Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch am y datganiad gan y Gweinidog. I bobl sydd wedi bod yn cadw llygad ar ledaeniad y feirws a'r ystadegau sy'n cael eu rhannu efo ni, fydd, yn anffodus, y datganiad heddiw ddim wedi dod fel syndod mawr, o bosib. Ond, yn sicr, dwi'n teimlo dros y rhai sydd yn byw yn yr ardaloedd newydd, yng Nghonwy, Dinbych, sir y Fflint a Wrecsam, sydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr o siroedd sydd o dan gyfyngiadau ychwanegol. Maen nhw'n gyfyngiadau llym iawn sydd yn cymryd rhyddid oddi ar bobl, ac wrth gwrs rydyn ni'n gobeithio mai am gyfnod byr y bydd hynny. Y neges i fy etholaeth i yn Ynys Môn, ac i Wynedd a rhannau eraill o Gymru sydd ddim o dan gyfyngiadau, wrth gwrs, yw bod y peryg yno. Os ydy'r ffigurau yn codi, os dydy'r camau ddim yn cael eu cymryd gan Lywodraeth a'r boblogaeth i drio gwarchod eu hunain, gallan nhw fod nesaf, fel petai.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn fy mod i'n cefnogi gweithredu mor lleol â phosib. Tybed a ydy o'n gallu dweud wrthym ni, yng nghyd-destun y gogledd yn arbennig, sut ydyn ni'n gallu bod â hyder bod, dywedwn ni, sir Ddinbych wledig ddim angen bod mewn cyfyngiadau. Hynny ydy, pam gweithredu ar lefel sirol fel hyn? Dwi'n apelio am rannu'r data yna, fel maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, wrth gwrs, fyddai yn dangos yr achosion o ardal i ardal, ardaloedd bychain iawn.
Hefyd, wrth gwrs, wrth i ragor o ardaloedd gael eu cynnwys, rydyn ni'n cynnwys mwy a mwy o'r boblogaeth, ac mae fy mhryder i yn sicr yn cynyddu ynglŷn â'r effaith ar les pobl, ar iechyd meddwl pobl. Dwi'n meddwl yn arbennig am bobl sydd yn byw ar eu pennau eu hunain. Ydy'r Gweinidog yn siapio yn ei feddwl o ryw strategaeth allai estyn allan at y rheini sydd o dan fwyaf o fygythiad o ddioddef y pwysau yna o ran iechyd meddwl ac yn y blaen? Mi fyddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod sut mae'r Llywodraeth yn meddwl ar hyd y llinellau yna.