Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 29 Medi 2020.
Prif Weinidog, mae'n bwysig i bobl wybod y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau i leihau achosion yn arwain at lacio'r cyfyngiadau hynny yn brydlon pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. Felly, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am rai arwyddion bod materion yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud am gydymffurfiad ac effeithiolrwydd y mesurau lleol a'r hyn y gallai hynny ei olygu i amseriad diddymu'r mesurau hynny? A phan oedd gan bobl mewn ardaloedd â chyfyngiadau lleol wyliau a drefnwyd ymlaen llaw sydd wedi'u heffeithio, a wnewch chi wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y diwydiant teithio yn gweithredu'n gyfrifol ac yn darparu ad-daliadau llawn a diamod?