Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 29 Medi 2020.
Diolchaf i John Griffiths, Llywydd. Yn dilyn cynnydd sydyn i nifer yr achosion, cyflwynwyd cyfyngiadau lleol yng Nghasnewydd ar 22 Medi. Mae'n rhy gynnar i wneud asesiad pendant, ond mae nifer yr achosion yn dechrau sefydlogi diolch i ymdrechion pobl leol. Rydym ni'n monitro'r sefyllfa yn ddyddiol ac yn adolygu'r cyfyngiadau lleol yn ffurfiol bob wythnos.