7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwerth am Arian i Drethdalwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 6:00, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Wrth wraidd unrhyw Lywodraeth, rhaid cael ymrwymiad i adolygu ei strwythurau a'i phrosesau ei hun yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Rhaid i bob Llywodraeth allu edrych arni'i hun yn feirniadol a meddwl sut y gall ddarparu gwasanaethau'n effeithlon ac yn effeithiol. I weld y gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb ohonom am eu cael, rhaid inni gwestiynu sut y gwneir penderfyniadau, sut y dyrennir adnoddau, ac mae angen inni nodi gwastraff. Nawr, yn gynharach eleni, gwneuthum ymrwymiad i bobl Cymru, pe bawn yn arwain Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, fel y dywedodd Angela Burns, y byddwn yn sefydlu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth. Holl bwynt sefydlu'r swyddfa honno yw creu corff annibynnol hyd braich a allai nodi lle mae adnoddau'n cael eu gwastraffu a lle mae prosesau Llywodraeth yn methu sicrhau gwelliannau i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Gall yr Aelodau i gyd nodi enghreifftiau o brosiectau a chynlluniau Llywodraeth lle gwelwyd oedi a gorwario. Er enghraifft, eleni, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ar orwariant Llywodraeth Cymru ar brosiectau seilwaith, gan gynnwys ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd a'r gorwariant o £60 miliwn ar gael gwared ar asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r adroddiadau hyn unwaith eto'n tynnu sylw at ddiffyg mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru i gynllunio a chyflawni prosiectau hirdymor yn briodol. Nid oes neb yn anghytuno â rhinweddau darparu ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, er enghraifft. Yn wir, weithiau gallwn fethu gweld manteision cymdeithasol ehangach datblygu prosiectau seilwaith ledled Cymru, ac felly mae'n werth ailadrodd bod datblygu seilwaith da, pan gaiff ei gyflawni'n iawn, yn gallu trawsnewid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio mewn cynifer o ffyrdd. Gall seilwaith sydd wedi'i lunio a'i ddatblygu'n dda ein cysylltu'n well â nwyddau a gwasanaethau hanfodol, gall ddarparu gwell amodau byw, gwell ysgolion i'n plant, a gall hefyd ddarparu swyddi drwy gydol y cyfnod adeiladu ac ar hyd y gadwyn gyflenwi. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur manteision cymdeithasol pob prosiect unigol sydd ar y gweill, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur manteision cymdeithasol prosiect pan fo'n dyrannu'r cyllid hwnnw.

Mae fy nghyd-Aelod Angela Burns eisoes wedi sôn am filiynau a miliynau o bunnoedd y flwyddyn o arian a wastraffwyd y gellid bod wedi'i wario'n darparu seilwaith i gefnogi cymunedau'n well ledled y wlad. Mae hwnnw'n gyllid gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i ledu ffyrdd, gwella ysgolion neu adeiladu tai. Yn anffodus, cafwyd adroddiadau di-rif dros y blynyddoedd am brosiectau sydd wedi dangos gwastraff ar ffurf gorwario, colledion buddsoddi ac afreoleidd-dra ariannol. Un peth yw gwastraff ariannol, ond dim ond un darn o'r jig-so ydyw, ac mae angen inni archwilio ein systemau'n well hefyd. Mae caffael wedi bod yn her ers tro byd i ymgynghorwyr ac adeiladwyr, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r drafodaeth a gefais dros y blynyddoedd fod angen symleiddio'r broses honno, ac ar adegau fod y galw am wybodaeth wedi bod yn anghymesur â gwerth y cais. Felly, rhaid inni edrych o ddifrif ar ddatblygu dull cyfannol o sicrhau gwelliannau yn y broses gaffael fel y gallwn, fel Llywodraeth, wneud y mwyaf o'n gwariant. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod angen ymgysylltu a chyfathrebu rheolaidd rhwng partneriaid ar bob cam datblygu. A yw Llywodraeth Cymru yn gofyn iddi hi ei hun a yw'r broses dendro'n gweithio cystal ag y gall? Pa ôl-gymorth dilynol a thrafodaeth a geir i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed ar brosiectau'r Llywodraeth cyn i'r prosiect gael ei ddiddymu? Dyma'r math o faterion y mae angen i'r Llywodraeth eu deall yn well fel y gellir gwella'r system er gwell. Felly, rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei pholisïau caffael, a sut y mae'n gwerthuso'n feirniadol y ffordd y mae'n cyflawni prosiectau seilwaith.

Lywydd, credaf fod angen newid diwylliannol i sicrhau gwelliannau go iawn yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yma yng Nghymru. Rwyf wedi dweud yn glir fy mod wedi ymrwymo i ddiwygio'n sylweddol y modd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu a sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu darparu, ac yn y pen draw yr hyn y mae pobl Cymru am ei weld yw diwedd ar weithio mewn seilos, ymdrech lawer mwy ymwybodol i ddileu gwastraff, a gweld eu harian y maent wedi gweithio'n galed amdano'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol.

Nawr, ceir digon o enghreifftiau o drosolwg sector cyhoeddus ledled y byd, ac mae angen inni ddysgu o'r ffordd y mae Llywodraethau eraill wedi gweithredu a gweld ble y gallwn addasu'r arferion hynny yma. Er enghraifft, yn Seland Newydd, sefydlwyd y grŵp cynghori ar bolisi i roi cyngor gwleidyddol diduedd, di-dâl a gonest i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill. Yn yr un modd, byddai gan swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yr un rôl wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ond hefyd byddai ganddi ddannedd i weithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chyda rhanddeiliaid allweddol eraill i gael gwared ar aneffeithlonrwydd.

Felly, wrth gloi, Lywydd, er mwyn bwrw ymlaen â gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus a chyflawni prosiectau seilwaith llwyddiannus ledled Cymru, rhaid inni ymrwymo i ailedrych ar ein gwariant a'n prosesau. Credaf mai'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy greu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth—swyddfa a all helpu i drawsnewid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu darparu a sbarduno'r math o newid diwylliannol y mae pobl Cymru am ei weld. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.