Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i Suzy Davies am ei sylwadau a'i chwestiynau. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hollbwysig i mi, ac nid wyf i'n dymuno bod yn rhy feirniadol, ond rwyf wedi bod yn y Senedd yn ddigon hir i fod wedi gweld llawer iawn o ymdrech, amser, egni ac adnoddau sydd wedi rhoi pwyslais yn aml ar sefydlu datganiadau polisi a dogfennau polisi teilwng iawn—mae deddfwriaeth, yn wir, yn aml yn sail i bethau o'r fath—ac yna, efallai, awgrym neu deimlad, pan fydd hynny wedi digwydd, fod y gwaith wedi ei orffen. Er mwyn i'r cwricwlwm fod yn llwyddiant, mae angen inni ganolbwyntio'n ddi-baid ar weithredu, a dyna pam y cafodd yr OECD ei gwahodd i adolygu'r gwaith, i'n rhoi ni ar ben y ffordd i sicrhau bod y gweithredu nawr yn dilyn yr egni a'r ymdrech sydd wedi bod i ddiwygio'r cwricwlwm hyd yn hyn. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau a'r argymhellion gan yr OECD ynglŷn â'r dull o gael y cam nesaf hwn, sydd yn fy marn i wedi bod ar goll yn y gorffennol—yn iawn.
Gofyn y mae Suzy Davies pa gamau y byddwn ni'n eu cymryd. Wel, yn gyntaf, fel y dywedais i yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o 'Ein cenhadaeth genedlaethol'. Mae'r Aelod yn ymwybodol bod gennym ni, yn fersiwn gyntaf 'Ein cenhadaeth genedlaethol', gynllun clir iawn o ddisgwyliadau ynglŷn â'r hyn oedd i'w ddisgwyl ym mhob rhan o'r system, a pha bryd y byddai'r gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau. A bydd ein fersiwn newydd ni'n adeiladu ar hynny, gan ystyried argymhellion yr OECD, ac, fel y dywedais i, yn amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd, gan ein symud ni ymlaen i weithredu'n llwyddiannus.
Mae Suzy yn iawn i ganolbwyntio ar fater cydlyniad. Rwy'n credu bod hyn yn arbennig o bwysig o ran haen ganol system addysg Cymru, a chael dealltwriaeth glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau pob aelod o'r haen ganol honno wrth gefnogi ysgolion i wireddu'r cwricwlwm newydd. Felly, mae hynny'n cynnwys popeth o'n hawdurdodau addysg lleol unigol, ein gwasanaethau gwella ysgolion, yr Academi Genedlaethol dros Arweinyddiaeth Addysgol a'n Cyngor Gweithlu Addysg. Mae angen i ysgolion wybod pa gymorth fydd ar gael a chan bwy i geisio am y cymorth hwnnw wrth iddyn nhw ddechrau ar daith unigol eu sefydliadau nhw eu hunain a datblygu eu cwricwlwm newydd. Yr allwedd i hynny yw diwygiad parhaus ein harolygiaeth ysgolion Estyn, sy'n symud tuag at system o ganolbwyntio llawer mwy ar gefnogi ysgolion yn hytrach nag, efallai, fel yr ystyrid yr arolygiaeth yn y gorffennol, fel rhywun sy'n dod, yn ffurfio barn ac yna'n diflannu, ac nad yw'n bresennol, mewn gwirionedd, i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a nodir gan yr arolygiaeth gyda sefydliadau unigol.
Felly, fe fydd ein dogfen ni o ddisgwyliadau yn eglur iawn, ac fe gafodd ei datblygu drwy ddatblygu ar y cyd â'n grŵp addysg strategol ni. Rhan hanfodol o hynny fydd ein perthynas barhaus â'n sefydliadau addysg uwch, sy'n datblygu'n fawr iawn, yn enwedig y rhai sy'n darparu addysg gychwynnol athrawon; mae honno'n rhan hanfodol iawn o gefnogi ysgolion, gan symud ymlaen, a darparu cymorth unigol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae'n rhaid cyflwyno'r rhaglen dysgu proffesiynol mewn ffordd wahanol oherwydd COVID-19, ond, hyd yn oed gyda'r holl bwysau a straen ar y system, mae ysgolion yn parhau i gymryd rhan yn y dysgu proffesiynol hwnnw, lle bynnag y bo modd.
Felly, mae hynny'n dod â mi at fater effaith COVID-19 ar ein hamserlen o ddiwygio'r cwricwlwm. Yn amlwg, ar hyn o bryd, rydym yn credu bod modd inni barhau ar y daith i ddiwygio gyda'r amserlen a gyhoeddwyd, er ein bod yn cymryd camau drwy'r amser i sicrhau bod yr wybodaeth a'r gefnogaeth, a'n disgwyliadau ni o ysgolion, yn cael eu profi yn erbyn yr heriau o redeg ysgolion o ddydd i ddydd ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn ceisio llethu'r ysgolion, ond mewn gwirionedd rydym eisiau cynnig gwybodaeth a chymorth ychwanegol iddyn nhw mewn da bryd.
Yn gwbl briodol, unwaith eto, mae Suzy yn sôn am faterion codi safonau. Un o'r rhesymau pendant dros gyflwyno cwricwlwm newydd, ochr yn ochr â'n diwygiadau addysgol eraill ni, yw er mwyn codi safonau—codi safonau i'n holl fyfyrwyr ni, ond, yn benodol, sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad sy'n bodoli. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd a chredaf ei bod yn iawn cydnabod hynny, ond mae llawer mwy eto o gynnydd y mae angen ei wneud. Dyna pam rwy'n awyddus i beidio ag oedi cyn dechrau'r cwricwlwm newydd, oherwydd rwy'n credu bod y cwricwlwm yn rhan bwysig o'r agenda hon i godi safonau.
O ran addysg bellach, yn amlwg, y cwricwlwm yr ydym ni'n sôn amdano yw'r cwricwlwm 3 i 16 oed, ond mae iddo oblygiadau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae addysg bellach wedi bod yn rhan o'r broses ddatblygu ar y cyd, gyda chynrychiolwyr Addysg Bellach yn rhan o bob un o'r grwpiau meysydd dysgu a phrofiad a gynullwyd i ddatblygu'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' a datblygu'r dogfennau ategol ar gyfer y cwricwlwm. Felly, rwy'n fodlon bod hynny wedi bod yn rhan o'r ystyriaeth wrth lunio'r cwricwlwm sydd ger ein bron ni ar hyn o bryd. Diolch, Llywydd.