Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 30 Medi 2020.
O gofio bod Cymru, yn draddodiadol, yn dibynnu’n gryf ar gyflenwadau o Tsieina a gwledydd eraill yn Asia, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru i ddatblygu ein cyflenwad cartref ein hunain. Gwnaethom argymell felly fod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei systemau i sicrhau bod y mecanweithiau ar waith i alluogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i ymateb yn gyflym wrth gyflenwi cyfarpar diogelu personol priodol pe bai unrhyw achosion yn y dyfodol. Dyna argymhelliad 2. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, roedd y Gweinidog yn cydnabod rôl bwysig busnesau Cymru yn y gwaith o gryfhau ein gallu i wrthsefyll ail don o COVID-19. A dywedodd y bydd y cynllun caffael PPE ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfuniad o gyflenwadau lleol a rhyngwladol.
I droi at gartrefi gofal rŵan, roedd cynnal profion mewn cartrefi gofal yn fater dadleuol, a chafodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru eu beirniadu, fel rydym ni'n gwybod, am fethu â chynnal digon o brofion mewn lleoliadau gofal. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu 663 o farwolaethau oherwydd COVID-19 yng nghartrefi gofal Cymru.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, roedd y drefn o ryddhau cleifion o’r ysbytai i gartrefi gofal wedi cyfrannu’n sylweddol at y ffaith bod yr haint wedi lledaenu mor frawychus o gyflym mewn cartrefi gofal. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn pryderu nad oedd hawliau pobl hŷn wedi’u diogelu’n ddigonol. Roedd nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal yn peri pryder mawr i ni. Rydym ni'n credu bod agwedd gychwynnol Llywodraeth Cymru tuag at gynnal profion mewn cartrefi gofal yn ddiffygiol ar y dechrau, ac roedd ei hymateb i’r argyfwng cynyddol yn rhy araf wedyn. O ganlyniad, roedd nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cyfrif am 28 y cant o’r holl farwolaethau cysylltiedig â choronafeirws yng Nghymru.
Roedd argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob claf sy’n cael ei ryddhau o’r ysbyty yn uniongyrchol i gartref gofal wedi cael prawf, yn unol â’r arfer gorau diweddaraf, i sicrhau bod preswylwyr a staff yn cael eu diogelu cystal ag y bo modd. Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid cael canlyniadau’r profion cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y sicrwydd hwn ac am dderbyn ein hargymhelliad.
I droi at brofi, olrhain a diogelu yn olaf, cyn imi orffen ar y dechrau yma, hoffwn sôn am y strategaeth profi, olrhain a diogelu—system olrhain cysylltiadau Llywodraeth Cymru. Mae gan y rhaglen profi ac olrhain o dan y strategaeth nifer o ddibenion allweddol, gan gynnwys: gwneud diagnosis o'r clefyd; cadw golwg ar iechyd y boblogaeth; olrhain cysylltiadau; a pharhad busnes, gan alluogi gweithwyr allweddol i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach ac yn fwy diogel.
Mae nifer o dystion wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dychwelyd canlyniadau profion yn gyflym er mwyn sicrhau llwyddiant y strategaeth profi, olrhain a diogelu. Fel y dywedodd Syr David King, aelod o SAGE Annibynnol, mae’n hanfodol bwysig bod canlyniadau’r profion ar gael yn gyflym.
Dwi'n dyfynnu: 'Os daw’r canlyniad bum niwrnod ar ôl cynnal y prawf, ac mae’r person hwnnw’n dal yn crwydro o amgylch ei gymuned, dychmygwch faint o bobl y gall eu heintio yn ystod y cyfnod hwnnw.'
Rydym ni'n cytuno y bydd cyflymder y profi, yr amser mae’n ei gymryd i brosesu canlyniadau, a chywirdeb y canlyniadau hynny yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth profi, olrhain a diogelu. Po hiraf yw’r amser prosesu o’r dechrau i’r diwedd, o gasglu sampl i roi canlyniadau i unigolion, po fwyaf yw’r oedi ar yr adeg pan mae’r clefyd ar ei fwyaf heintus, neu po fwyaf tebygol yw hi y bydd pobl—[Anghlywadwy.]
[Anghlywadwy.]—argymell felly fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, geisio sicrhau bod canlyniadau pob prawf yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr. Dyna argymhelliad 19, a chafodd yr argymhelliad hwnnw hefyd ei dderbyn mewn egwyddor.
Clywsom hefyd y byddai cefnogaeth y cyhoedd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth. Mae angen i bobl fod yn barod i fod yn onest wrth rannu manylion am eu symudiadau a'u cysylltiadau, a hunanynysu os gallent fod mewn perygl, a hynny er budd y gymuned ehangach. Gwnaethom argymell, felly, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, sicrhau ei bod yn cyflwyno negeseuon cyhoeddus clir, a’u hailadrodd yn gyson ar lefel genedlaethol a lleol, yn tanlinellu cyfrifoldeb unigolion i hunanynysu os oes ganddynt symptomau a phwysigrwydd gofyn am brawf ar unwaith. Dyna argymhelliad 25, a derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw.
Wrth gwrs, os bydd y broses o olrhain cysylltiadau yn llwyddiannus, mae’n bosib y bydd yn rhaid i bobl hunanynysu sawl gwaith, ac mae hyn yn bryder arbennig i bobl sydd mewn swyddi cyflog isel, gan na fyddant yn gallu fforddio aros gartref o'r gwaith. Yn ôl y canllawiau presennol, mae gan unrhyw un sy'n hunanynysu hawl i dâl salwch statudol, sef £95 yr wythnos, ond nid yw hwn yn gyflog cynaliadwy nac yn gyflog byw. Mae’r demtasiwn i anwybyddu symptomau a chyngor a mynd i’r gwaith yn bryder gwirioneddol, felly, ac yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw brys iddo, yn enwedig o ystyried nad yw trefniadau tâl salwch statudol wedi’u datganoli. Rydym felly wedi galw ar i Lywodraeth Cymru fynd ati, fel mater o frys, i holi Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y trefniadau tâl salwch statudol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac eraill yng Nghymru sy’n gorfod hunanynysu. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad yma a’i sicrwydd ei fod yn parhau i dynnu sylw Gweinidogion y Deyrnas Unedig at y pryderon am effaith ariannol hunanynysu.
I gloi, hoffwn gydnabod bod maint yr her sy’n wynebu Llywodraethau a’u partneriaid wrth iddynt ymdopi ag effeithiau COVID-19 wedi bod yn ddigynsail hollol. Gwnaed ymdrechion aruthrol yn gyffredinol a llwyddwyd i gyflawni gwyrthiau. Yn anffodus, mae cyfraddau heintio yn codi unwaith eto. Rhaid inni ddefnyddio'r profiad a gawsom a’r cyfan a ddysgwyd wrth frwydro yn erbyn y don gyntaf o'r clefyd i sicrhau bod unrhyw fesurau newydd a gyflwynir i reoli'r feirws yn effeithiol yn amserol ac yn gymesur. Diolch yn fawr.