profi yn rheolaidd, rydym ni yn darparu gwasanaeth profi rheolaidd i staff yn y sector gofal preswyl. Bydd yr Aelod yn sylwi ein bod ni wedi adrodd ar hynny yn rheolaidd. Tybiaf efallai fod hynny wedi mynd ar goll yn y sylwadau sydd wedi'u gwneud, ond mae'r rhaglen honno'n parhau—profion rheolaidd ar gyfer ein staff cartrefi gofal. Mae heriau yn yr amserlen o ran cael canlyniadau prawf y mae'r rhaglen profi labordai Goleudy yn effeithio arnynt, ond rydym wedi bod yn fwy llwyddiannus na gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr, wrth ddarparu rhaglen brofi gwlad gyfan. Mae hynny wedi ei gydnabod o fewn y sector ei hun, ac rydym yn sicr â'r nod o barhau â hynny wrth i ni symud i'r cam nesaf ac anodd iawn hwn yn y pandemig.
Diolch i'r Gweinidog.