Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 30 Medi 2020.
Siaradaf yn y ddadl hon i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn benodol am bwynt 1, sy'n nodi'r gwerth gwael am arian a gynigir gan economeg cyni, fel yr amlygwyd ym meirniadaeth y Cenhedloedd Unedig o dlodi'r DU.
Byddai angen sgiliau Jackanory, nid rhai Job, ar Angela Burns a'i chyd-Aelodau Ceidwadol i egluro sut y mae prosiect cyni dinistriol Cameron ac Osborne, ochr yn ochr â choeden arian hud May, rywsut wedi troi'n Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benthyg ychydig o dan £174 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Awst. Ni fyddwn ni ar feinciau Llafur Cymru yn cymryd unrhyw wersi ar economeg gan y Ceidwadwyr. Mewn degawd, maent wedi symud o gynildeb economaidd Ebenezer Scrooge at bolisïau economaidd enillydd loteri cenedlaethol yn Las Vegas. Felly, gall y Torïaid roi'r gorau iddi—rhowch y gorau i'ch pregethu wrth bobl Cymru ac wrth yr Aelodau o'r Senedd hon am eich uwchraddoldeb a'ch ymrwymiad i werth am arian i drethdalwyr oherwydd—[Torri ar draws.]
Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at welliant 1, pwynt 3, sy'n croesawu'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru—presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu'r terfyn cyfalaf, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'r gronfa cadernid economaidd. Gallwn fynd ymlaen, ond gadewch i mi fod yn gryno: mae'r Torïaid yn deall pris popeth a gwerth dim byd, a Llafur Cymru yw'r blaid y mae pobl Cymru yn ymddiried ynddi gyda'r sector cyhoeddus a phriodoldeb cyllidol i ddiogelu, meithrin a thyfu Cymru oherwydd bod y ddisgyblaeth a'r weledigaeth ariannol gref i Gymru a gyflawnwn yn mynd yn groes i ddegawd cyfan o bolisi Llywodraethau Torïaidd y DU, wrth iddynt barhau i wasgu cyllideb gyhoeddus Cymru i'r eithaf. Mae Cymru bellach £4 biliwn yn waeth ei byd ers iddynt ddod i rym, a gweithiwn i wrthsefyll hyn bob dydd, a dyna pam y maent mor awyddus i wanhau datganoli a gwanhau'r lle hwn.
Hyd yma, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi gwario £57 miliwn a mwy mewn contractau ymgynghori—gormod i sôn amdanynt. Mae Deloitte yn gwneud yn dda iawn—£6.7 miliwn mewn contractau, £3 miliwn arall am ddarparu ar gyfer Swyddfa'r Cabinet, a £2.5 miliwn mewn contractau gan Drysorlys y Torïaid—a PricewaterhouseCoopers, £3 miliwn mewn ymgynghoriaeth. Gallwn fynd ymlaen. Felly, mae dull y Torïaid o oruchwylio arian trethdalwyr yn peri pryder mawr, ond nid yw'n wahanol i'r ffordd y mae Llywodraethau Torïaidd olynol bob amser wedi ymddwyn, gyda gwerthu ein diwydiannau cenedlaethol, chwalu ein sector cyhoeddus a'n gwasanaethau cyhoeddus, ac awydd i erydu llywodraeth leol a gwasgu arni i breifateiddio. Mewn cyferbyniad, yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghymru yn cryfhau ac yn cynnal ein hethos gwasanaeth cyhoeddus. Mae wrth wraidd ac yn ganolog i'n bodolaeth. Yng Nghymru, mae 'di-elw' yn golygu rhywbeth.
Yn olaf, gadewch imi ddychwelyd at fenthyciadau Llywodraeth Dorïaidd y DU o ychydig o dan £174 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Awst. Yn y pedwar mis byr hynny yn yr haf, benthycodd y Torïaid fwy nag a fenthycwyd gan Lywodraeth Lafur y DU drwy gydol y flwyddyn ariannol pan achubodd y Llywodraeth Lafur y banciau ac achub yr economi rhag dinistr. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd, a gofiwch chi, yn yr union le hwn, y gwawdio diddiwedd oddi ar feinciau'r Torïaid am drwsio'r to pan oedd yr haul yn gwenu, a'r ffordd roeddent yn dweud bod Llafur wedi gwario'r holl arian, ac mai dyma'r unig reswm, gyfeillion, a ddefnyddiwyd i gyflawni eu hawydd ideolegol dwfn i grebachu'r wladwriaeth â degawd o gyni, ac i beth? Ymhen pedwar mis, fe wnaethant fenthyg mwy nag y gwnaeth y Llywodraeth Lafur mewn blwyddyn gyfan. Unwaith eto, dyma ragrith nodweddiadol y Torïaid. Lywydd, maent yn ceisio hawlio'r monopoli ar gymhwysedd economaidd, ac eto mae pobl Cymru'n gwybod na fyddent yn ymddiried yn y Torïaid i werthu car ail law iddynt, heb sôn am ymddiried ynddynt i reoli ein harian cyhoeddus. Diolch.