1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Medi 2020.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda phartneriaid perthnasol ynglŷn a phrofiadau ymwelwyr yng Nghymru yn 2021? OQ55621
Diolch yn fawr, Llywydd, i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae’r sector twristiaeth ac adfer profiadau ymwelwyr at y dyfodol yng Nghymru yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd rheolaidd o’r tasglu twristiaeth. Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldebau dros dwristiaeth yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.
Rydyn ni wedi croesawu llawer mwy o ymwelwyr nag arfer i fannau twristaidd yn fy etholaeth i eleni. Maen nhw wedi dod â hwb haf bach Mihangel i'r economi leol, ond dydy'r profiad ar gyfer yr ymwelydd nac ar gyfer y boblogaeth leol ddim wedi bod yn bleserus ar bob achlysur—problemau parcio a theithio; ciwiau hir, a nid yn unig ar gopa'r Wyddfa; problemau sbwriel. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith negyddol ar brofiad yr ymwelydd ac, wrth gwrs, yn creu rhwystredigaeth mawr i'r boblogaeth leol. Ydych chi'n cytuno bod yn rhaid canfod ffyrdd i reoli gordwristiaeth a bod gan y Llywodraeth rôl bwysig i'w chwarae drwy dynnu'r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn cynllunio ymlaen at dymor llwyddiannus y flwyddyn nesaf?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol yna. Dwi'n cytuno â hi am y pethau rŷm ni'n trio cadw gyda'i gilydd. Mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig iawn yng ngogledd Cymru, ac mae'r ateb i'r problemau yn dibynnu ar dynnu pobl gyda'i gilydd, rownd y bwrdd gyda'i gilydd, a meddwl am sut dŷn ni'n gallu rhoi profiadau arbennig o dda i bobl sy'n dod aton ni, sy'n rhan o'r economi leol, ac ar yr un amser yn gwarchod y pethau mae pobl yn dod i Gymru i'w gweld ac i'w mwynhau.
A pan dwi'n siarad am bethau fel yna, Llywydd, allaf i jest ddweud—? Cefais i'r fraint o gymryd rhan ddydd Sul mewn seremoni i nodi'r garreg filltir ddiweddaraf yn y daith i sicrhau statws safle treftadaeth y byd i'r diwydiant llechi yng ngogledd-orllewin Cymru, a chroesawu i Gymru Frau Friederike Hansell ac eraill o UNESCO sy'n ymweld â'r ardal. Roedd hwnna'n dangos bod pobl ledled y byd eisiau dod i weld y pethau sydd gyda ni yma yng Nghymru, ond y peth pwysig yw ei wneud e mewn ffordd sy'n gwarchod y pethau maen nhw eisiau eu gweld, ac i dynnu mewn pobl leol, pobl yn y busnesau yna, rownd y bwrdd gyda'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gynllunio gyda'i gilydd am y dyfodol.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Maddeuwch i mi os byddaf yn torri ar draws unrhyw beth yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes; yn anffodus, nid oedd y cyfieithiad yn gweithio ar fy nghyfrifiadur. Darperir llawer o'r profiadau i ymwelwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan fusnesau microdwristiaeth, boed nhw'n eco-gabanau coed yng nghoedwigoedd Sir Gaerfyrddin neu'n safleoedd gwersylla a busnesau bach ar hyd parc cenedlaethol Arfordir Penfro. Gan eu bod nhw'n wahanol iawn ac yn atyniad arbennig i rai grwpiau o bobl, maen nhw wrth gwrs wedi cael eu taro'n eithaf difrifol gan bandemig COVID-19.
Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ateb i Adam Price yn gynharach ynghylch pa un a ddylai pobl wneud taith i'n gweld ni ai peidio, ond hoffwn ddarllen rhywbeth i chi gan Microdwristiaeth Cymru, sy'n dweud, 'Mae ein haelodau yn ymdrin erbyn hyn â gwesteion dryslyd sydd eisiau canslo neu newid eu gwyliau gan nad ydyn nhw'n deall y polisïau cyfyngiadau symud lleol'. A ddoe, dywedodd Gweinidog yr economi, yn ystod cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru, a dyfynnaf, 'Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried yn ofalus a yw eu teithiau yn angenrheidiol'.
Mae busnesau microdwristiaeth yn fy ardal i eisoes o dan y dŵr yn ariannol oherwydd y cyfyngiadau symud cynharach. A allwch chi roi unrhyw gyfarwyddyd arall iddyn nhw ynghylch yr hyn y dylen nhw ei ddweud pan fydd rhywun yn eu ffonio naill ai o Loegr neu o wahanol ran o Gymru ac yn dweud, 'Rwy'n mynd i ganslo fy mhythefnos yn eich tŷ pen coeden yn Sir Gaerfyrddin gan nad wyf i'n credu fy mod i'n cael teithio', neu'n waeth byth, maen nhw'n gofyn iddyn nhw a ddylen nhw deithio ai peidio , sy'n rhoi'r cyfrifoldeb o wneud y penderfyniad hwnnw ar y gweithredwr?
Wel, Llywydd, mae gen i gydymdeimlad aruthrol â'r busnesau y mae Angela Burns wedi tynnu sylw atyn nhw. Llwyddais fy hun i dreulio amser byr yn ystod cyfnod y gwyliau yn ei hetholaeth hi a gallwn weld yn union pa mor galed yr oedd pobl sy'n ennill bywoliaeth drwy ymwelwyr yn gweithio i geisio gwneud iawn am y colledion yr oedden nhw wedi eu dioddef yn gynharach yn y flwyddyn. Felly, mae'n anochel bod dychweliad coronafeirws ledled y Deyrnas Unedig yn anodd iawn iddyn nhw. Rydym ni'n gwneud ein gorau i gyfathrebu mor eglur ag y gallwn ni drwy'r gwahanol rwydweithiau sydd gennym ni, drwy'r grŵp y soniais amdano yn fy ateb i Siân Gwenllian sy'n cyfarfod bob wythnos gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr, drwy'r trefniadau twristiaeth rhanbarthol, ein bod ni'n cyfleu'r negeseuon hynny.
Heddiw, bydd Ken Skates yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd, a fydd yn cynnwys cyllideb wedi'i neilltuo gwerth £20 miliwn ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth, yn ychwanegol at y £27 miliwn y mae'r sector wedi gallu cael gafael arno o ddwy fersiwn gyntaf y gronfa adfer economaidd. Felly, gobeithiaf y bydd hynny yn rhywfaint o gymorth i'r busnesau y mae Angela Burns wedi tynnu sylw atyn nhw. Roeddem ni'n gweithio yn galed gyda'r sector i geisio ymestyn y tymor fel y byddai pobl wedi gallu parhau i weithio'n hwy, ac mae'r anawsterau yr ydym ni'n eu profi wrth i'r feirws gydio unwaith eto yn ergyd, i'r cynlluniau hynny ac i'r bobl sy'n gweithio'n galed ac wedi gwneud cymaint i geisio adennill rhywbeth o'r tymor i'r busnesau y maen nhw wedi gweithio mor galed i'w datblygu.