Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 30 Medi 2020.
Unwaith eto, mae ein Cadeirydd wedi rhoi cyflwyniad trylwyr a chryf iawn i’r adroddiad yn ei gyfraniad y prynhawn yma, a hoffwn ategu ei deyrnged i holl staff y GIG a’r gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru am yr hyn a wnaethant pan oedd y pandemig ar ei anterth ac ers hynny, a'r hyn y maent yn parhau i’w wneud yn awr ac y byddant yn ei wneud drwy'r gaeaf rwy'n siŵr. Buom yn curo dwylo iddynt bob wythnos bryd hynny, ond maent yn haeddu cymaint mwy na hynny. Mae eu hymrwymiad yn ddiamheuol ac yn ddi-ben-draw.
Credaf fod angen inni atgoffa ein hunain hefyd pam y gwnaethom gyflwyno'r adroddiad, gan ei fod yn ymwneud ag effaith y feirws a pha wersi y byddem yn eu dysgu o hynny. Mae'n dal i fod cymaint o deuluoedd wedi eu dinistrio gan y feirws hwnnw ac ar ôl colli anwyliaid, mae eraill wedi dioddef cyflyrau iechyd difrifol o ganlyniad i ddal y feirws ac wedi treulio amser maith yn yr ysbyty, ac mae’n rhaid inni beidio ag anghofio'r bobl hynny ym mhopeth a wnawn.
Ond rydym wedi dod yn bell ers dechrau'r pandemig, ac wedi dysgu llawer gobeithio. Mae llawer i'w ddysgu, oherwydd os edrychwn ar yr adroddiad a rhai o'r materion a godir, ac rwy'n ailadrodd rhai o'r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd, ond os edrychwch arnynt, maent yn dal yn berthnasol heddiw, nid ydynt wedi diflannu. Y cwestiwn ynghylch cyfarpar diogelu personol: rwy'n falch iawn fod gennym gyfarpar diogelu personol digonol bellach, ond pan ddaeth hwn allan, nid oedd hynny’n wir. Ni waeth faint o eitemau y credem oedd gennym, nid oedd hynny'n wir. Rwy'n falch iawn hefyd fod busnesau lleol bellach yn defnyddio cyfleoedd i greu a datblygu cyfarpar diogelu personol—mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, Rototherm, sydd wedi trawsnewid ei hun. Mae gwaith rhagorol yn mynd rhagddo i sicrhau bod gan Gymru gyflenwad o fusnesau lleol yn cynhyrchu'r cyfarpar diogelu personol.
Ond hefyd, gadewch inni beidio ag anghofio’r hyn y mae gwisgo'r cyfarpar diogelu personol yn ei wneud i staff, oherwydd pe baem yn darllen ein harolwg o'r staff, a rhai o'r sylwadau a wnaethant, roeddent yn ei chael yn anodd iawn gweithio o dan yr amgylchiadau hynny, a chafodd hynny effaith arnynt. Weithiau, mae angen inni fyfyrio ar hynny, fel ein bod yn sicrhau ein bod yn diogelu ein staff hefyd, a'n bod yn gwneud pethau’n iawn mewn perthynas â’r cyfarpar diogelu personol hwn. Nid ydym am roi pobl mewn sefyllfa lle maent yn wynebu sefyllfaoedd lle mae eu bywydau yn y fantol pan fyddant yn mynd i ofalu am bobl am nad oes gennym gyfarpar diogelu personol ar eu cyfer. Mae'n rhaid inni gael hynny'n iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud ein bod yn gwneud hynny; mae gennym fwy o gyfarpar diogelu personol bellach, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Ond hoffwn ofyn iddo hefyd, efallai—oherwydd hanner ffordd drwy’r pandemig, newidiwyd y canllawiau ar gyfer cyfarpar diogelu personol, a hoffwn ofyn a oes mwy o newidiadau i ddod i’r canllawiau hynny oherwydd y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig hwnnw, a gallu pobl—. Oherwydd mae parafeddygon yn dweud eu bod weithiau'n mynd i sefyllfa'n gwisgo ffedog a menyg yn unig, ac nid yw hynny’n ddigonol ar brydiau. Mae angen inni sicrhau bod ein staff yn cael eu diogelu.
A gaf fi hefyd godi mater cartrefi gofal? Gwyddom yn iawn eu bod, ar y cychwyn, yn agored i niwed, ac yn anffodus, roedd preswylwyr, sy'n agored i niwed eu hunain, yn dal y feirws. Gwelsom lawer iawn o breswylwyr yn mynd i’r ysbyty, ac yn anffodus, ni oroesodd rhai o'r rheini. Mae Dai wedi nodi bod dros 600 ohonynt. Rydym mewn sefyllfa bellach lle rydym wedi rhoi gwell mesurau diogelwch ar waith, ond gwnaethom ofyn am gynnal profion yn rheolaidd. Gwn fod hynny'n digwydd, ac rwy'n falch iawn am hynny, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod hynny’n parhau, ond rwy'n dal i bryderu ynglŷn â’r agenda profi gartref ac ansawdd yr hyfforddiant a roddir i bobl wneud hynny. Mae gormod o ganlyniadau negatif ffug a chanlyniadau positif ffug yn dod drwy'r system brofi, ac mae'n rhaid inni gyfyngu ar y rheini. Un o'r ffyrdd o leihau hynny yw drwy ddilyn argymhelliad 10, pwynt bwled 2, sy'n dweud y dylid sicrhau 'bod profion o’r fath yn cael eu gwneud gan unigolion sydd wedi cael hyfforddiant addas'. Mae llawer o nyrsys eisoes yn cael eu cyflogi mewn cartrefi gofal, a gallai fod rhai eraill yn cael eu defnyddio yn y rheini sydd heb gael hyfforddiant o'r fath, felly ni chredaf ei fod yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod wedi'i wrthod. Credaf y dylai'r Llywodraeth fod wedi derbyn hynny, a sicrhau bod pobl sydd wedi cael hyfforddiant addas yn gwneud y profion hynny i sicrhau cyn lleied â phosibl o ganlyniadau negatif ffug a chanlyniadau positif ffug, gan fod hynny'n rhoi gwybodaeth gamarweiniol, ac yn rhoi hyder camarweiniol ar brydiau, felly mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
Y mater arall, yn amlwg, yw profi—mae pobl wedi sôn am brofi—yn gyffredinol, a chodwyd y cwestiwn hwn gennym am brofi a pharatoi. Mewn gwirionedd, dywedasom, yn argymhelliad 8 rwy'n credu, fod angen inni baratoi ar gyfer ail don, ac y dylem weithio gyda phartneriaid i gymryd camau i sicrhau capasiti digonol. Serch hynny, rydym yn dal i sôn am gapasiti. Rydym yn dal i drafod a ydym yn defnyddio labordai goleudy ai peidio. Mae cwestiwn yno sy’n dal i gael ei godi. Rwy'n derbyn bod y Gweinidog wedi clywed hyn sawl tro yn barod, ond gobeithio ei fod yn ystyried y ffaith na fydd profion yn rhywbeth a fydd yn diflannu—mae'n rhywbeth a fydd yn gyrru'r agenda yn ei blaen, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â mater capasiti, o ran y gallu i gymryd y prawf, ond y gallu i ddadansoddi’r profion hefyd. Oherwydd dyna ble mae pobl yn drysu; maent yn meddwl, 'O, gallaf gael prawf', ond peidiwch ag anghofio bod yn rhaid ei ddadansoddi a bod yn rhaid i’r canlyniadau gael eu darparu. Roeddem yn dweud bryd hynny ein bod am gael rhagor o fewn 24 awr, ac nid ydym yn gweld rhai o'r ffigurau hynny’n cynyddu o hyd. Mae angen inni fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw.
Rwyf am gloi drwy ddiolch yn fawr i staff y pwyllgor. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli hyn bob amser, ond mae staff y pwyllgor wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y cyfnod, a thros yr haf, i sicrhau bod gennym y dystiolaeth roedd ei hangen arnom i ddarparu'r adroddiad hwn. Mae'n rhaid inni ddiolch iddynt ac i'r tystion a roddodd y dystiolaeth i ni. Mae'r tystion hynny'n cynrychioli'r bobl ar y rheng flaen, ac ni allwn anghofio hynny, chwaith. Felly, diolch yn fawr iawn. Ac os gwelwch yn dda, Weinidog, rwy'n sylweddoli ein bod wedi dod yn bell, ac rwy'n sylweddoli nad ydym lle roeddem yn ôl ym mis Mawrth, ond gadewch inni sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu a bod y cyngor yn cael ei ddilyn. Diolch.