Y Cyfyngiadau COVID-19 Diweddaraf

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:26, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau ar hyn eisoes. Credaf y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r prif bethau sydd wedi bod o gymorth i bobl wrth iddynt gael eu gwarchod yw'r slotiau dosbarthu siopa blaenoriaethol y mae archfarchnadoedd wedi'u cynnig iddynt. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o siarad ag etholwyr, mae llawer o archfarchnadoedd bellach yn rhoi’r gorau i ddarparu slotiau blaenoriaethol, ar adeg pan fo’r coronafeirws ar gynnydd mewn cymaint o’n cymunedau. Mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder nid yn unig i fy etholwyr, ond i minnau hefyd, felly a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidogion eraill ynglŷn â'r slotiau dosbarthu hyn ar gyfer bobl sy’n gwarchod, a’ch annog i weithredu ar hyn?