1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 6 Hydref 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ddydd Llun, Prif Weinidog, adroddwyd bod 596 o achosion COVID cadarnhaol newydd wedi'u nodi yng Nghymru yn dilyn prawf labordy—y ffigur uchaf, rwy'n credu, ers i'r pandemig ddechrau ac mae SAGE wedi dweud ei bod yn debygol bod achosion yn gyffredinol yng Nghymru yn cynyddu rhwng 1 y cant a 5 y cant bob dydd.
Dros y pythefnos diwethaf, rwyf i wedi codi gyda chi y gwiriondeb o bobl mewn ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau symud yn Lloegr yn cael teithio i Gymru i ardaloedd lle mae trosglwyddiad cymunedol yn isel. Ni ddylai diystyriaeth Prif Weinidog y DU o'r posibilrwydd o gyfyngiadau teithio o'r fath fod wedi bod yn llawer o syndod, efallai, o gofio'r dirmyg cyffredinol y mae ei Lywodraeth yn ei ddangos dro ar ôl tro tuag at Gymru. Rydym ni wedi galw am weithredu yn gyson ar y mater hwn ers yr haf. A allwch chi ddweud a ydych chi'n bwriadu gweithredu eich hunain yn annibynnol fel Llywodraeth a phryd, ac, yn ogystal ag ystyried cyflwyno cwarantin fel ateb, a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i wneud teithio nad yw'n hanfodol i Gymru o ardal sy'n destun cyfyngiadau symud yn anghyfreithlon ac yn destun camau gorfodi gan yr heddlu?
Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna. Rwy'n rhannu ei ymdeimlad o siom yng nghasgliad tybiedig Prif Weinidog y DU—a dywedaf 'tybiedig' oherwydd er iddo roi cyfweliad pryd y rhoddodd farn ar y mater hwn, nid yw eto wedi ymateb i'm llythyr ato ddydd Llun yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu bod hynny yn amharchus dros ben, nid i mi ond i'r Senedd ac i bobl yma yng Nghymru. Rwyf yn disgwyl gweld ateb i'r llythyr hwnnw a disgwyliaf weld rhesymeg wedi'i chyflwyno yn y llythyr hwnnw sy'n esbonio pam yr ymddengys bod Prif Weinidog y DU wedi dod i'w gasgliad.
Nid datrysiad ffiniol oedd yr hyn y gofynnais amdano yn fy llythyr, roedd yn ddatrysiad a fyddai wedi atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd â nifer fawr o achosion yn Lloegr rhag teithio i fannau eraill lle nad oedd y feirws yn yr un lle, boed hynny yn Lloegr, yn yr Alban neu yng Nghymru. Dyna'r ateb sydd gennym ni yng Nghymru: nid yw pobl sy'n byw mewn ardaloedd â nifer fawr o achosion coronafeirws yng Nghymru yn cael teithio i Loegr i fynd â'r feirws gyda nhw. Ac rwy'n dal i gredu mai dyna'r ateb cywir a phwysais hynny eto gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn mewn cyfarfod a gynhaliwyd gydag ef ddoe.
Yn y cyfamser, Llywydd, mae'n rhaid i ni baratoi yn erbyn y diwrnod pan fydd Prif Weinidog y DU yn parhau i wrthod cymryd y cam syml a doeth hwn, a cheir amrywiaeth o ffyrdd y gallem ni weithredu. Mae cwarantîn yn un ohonyn nhw, bydd yr Aelodau yn cofio'r rheol pum milltir a oedd gennym ni yng Nghymru, neu'r canllawiau pum milltir, o leiaf, yr oedd gennym ni yng Nghymru yn gynharach yn yr haf, ac mae'r posibilrwydd y mae Adam Price wedi ei gynnig yn bosibilrwydd arall y gallem ni ei ddefnyddio o fewn ein pwerau ein hunain. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd ail orau o wneud hynny. Rwyf i wedi cynnig y ffordd orau i Brif Weinidog y DU. Rwy'n disgwyl cael ateb iawn ganddo. Os bydd yn gwrthod gwneud hynny, yna, wrth gwrs, byddwn yn meddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud, ac rydym ni wrthi'n archwilio'r hyn y gallwn ni ei wneud, gyda'r pwerau sydd gennym ni ein hunain.
Mae Llywodraeth yr Alban, Prif Weinidog, wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno cyfyngiadau llawer tynnach yn y dyddiau nesaf. Rydych chi eich hunan wedi cael cyngor gan y gell gynghori dechnegol yn dweud mai'r cynharach y bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno, y mwyaf effeithiol y byddan nhw. Gallai'r math o fesurau ychwanegol y gallem ni fod yn sôn amdanyn nhw yn ein cyd-destun ni, er enghraifft, gynnwys cau tafarndai dan do yn llwyr mewn ardaloedd lle ceir lefelau uchel o haint, fel y mae Paris wedi ei wneud am bythefnos gan ddechrau heddiw, gyda chefnogaeth, wrth gwrs, pecynnau cymorth addas a digonol i'r diwydiant. Pa ystyriaeth weithredol ydych chi'n ei rhoi i'r posibilrwydd o gyflwyno cyfnod byr o gyfyngiadau tynnach—'mesur torri cylched' fel y'i hadnabyddir erbyn hyn?
Wel, Llywydd, rydym ni yn rhoi ystyriaeth i hynny, wrth gwrs, a chefais gyfle i drafod hynny hefyd ddoe gyda Phrif Weinidog yr Alban. Llywydd, dydyn ni ddim yn trafod dwy gyfres o fesurau. Mae'r ffigurau yr wyf i wedi eu gweld, y rhai diweddaraf, a fydd, mae'n debyg, ar gael i'r cyhoedd yn ddiweddarach yn y dydd, yn dangos bod y mesurau lleol yr ydym ni wedi eu cymryd mewn rhannau o'r de yn cael rhywfaint o lwyddiant. Felly, rwyf i'n gweithio gyda swyddogion i weld a allai fod yn bosibl, ar yr amod bod y llwyddiant hwnnw yn cael ei gynnal, i allu codi rhai o'r cyfyngiadau yr ydym ni wedi eu gorfodi ar bobl yn y rhan honno o Gymru, cyn belled â bod y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd hyd yma yn dangos y gallu i wneud hynny. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni baratoi, yn y ffordd y mae Adam Price wedi ei awgrymu, ar gyfer y ffaith y gallai pethau waethygu, nid gwella, dros y gaeaf hwn. Mae cyfres o fesurau wedi'u cyflwyno yn y cynllun a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Awst ar gyfer cyfyngiadau ardal i ddiogelu iechyd. Nid ydym ni wedi eu defnyddio nhw i gyd o bell ffordd, a phe byddai angen i ni eu defnyddio nhw ymhellach, yna byddai'n rhaid i ni wneud hynny—mae pa un a fyddai'n rhaid i ni wneud hynny am gyfnod byr braidd yn optimistaidd yn fy marn i. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu o'r mesurau yr ydym ni eisoes wedi eu rhoi ar waith yw ei bod hi'n cymryd ychydig wythnosau i'r rheini allu newid cwrs y coronafeirws. Ond rydym ni'n gweithio ar y ddau bosibilrwydd—gallu codi cyfyngiadau pan fo'r data yn dangos ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny ac ar fesurau ychwanegol y gallai fod yn rhaid i ni eu cymryd os na fydd hynny yn digwydd.
Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog nad yw cyfres fyrdymor o bolisïau yn gallu cymryd lle strategaeth hirdymor, mewn gwirionedd. Ond mae adroddiad y gell gynghori dechnegol, sydd newydd gael ei gyhoeddi, a dweud y gwir, o fewn yr awr ddiwethaf, yn ddeunydd darllen difrifol iawn. Mae'r gyfradd R y mae'n ei dyfynnu nawr ar gyfer Cymru rhwng 1.3 ac 1.6, ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu â dechrau mis Medi pan ddywedwyd ei bod rhwng 0.5 ac 1. Mae'n dweud bod nifer yr achosion yng Nghymru bellach yn tyfu—mae nifer yr achosion o heintio yn tyfu yn gyffredinol. Mae'n mynd ymlaen i ddweud:
Oni bai bod mesurau yn dod ag R yn ôl o dan 1, mae'n bosibl y gallai nifer yr achosion o heintiau a derbyniadau i'r ysbyty fod yn fwy na'r hyn a gynlluniwyd ar gyfer sefyllfaoedd.
Ac mae wedi dweud yn y gorffennol os na fydd y mesurau presennol yn dod ag R islaw 1, yna bydd angen cyfyngiadau pellach i reoli'r epidemig yng Nghymru. Ar ba bwynt ydych chi'n meddwl yr ydym ni nawr? A ydym ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn neu'r cyfeiriad anghywir, Prif Weinidog? Ac a fyddech chi'n derbyn fel pwynt cyffredinol bod pob Llywodraeth sy'n wynebu ail don yn gorfod dewis rhwng mynd yn gynnar ac yn galed o ran tynhau cyfyngiadau, neu'n ddiweddarach ac yn ysgafnach, ac yn hwy mae'n debyg, gan y byddai'r mesurau hynny yn llai effeithiol? Nid oes unrhyw ddewisiadau di-risg, ar un ystyr, i unrhyw Lywodraeth, ond onid y risg fwyaf oll yw petruso ac oedi?
Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price, heblaw am ran olaf ei frawddeg, oherwydd roeddwn i'n meddwl hyd at hynny, ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at y drafodaeth hon. Rwy'n credu bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru wedi bod yn gynnar ac yn galed, felly mae ein trothwyon ar gyfer gweithredu yn is na dros ein ffin. Ein trothwy yw 50 achos o bob 100,000 cyn i ni weithredu. 75 yw'r trothwy dros ein ffin. Mae ein trothwyon cyfradd gadarnhaol yn is nag y maen nhw yn y Deyrnas Unedig. A bydd ef yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu yn fawr yr wythnos diwethaf gan Aelodau Seneddol Ceidwadol, ac rwy'n credu, yn warthus, Aelodau Ceidwadol y Senedd, pan gymerasom ni gamau yn y gogledd, gan nad oeddem ni wedi cyrraedd y trothwyon 50 hynny eto, er ei bod hi'n gwbl amlwg i unrhyw un a astudiodd y ffigurau bod gogledd Cymru ar ei ffordd i'r trothwy hwnnw—ac yn anffodus, heddiw, mae ymhell heibio iddo.
Felly, rydym ni wedi cymryd camau cynnar, a chamau sy'n anodd i bobl. Rwyf i wir yn deall ein bod ni'n gofyn i bobl sy'n wynebu'r cyfyngiadau lleol hyn wneud cyfraniad sy'n amharu ar eu bywydau bob dydd. Ond rydym ni wedi gwneud hynny gan ein bod ni'n credu, fel y dywedodd Adam Price, os byddwn ni'n gweithredu yn gynnar, yna mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r camau hynny bara am gyfnod byrrach cyn y gallwn ni roi rhyddid yn ôl i bobl. Yr arwyddion cynnar o'r de yw ein bod ni'n cael rhywfaint o lwyddiant o ran gwneud yr union beth hwnnw. Ac er bod adroddiad TAC yn ddifrifol iawn yn yr hyn y mae'n ei ddweud, a dylai fod yn rhybudd gwirioneddol i unrhyw un sy'n credu bod Llywodraeth Cymru rywsut yn gweithredu yn frysiog neu'n cyflwyno cyfyngiadau lle nad oes eu hangen, mae'n sicr y byddai'r adroddiad TAC hwnnw yn bwysig iddyn nhw ei ddarllen. Ond yn gytbwys—. Ac yno yn adroddiad TAC hefyd y mae'r dystiolaeth bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth, a dyna, fel y dywedodd Adam Price, yw'r ymdrech gydbwyso anodd iawn sy'n wynebu unrhyw Lywodraeth sy'n ceisio ymateb, yn gymesur ond o ddifrif, i'r cynnydd diweddaraf i'r ffigurau.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, adroddwyd heddiw bod y rhestr o bobl sy'n aros am lawdriniaeth arferol yng Nghymru bron chwe gwaith yn hwy na blwyddyn yn ôl, ac mae un llawfeddyg orthopedig wedi rhybuddio y gallai amseroedd aros am bethau fel pen-glin a chluniau newydd fod yn dair blynedd. A yw e'n iawn, Prif Weinidog?
Wel, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod coronafeirws yn cael ac wedi cael effaith ddifrifol iawn ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni gweithgareddau a fyddai, ar unrhyw adeg arall, wedi bod yn ganolog i waith y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hynny, mae arnaf i ofn, yn anochel, ni ellir ei osgoi. Ac er bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed iawn i greu'r amodau lle gellir cyflawni cymaint o weithgarwch â phosibl tra bod yr argyfwng coronafeirws yn parhau, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd amseroedd aros hwy am rai llawdriniaethau yng Nghymru nag yr ydym ni wedi ei weld ers cryn amser.
Wel, yn gwbl amlwg, Prif Weinidog, mae angen felly i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion, oherwydd mae nifer o sefydliadau proffesiynol wedi mynegi pryder gwirioneddol ynghylch ailddechrau gwasanaethau yn ystod y misoedd diwethaf. Dros yr haf, rhybuddiodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon y bydd oedi cyn llawdriniaeth eisoes wedi arwain at fwy o angen am lawdriniaeth gymhleth; rhybuddiodd Sefydliad Prydeinig y Galon, gan nad yw gwasanaethau ar gael o hyd, bod brys y llawdriniaethau hyn yn cynyddu, gan greu carfan sylweddol o gleifion sydd angen triniaeth frys; ac mae Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru wedi dweud eu bod yn pryderu am y posibilrwydd o reoli gofal rheolaidd ochr yn ochr ag ail don. Prif Weinidog, bydd yr oediadau hyn yn parhau roi pwysau ar gapasiti'r GIG, ac mae'r sefydliadau hyn wedi bod yn rhybuddio am hyn ers cryn amser. Nawr, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu datblygiad parthau gwyrdd neu fannau COVID isel fel y'u gelwir mewn ysbytai. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r rhybuddion hyn i helpu i hwyluso triniaeth i'r bobl hynny sy'n aros ledled Cymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflymu'r gwaith o ddatblygu parthau gwyrdd yn ysbytai Cymru?
Wel, Llywydd, byddai'r Aelod yn dod o hyd i'r ateb i'w gwestiynau yn y cynlluniau chwarterol y mae'n ofynnol i'r GIG yng Nghymru eu cyhoeddi. Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer chwarteri 3 a 4 dim ond yn ddiweddar; maen nhw'n dangos y camau sy'n cael eu cymryd gan fyrddau iechyd ledled Cymru i gyflymu'r dychweliad i'r math o weithgarwch y byddai'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn ei gyflawni yr adeg hon y llynedd, cyn i'r argyfwng coronafeirws daro. Ac mae hynny'n cynnwys creu mwy o barthau gwyrdd—nid yw bob amser yn bosibl yng Nghymru i greu ysbytai cyfan fel parthau gwyrdd. Mae'n anochel, o ystyried ein daearyddiaeth a'n trefniad o wasanaethau y bydd yn rhaid rhannu ysbytai, mewn rhai mannau, yn barthau sy'n ymdrin â chleifion coronafeirws a pharthau gwyrdd sy'n rhydd o COVID. Ond mae'r gwaith hwnnw yn parhau, ac mae ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, sydd wedi cael cyfnod mor dorcalonnus dros y chwe mis diwethaf, yn gweithio mor galed ag y gallant er mwyn gallu ymdrin â'r nifer gynyddol o gleifion coronafeirws sy'n dod i mewn i'n hysbytai—dyfynnais y ffigur hwnnw i Mark Isherwood yn gynharach: dros 200 yn fwy o welyau wedi'u meddiannu gan achosion coronafeirws heddiw na phythefnos yn ôl—. Mae'r gwasanaeth iechyd yn gorfod ymdopi â hynny i gyd, ac ar yr un pryd a chyda'r un staff, mae'n gwneud ei orau glas i wneud cynnydd o ran yr oediadau a gafwyd yn anochel i driniaethau mwy arferol i gleifion eraill.
Prif Weinidog, ni allaf bwysleisio digon bod pobl go iawn sy'n aros yn daer am driniaethau a llawdriniaeth y tu ôl i ffigurau Llywodraeth Cymru. Hyd yn oed mewn ardaloedd nad ydynt yn destun cyfyngiadau symud, fel Sir Benfro, ceir enghreifftiau o arosiadau arbennig o hir am driniaeth; er enghraifft, yr wythnos diwethaf, tynnais sylw at arhosiad o 81 wythnos am driniaeth ddeintyddol i blentyn awtistig 11 oed yn fy etholaeth i. Mae pâr sy'n awyddus iawn i ailddechrau eu triniaethau ffrwythlondeb ac sy'n aros am newyddion ynghylch pryd y gall eu taith cynllunio teulu ailddechrau wedi cysylltu â mi hefyd. Mae pobl ledled Cymru, o'r gogledd i'r de, yn dal i aros am driniaethau a llawdriniaeth ar amrywiaeth o faterion. Mae'r bobl hynny angen eich cymorth, Prif Weinidog, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth fel mater o frys nawr.
Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol Cymru? A wnewch chi gadarnhau hefyd y bydd cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru yn darparu digon o adnoddau i fyrddau iechyd ledled Cymru i sicrhau na fydd yr amseroedd aros hyn yn parhau i godi? Pa sicrwydd allwch chi ei gynnig i bobl ledled Cymru sy'n aros am driniaeth y byddan nhw'n gallu cael triniaethau a gwasanaethau'r GIG, a bod gwaith ar y gweill mewn gwirionedd i gyflymu'r broses o ailddechrau llawdriniaethau a drefnwyd ledled Cymru?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod wedi gofyn tri chwestiwn i mi y prynhawn yma. Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn ddim ond crynodeb o'r anawsterau sy'n hysbys iawn ac yr wyf i'n hapus iawn i'w cydnabod. Nid yw wedi cynnig yr un awgrym—dim un—ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r problemau hynny. Ac mae'r problemau hynny yn gyffredin ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Lle mae ei blaid ef wrth y llyw, ym mis Mawrth eleni roedd 3,000 o bobl yn aros mwy na 52 wythnos; erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd yn 83,000 o bobl. Pe byddai atebion hawdd i'r cyfyng-gyngor gwirioneddol hwn, bydden nhw ar gael yma yng Nghymru, yn union fel y bydden nhw ar gael mewn mannau eraill. Nid oes atebion hawdd, ac nid yw cyfraniadau'r Aelod y prynhawn yma wedi cynnig yr un syniad—dim un—o ran sut y gellid mynd i'r afael â'r anawsterau gwirioneddol hyn yn well.
Pan ddaw'n fater o ddweud wrthyf i, 'A wnaf i sicrhau y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn darparu arian?', gadewch i mi ei atgoffa nad ydym ni'n gwybod beth fydd cyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, mae ei Lywodraeth ef, ar ôl addo cyllideb ddechrau'r hydref, wedi penderfynu na allan nhw lwyddo i wneud hynny. Ni fyddwn yn gwybod tan ddiwedd mis Tachwedd pa arian sydd gennym ni yma yng Nghymru ar gyfer unrhyw un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Yn y sefyllfa honno, sut y mae e'n disgwyl—sut yn y byd gallai ef ddisgwyl—sicrwydd ynghylch sut y gallai ein harian gael ei ddefnyddio pan nad ydym ni'n gwybod faint o arian fydd gennym ni at unrhyw ddiben cyhoeddus? Byddai'n well iddo gyfeirio ei gwynion at y rhai a allai ddatrys hynny.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, a gaf i eich rhybuddio rhag dweud bod pobl yn warthus dim ond oherwydd bod ganddyn nhw—Aelodau Ceidwadol yn y gogledd yn yr achos hwn—wahanol safbwynt ar gyfyngiadau coronafeirws i'r un sydd gennych chi ac sy'n gofyn cwestiynau am hynny?
Mae gan eich Llywodraeth uchelgais hirdymor penodol o 30 y cant yn gweithio gartref yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl y pandemig. Rydych chi'n dweud y byddech chi'n cyflawni hyn drwy ysgogi newidiadau i ddiwylliant gwaith Cymru. Prif Weinidog, mae eich dirprwy Weinidog trafnidiaeth yn dweud bod gennym ni gyfle i hyrwyddo gweithio gartref—efallai y byddai pobl eraill yn ei alw yn gamfanteisio ar y pandemig i hyrwyddo ei agenda wleidyddol flaenorol ei hun. Beth fydd effaith hyn ar ganol ein dinasoedd a'r siopau a'r swyddfeydd yno, yn enwedig ar fusnesau annibynnol nad ydyn nhw'n gallu gwasanaethu cymudwyr mwyach? Oni fydd eich targed ar gyfer gweithio gartref yr hoelen olaf yn yr arch i lawer ohonyn nhw? A pham ydych chi'n meddwl y gall Llywodraeth Cymru gynllunio ein cymdeithas o'r canol, fel pe byddech chi'n gweld ac yn gwybod popeth? Pam mai 30 y cant yw'r nifer iawn?
Wel, Llywydd, defnyddiais y term 'gwarthus' yn fwriadol, yn feddylgar, ac mae'n warthus am y rheswm hwn: bod y llythyr a gyhoeddwyd gan Aelodau Seneddol Ceidwadol, ac, fel y dywedais, Aelodau'r Senedd hon hefyd, yr wythnos diwethaf yn anogaeth i bobl yn y gogledd beidio â chadw at y gyfraith sy'n cael ei phasio yma yng Nghymru. Rwyf yn credu ei bod yn warthus i wneuthurwyr deddfau wneud hynny, oherwydd roedd yn eu hannog i feddwl bod y cyfyngiadau y bu'n rhaid i ni eu gorfodi ar bobl yn y gogledd yn ddiangen ac na ellid eu cyfiawnhau. Nid oedd dim o hynny'n wir, ac mae'n tanseilio parodrwydd pobl eraill sydd eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud eu cyfraniad rhag gwneud hynny hefyd, ac rwy'n credu bod hynny yn beth gwarthus i'w wneud ac rwy'n hapus iawn i sefyll wrth y disgrifiad hwnnw ohono.
Llywydd, mae'r argyfwng coronafeirws wedi bod yn brofiad ofnadwy i gynifer o'n cyd-ddinasyddion ac mae'n parhau i fod felly. Ond, hyn i gyd, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o feddwl am bethau y gallwn ni eu cymryd ohono ac i'n helpu ni i lunio ein dyfodol mewn ffordd wahanol. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd wedi dysgu i weithio yn wahanol, heb orfod teithio mewn niferoedd mawr i swyddfeydd pan all pobl weithio yr un mor foddhaol a llwyddiannus o leoliadau o bell neu hyd yn oed o'u cartrefi, yn fy marn i, yn un o'r gwersi cadarnhaol y gallwn ni eu cymryd o'r chwe mis diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau manteisio ar y profiad cadarnhaol hwnnw a'i wneud yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gweld Cymru yma yn y dyfodol, a bydd yn golygu y bydd yn rhaid i fusnesau ymateb i'r patrymau newidiol hynny. Nid yw'n fater o golli busnesau yn y crynswth, oherwydd bydd y busnesau hynny yn adleoli ac yn cael eu hail-greu mewn lleoedd yn ein trefi, yn nes at y man lle mae pobl yn byw, lle bydd pobl, gan ddefnyddio ein canolfannau gweithio o bell, yn gallu mynd erbyn hyn i wneud y pethau hynny na allwch chi eu gwneud gartref gan dreulio rhan o'r wythnos waith yn gweithio gartref hefyd. Bydd yn helpu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, bydd yn adfywio rhannau o'n trefi y tu allan i'n dinasoedd mawr, bydd yn cael effaith lesol ar ein hamgylchedd. Mae'n uchelgais dilys ac, rwy'n credu yn un sydd â llawer o gefnogaeth iddo o ran y ffordd yr ydym ni eisiau gwneud pethau yma yng Nghymru.
Felly, ar gyfer y busnesau annibynnol hynny sy'n gwasanaethu cymudwyr, 'Anlwcus.'
Prif Weinidog, pan fydd Llywodraeth y DU yn awgrymu y gallai dalu am ffordd liniaru'r M4, prosiect a addawyd gennych chi ond a ddywedasoch yn ddiweddarach na allech chi ei fforddio, rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn ymateb fel pe byddai'n ymosodiad ar ddatganoli, ond prin yw'r arwyddion yr ydych chi'n eu dangos eich hun o barchu'r setliad datganoli. Rydych chi'n ceisio gorfodi ffin gyda Lloegr drwy atal pobl sy'n cael teithio yn gyfreithlon o fewn Lloegr rhag teithio i Gymru. Mae gennych chi Weinidog cysylltiadau tramor. Rydych chi'n dweud, 'Datganolwch gyfiawnder', y mae aelodau eich meinciau cefn yn dweud wrthym y gallai olygu caniatáu pardwn i bobl a gafwyd yn euog o ymosod ar yr heddlu. Fe wnaethoch dderbyn datganoli pwerau codi trethi incwm heb y refferendwm a addawyd. Dywedasoch hyd yn oed nad yw eich cefnogaeth i'r undeb yn ddiamod, y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddisgrifio fel bod yn chwilfrydig ynghylch annibyniaeth. Nawr rydych chi'n ei ddilyn ar reoli ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. A allech chi gymryd cam arall y flwyddyn nesaf ar y llethr llithrig hwnnw i annibyniaeth drwy bleidleisio dros Adam Price i fod yn Brif Weinidog i ni, neu a ydych chi'n diystyru hynny?
Llywydd, atgoffaf yr Aelod, fel y bu'n rhaid i mi ei wneud lawer gwaith, mai ef a bleidleisiodd i beidio â chynnal refferendwm ar bwerau treth incwm i'r Senedd, nid fi. Roedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol bryd hynny. Y Blaid Geidwadol a newidiodd ei meddwl am refferendwm, ac yn ddi-os fe wnaeth ef gyd-fynd â hynny ar y pryd. Mae ganddo wyneb yn ceisio cwyno am hynny nawr neu awgrymu mai rhywun arall sy'n gyfrifol.
Llywydd, ni fyddaf yn pleidleisio dros ymgeisydd o unrhyw blaid arall ac eithrio'r Blaid Lafur i fod yn Brif Weinidog yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at argyhoeddi cynifer o'n cyd-ddinasyddion â phosibl i fynd ar yr un daith.