Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am adroddiad newydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiadau Economaidd, yr OECD, sef 'Cyflawni Cwricwlwm Newydd Cymru', a gyhoeddwyd ddoe. Mae cyngor a her amserol gan yr OECD wedi bod yn elfen allweddol o agwedd y Llywodraeth hon a minnau tuag at ddiwygio addysg. Mae'r Aelodau yn gwybod ein bod ni wedi meithrin perthynas newydd a chadarn yn rhyngwladol dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym yn cynnig cyfleoedd sy'n trawsnewid bywydau ym Mhrifysgol Yale, mae athrawon dan hyfforddiant o Sefydliad Technoleg Massachusetts yn dysgu gwyddoniaeth yn ein hysgolion ni, ac rydym yn gweithio gyda systemau eraill er mwyn dysgu a rhoi cyngor.
Mae'r OECD yn adnabod ac yn deall ein system ni, ac maen nhw'n gallu dangos darlun cywir iawn i ni yn y Llywodraeth, ond i'n system ni yn ei chyfanrwydd hefyd, ac maen nhw'n cydnabod bod gan Gymru, yn wahanol i bedair blynedd yn ôl, weledigaeth glir o ran ei system addysg a'i dysgwyr. Maen nhw'n cydnabod swyddogaeth y Llywodraeth o ran ymgorffori datblygu ar y cyd ar draws y system yn egwyddor ar gyfer datblygu'r cwricwlwm a llunio polisïau addysg yn fwy cyffredinol.
Roedden nhw'n arfer dweud bod Cymru yn anwybyddu arweinyddiaeth fel sbardun ar gyfer diwygio a llwyddiant. Nid yw hynny'n wir bellach. Ac maen nhw'n dweud bod cyfathrebu wedi bod yn eglur a chyson, gydag arweinyddiaeth gref o'r brig. Maen nhw'n gweld ein bod ni wedi ymateb i her adroddiadau blaenorol a'n bod ni wedi sefydlu cydlyniad i'r elfennau amrywiol o bolisi ac eglurder i'r weledigaeth, gan osod sylfaen gref i weithwyr addysg proffesiynol gymryd meddiant o'r genhadaeth genedlaethol.
Fe ŵyr yr OECD ein bod ni wedi adeiladu sylfeini cryf ar gyfer cam nesaf ein taith ni gyda'r cwricwlwm newydd. Sylfeini megis perfformio'n well na gwledydd eraill y DU yn ein canlyniadau Lefel-A gorau, lle'r oeddem ni ymhell ar ei hôl hi ar un adeg, yn ôl yn 2016; mae miloedd ar filoedd yn fwy o ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn ennill TGAU mewn pynciau fel gwyddoniaeth erbyn hyn, gan roi hwb uniongyrchol i'w cyfleoedd nhw mewn bywyd; ac mae perfformiad ein Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gwella ym mhob maes am y tro cyntaf erioed, gan ein rhoi ni'n ôl ym mhrif ffrwd yr OECD.