Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 30 Medi 2020.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud,wrth wrando ar y cyfraniad olaf gan Rhianon Passmore, rwy'n synnu at y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o arian i'r lle hwn a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar yr union adeg y cawsant £4 biliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Cawn gyfraniadau sy'n dweud wedyn bod y Blaid Geidwadol yn anfedrus yn economaidd. Ni allwch chi ei chael hi'r ddwy ffordd, Rhianon Passmore. Ni allwch alw ar y naill law am fwy o fenthyca a mwy o gymorth a beirniadu'r llaw sydd wedi rhoi'r arian hwnnw i chi pan gaiff ei ddarparu. Felly, yn bersonol, rwyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig ar yr ochr hon i'r Siambr, yn fwy na bodlon fod Llywodraeth y DU yn benthyca arian ar hyn o bryd. Mae'n cefnogi economi'r DU, ac mae'n cefnogi economi Cymru a phobl yng Nghymru, ac yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, credaf y bydd pobl Cymru'n gweld bod y cymorth hwnnw wedi'i gynnig.
Mae pwynt 1 y cynnig yn mynd at ddiben canolog y cynnig hwn: mae rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, canlyniadau cytûn a chraffu trwyadl. Pa mor aml yn y Siambr hon a dros y misoedd diwethaf bron yn llwyr y buom yn sôn am bwysigrwydd adeiladu'n ôl yn well ar ôl y pandemig, a datblygu economi a seilwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy? Wel, rhaid i'r broses honno o adeiladu'n ôl yn well olygu cael gwared ar wastraff, cynyddu effeithlonrwydd a sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. A gadewch i mi fod yn glir beth rwy'n ei olygu wrth 'werth am arian', oherwydd nid yw hynny'n golygu mynd am yr opsiwn rhataf bob amser a bodloni ar lai na'r gorau. Ond mae'n golygu ymgorffori a datblygu diwylliant gwrth-wastraff wrth wraidd y Llywodraeth, gan sicrhau bod trosolwg bob amser ar wariant y Llywodraeth ar draws adrannau, ac un sy'n tynnu sylw at wastraff y Llywodraeth cyn gynted â phosibl.
Yn sicr, nid wyf yn gweld ein cynigion ar gyfer adran newydd fel rhywbeth sy'n gwrthdaro yn erbyn y mecanweithiau craffu presennol—ymhell o fod. Credaf eu bod yn ategu'r mecanweithiau sydd gennym yn barod, gan gynnwys Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ei hun y cyfeiriodd Angela Burns ato, Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ym mis Mehefin 2020, cynhyrchodd Archwilio Cymru adroddiad ar gynllun grant datblygu gwledig Llywodraeth Cymru, a chanfu fod £53 miliwn o grantiau wedi'u gwneud heb sicrhau gwerth am arian na chystadleuaeth effeithiol. Canfu Archwilydd Cyffredinol Cymru nad oedd agweddau allweddol ar gynllun, gweithrediad a throsolwg ar fesurau rheoli Llywodraeth Cymru dros y rhaglen yn ddigon effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Roedd y methiannau a restrwyd yn cynnwys gwahodd ceisiadau am gyllid gan sefydliadau penodol heb ddogfennu pam, rhoi arian ychwanegol i brosiectau presennol heb wirio eu llwyddiant yn gyntaf, a dim digon o drosolwg ar brosiectau.
Wrth gwrs, cafwyd enghreifftiau cynharach o ddiffyg effeithlonrwydd y cyfeiriodd Aelodau eraill atynt—Cymunedau yn Gyntaf, er enghraifft. Roedd cryfderau Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys brand cryf a gweithwyr dibynadwy, yn beth da, ond yn anffodus, cawsant eu bwrw i'r cysgod gan ddiffyg cydgysylltiad a dyblygu gwaith. Nid oedd angor digonol i'r prosiect, a chafwyd rhaglenni tebyg ers hynny. Yn syml iawn, nid oedd yn rhoi gwerth am arian ac ni sylwyd ar hynny'n ddigon cyflym.
Nid problem i Lywodraeth Cymru'n unig yw hi; mae'n ymestyn i gynnwys cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd, fel y soniodd Angela Burns. Adroddodd Archwilio Cymru mai barn amodol a roddwyd ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i'w ffordd o drin contractau pren, fel y nodwyd yn gynharach unwaith eto, a dywedodd yr archwilwyr Grant Thornton fod hynny wedi eu gwneud yn fwy agored i'r risg o dwyll. Ac ym mis Ionawr 2020, rhoddodd yr archwilydd cyffredinol farn amodol ar gyfrifon y sefydliad am y bedwaredd flwyddyn yn olynol oherwydd amheuon ynglŷn ag a weithredodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â'u dyletswyddau statudol a'u hegwyddorion cyfraith gyhoeddus.
Mae angen inni feithrin mwy o gadernid yn y system, ac nid yw hynny'n golygu cadernid ariannol yn unig; mae'n golygu cadernid wrth ymdrin â data hefyd. Yn ddiweddar daeth diffygion i'r amlwg yn y modd y mae Llywodraeth Cymru'n ymdrin â data personol gyda'r tri digwyddiad mawr o dorri cyfrinachedd data yn arwain at osod manylion 18,000 o unigolion ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 24 awr. Fel y gwyddom, roedd hyn yn cynnwys manylion bron i 2,000 o breswylwyr cartrefi gofal.
Felly, nid cwestiwn o gadernid ariannol yn unig ydyw; mae'n fater o gadernid ar draws Llywodraeth Cymru, ac ar draws y sector cyhoeddus, a dyna pam ein bod yn cynnig rhai o'r newidiadau a gyflwynwyd gennym. Mae hwn yn gynnig sy'n ymwneud yn y bôn â rhoi hyder i bobl Cymru—hyder, pan fyddant yn pleidleisio, pa blaid neu bleidiau bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru y bydd cadernid a gwerth am arian yn cael eu hadeiladu'n rhan o'r broses honno a'r system honno o'r dechrau, ac na chânt eu hychwanegu fel ôl-ystyriaeth. Mae angen inni feithrin cadernid, sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, ac yn hollbwysig, hyrwyddo diwylliant newydd o effeithlonrwydd. Ymwneud â hynny y mae'r cynnig hwn: cynyddu gwaith craffu a bwrw goleuni ar rai o gorneli tywyllach y Llywodraeth, wrth inni ddechrau ar y daith hir o adeiladu'n ôl yn well.
Ac i gloi, Lywydd, dywedodd Neil McEvoy—ac rwy'n cytuno ag ef—fod angen inni ailadeiladu; rwy'n credu i chi ddweud bod angen inni newid diwylliant y Llywodraeth, drwy gael gwared ar y tywyllwch—. Rwy'n eich dyfynnu'n hollol anghywir yno, mewn gwirionedd, gyda llaw, Neil McEvoy; ni ddylwn byth geisio eich dyfynnu—rydych yn ei wneud yn llawer mwy huawdl eich hun. Ond fe ddywedoch chi na all pethau barhau fel roeddent o'r blaen, ac yn fy marn i, mae angen inni sicrhau nad ydym yn dileu'r union ddemocratiaeth sy'n rhoi'r cyfle i newid rydym yn ei geisio.