Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 30 Medi 2020.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rwy'n sylweddoli nad oeddwn ar y pwyllgor pan gynhaliwyd yr adolygiad hwn, neu’r ymchwiliad hwn, ond hoffwn dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Angela Burns, am y gwaith a wnaeth yn ystod ei hamser ar y pwyllgor, a hefyd i Gadeirydd y pwyllgor, y staff a'r Aelodau eraill sydd wedi cynhyrchu gwaith manwl a chryno, gyda rhai argymhellion allweddol, a dweud y lleiaf. Ac mae'r Llywodraeth, ar y cyfan, wedi ymgysylltu â'r argymhellion hynny, er fy mod, a minnau’n wleidydd ers oddeutu 13 mlynedd, bob amser ychydig yn betrus wrth glywed 'cytunwyd mewn egwyddor' oherwydd yn aml iawn, yn anffodus, yn aml iawn ni chaiff hynny ei gyflawni, a byddai llawer, os nad pob un o'r argymhellion hyn, o'u derbyn yn eu cyfanrwydd, yn ychwanegu’n aruthrol at gynnig gwell, ymateb gwell, a ninnau bellach, fisoedd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwn, yn gweld yr hyn y byddai llawer yn ei galw'n ail don o COVID yn taro llawer o'n trefi a'n dinasoedd a'n cymunedau ledled Cymru.
Yn yr adroddiad, bron â bod fel trydydd person yn dod ato, o’i ddarllen o glawr i glawr, credaf fod y mynegai o’r dyddiadau yn y cefn yn atgoffa'n amserol o ba mor gyflym rydym wedi teithio eleni, o fis Ionawr hyd at pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf, a'r lefel, y nifer, y trawsnewidiad llwyr mewn gwasanaethau, yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb—nid oes ond angen i chi edrych ar ein gwaith yma heddiw a ddoe i weld sut y mae COVID wedi llyncu popeth a wnawn gan ei fod yn hollgwmpasol.
Wrth ddarllen rhai o'r sylwadau ynghylch cyfarpar diogelu personol a'r argymhellion ynghylch cyfarpar diogelu personol, roedd yn atgof amserol o'r heriau gwirioneddol y mae'r sectorau’n eu hwynebu, yn enwedig y sector iechyd a'r sector gofal. Ac wrth ei ddarllen, roedd yn pwysleisio'r pwynt ynglŷn â sut y mae angen ystyried y sector iechyd a'r sector gofal yn bartneriaid cyfartal, yn hytrach na bod un sector yn cael darpariaeth o gyfarpar diogelu personol yn y lle cyntaf, a bod y sector gofal yn cael yr hyn sydd dros ben ac efallai’n gorfod dal i fyny. Mae angen cywiro hynny, os bydd y sefyllfa honno’n codi eto gyda chyflenwadau cyfyngedig. Ac rwy'n falch o glywed sicrwydd y Gweinidog fod y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol wedi'i gynyddu’n helaeth ers dechrau'r argyfwng, ond mae'n bwysig iawn clywed a deall y parch cydradd hwnnw. Yn benodol, pe gallai’r Gweinidog dynnu sylw yn ei ymateb at y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r gwaith y mae’r Llywodraeth wedi’i gomisiynu gan Deloitte ar fapio’r galw am gyfarpar diogelu personol, unwaith eto, byddai hynny’n dda er mwyn deall sut y ceir tegwch ledled Cymru yn y gadwyn gyflenwi cyfarpar diogelu personol pe bai'r pwysau'n cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae profi, fel y clywn yn aml y dyddiau hyn, a'r pryderon ynglŷn â phrofi—yn absenoldeb brechlyn, profi yw ein hunig amddiffyniad i gadw rheolaeth ar y feirws ac i ddeall ble mae'r achosion o'r feirws, ac yn y pen draw, sut y mae'n lledaenu drwy ein cymunedau. Mae darllen rhai o'r argymhellion a wnaed, ac yn bwysig iawn, sut y cânt eu rhoi ar waith yn hanfodol bwysig, yn enwedig pan feddyliwch am gynyddu nifer y profion a fydd ar gael. Mae braidd yn ddigalon gweld, ym mis Gorffennaf eleni, fod capasiti profi Llywodraeth Cymru yn 15,000; yma, tua deufis yn ddiweddarach, ym mis Medi, mae'n dal i fod yn 15,000, a'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog ei hun—rwy’n ei ganmol am ei onestrwydd—y byddem, efallai'n gallu ymdrin â hynny ar sail ddyddiol, ond na fyddai defnyddio’r capasiti llawn hwnnw’n gynaliadwy dros unrhyw gyfnod hirdymor o amser. Ac felly, gweithio ar y cyd ar draws y Deyrnas Unedig, er gwaethaf problemau’r labordai goleudy, fydd yr unig ateb er mwyn dod â lefel go iawn o brofion yma i Gymru, ac yn wir, i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio'n fawr y gellir datrys llawer o'r namau sydd wedi amharu ar y system.
Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y defnyddir y nifer o brofion, oherwydd yn aml iawn, fel gwleidyddion, fel y noda’r adroddiad, rydym yn canolbwyntio ar gapasiti, ond mae a wnelo hyn â gallu'r system gyfan i weithio, o'r capasiti i nifer y profion a gyflawnir, a'r gyfradd ymateb, fel y nododd y Cadeirydd, a phwysigrwydd cael yr ymateb yn ôl o fewn 24 awr. Mae’n rhaid i unrhyw system brofi effeithiol sicrhau bod o leiaf 90 y cant o'i chanlyniadau yn ôl o fewn 24 awr. Os na all wneud hynny, rydym yn methu'r nod o sicrhau bod y gyfundrefn brofi mor effeithiol ag y bo modd.
Rwy'n sylweddoli bod fy mhum munud bron ar ben ar y cloc. Profi, olrhain, diogelu: mae graddfa’r cynllun profi, olrhain a diogelu’n enfawr, fel y noda’r adroddiad, a soniodd tystiolaeth Cymdeithas Feddygol Prydain yn benodol am y rhaglen enfawr hon y bydd ei hangen, o rhwng 7,500 ac 8,000 o gysylltiadau mewn diwrnod, i hyd at 0.5 miliwn o bobl ar un adeg yn y system. Mae hynny'n rhoi syniad o raddfa'r gwaith rydym yn sôn amdano, a phe bai pobl wedi dweud wrth wleidyddion ddechrau'r flwyddyn hon, 'Beth y credwch fydd eich pum prif her?', ni chredaf y byddai unrhyw un wedi crybwyll argyfwng COVID a'i natur hollgwmpasol.
Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r cyhoedd yn gyffredinol, ac rwy'n cymeradwyo gweithgarwch y pwyllgor yn cyflawni'r adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau â gwaith y pwyllgor pan fydd yn ailedrych ar rai o'r argymhellion i weld eu bod wedi'u rhoi ar waith yn y dyfodol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.