3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:06, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi hefyd. Mae cryn dipyn ynddo, ac rwy'n siŵr na fyddaf i'n gallu ymdrin â phopeth yn llawn heddiw. A gaf i eich llongyfarch hefyd am allu rhoi'r datganiad hwn ar yr agenda o fewn oriau i'r adroddiad gael ei ryddhau o'r gwaharddiad? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n defnyddio eich galluoedd dewiniol chi gyda Gweinidogion eraill er mwyn cael trafodaethau ar reoliadau yn gynt hefyd, oherwydd os ydych chi'n gallu gwneud hyn, rwy'n siŵr y bydden nhw'n gallu gwneud hynny hefyd.

Fel yr ydych chi'n dweud, nid oes unrhyw beth mawr annisgwyl yn yr adroddiad, ac mae rhywfaint o hynny yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano, yn fy marn i. Mae yna lawer ynddo am gynnydd, sydd i'w groesawu ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ac rwy'n diolch yn arbennig i chi hefyd am y sylwadau a wnaethoch am gefnogaeth i athrawon tua diwedd eich datganiad chi nawr. Ond, yn y pen draw, mae athrawon yn awyddus i gael gwybod sut i gyflawni'r cwricwlwm hwn, ac mae'r adroddiad yn eglur iawn bod llawer iawn i'w wneud eto ynglŷn â hyn a chaiff pryderon eu mynegi o hyd am gydlyniad—fe wn eich bod yn dweud bod canmoliaeth gref wedi bod i'r cydlyniad, ond fe geir cryn bryder yn ei gylch hefyd—yn sicr o ran cysondeb, o ran safonau, o ran y ddealltwriaeth o'r dull o gynnal asesiadau. Y dyfyniad a oedd yn peri gofid i mi yn hyn o beth oedd mai 'ychydig o dystiolaeth sy'n bodoli ar effaith syniadau mawr ar ganlyniadau dysgwyr.' Ac felly, fel y dywedais i, er bod llawer i'w groesawu yma, credaf fod rhywfaint o dystiolaeth yn peri pryder yn yr adroddiad hwn i gefnogi'r argymhellion ar gyfer eich cam nesaf chi.

Nid yw'r adroddiad, wrth gwrs, yn sôn dim am COVID ac rwy'n sylweddoli, Gweinidog, eich bod wedi dweud eich bod chi'n bwriadu symud ymlaen—nid gorffwys ar eich rhwyfau, rwy'n credu mai dyna a ddywedasoch chi—er gwaethaf COVID, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni adael hyn fel 'er gwaethaf COVID'. Dyma'r drwg mawr yn y caws wrth gyflwyno'r cwricwlwm hwn. Fel y dywedodd pennaeth ysgol uwchradd Pencoed yn fy rhanbarth i fy hun pan wnaed y datganiad hwn, 'Fe aeth yn llwyr ar goll yn niwl COVID-19'.

Felly, sut wnaiff yr holl bartïon perthnasol yn hyn, y rhanddeiliaid, fynd i'r afael â'r argymhellion ar yr un pryd ag ymdopi â phwysau COVID, ac, wrth gwrs, yr ansicrwydd ynghylch a fydd gennym ni arholiadau ai peidio? Oherwydd rwyf i o'r farn os na allwch chi ateb y cwestiwn hwnnw, yna fe fydd yn rhaid inni ddechrau meddwl pa bryd y bydd yn realistig gweithredu hyn mewn gwirionedd.

Mae'r adroddiad yn gwbl eglur, fel y dywedwch, o ran mabwysiadu safbwynt yr ysgol, ac mae hyn yn ymwneud yn helaeth â sut mae ysgolion yn troi'r cwricwlwm o fod yn syniad gwych i fod yn rhywbeth gweithredol, oherwydd nid yw'r athrawon yn dymuno cyflwyno rhywbeth nad yw cystal ag y gallai fod, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud ers peth amser. Felly, ar wahân i'r cyfyngiad amser hwnnw, beth arall yn eich barn chi y mae'r athrawon yn nerfus yn ei gylch? A yw'r arweiniad yn yr adroddiad hwn, yr argymhellion yn yr adroddiad hwn, yn ddigon i leddfu'r pryderon ynghylch y gallu i gyflawni'r holl gamau nesaf hyn?

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y strwythurau diwygiedig ar gyfer gwella ysgolion ar waith. Roeddech chi'n crybwyll hynny gyda pheth manylder, ond roedd yn parhau i bwysleisio'r angen, o hyd, i flaenoriaethu gwella ysgolion. Ac nid wyf i'n eich beio chi am dynnu sylw at rai o lwyddiannau'r ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid yw'r darlun mor ddeniadol ag yr ydych chi'n ei honni, er gwaethaf yr ymdrech lew gan ein haddysgwyr ni, oherwydd rydyn ni'n cytuno â'r OECD bod angen parhau i flaenoriaethu hyn. Er bod £100 miliwn yn cael ei wario ar wella ysgolion yn y tymor Seneddol hwn, rydym ni'n dal i fod yn dweud mai llai na hanner ein hysgolion uwchradd ni sydd o safon dda neu well, ac mae chwarter ohonyn nhw naill ai mewn cyflwr o ymyrraeth statudol uniongyrchol neu'n cael eu hadolygu rhag ofn eu bod nhw ar fin mynd i'r cyflwr hwnnw. Efallai fod ein canlyniadau PISA ni ychydig yn uwch na chyfartaledd yr OECD, ond nid y rheswm lleiaf am hynny yw bod y cyfartaledd hwn wedi gostwng ei hunan. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU o ran y rhai sy'n cael prydau bwyd ysgol am ddim wedi lleihau ychydig, ond nid cymaint ag yr oeddech chi wedi gobeithio—rwy'n credu y byddech chi'n dweud hynny eich hun, Gweinidog—ac mae'r bwlch yn agor eto wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, fel y gwyddom. Fe wyddom ni hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad rhyngom ni a gwledydd eraill y DU o ran disgyblion nad ydyn nhw'n cael prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn parhau i fod yn un enfawr. Felly, gan mai dim ond un rhan o'r rhaglen i ddiwygio addysg yw'r cwricwlwm, pa beth yn yr adroddiad hwn sy'n cyfeirio at fesurau a fydd yn datrys y mater hwn o wella ysgolion, sydd y tu hwnt i'ch cyrhaeddiad chi ar hyn o bryd, yn fy marn i?

Mae'r adroddiad yn sôn llawer am gydlyniad ac atgyfnerthu i gyflawni safonau cyson. Roeddech chi'n crybwyll fod yna rywfaint o dystiolaeth o hynny eisoes, ond mae llawer i'w wneud eto. Pa mor fawr yw'r perygl y bydd yr holl gydweithio amlbleidiol hwn yn rhy gymhleth yn y pen draw, yn arbennig felly gan y dylai, mewn gwirionedd, gynnwys mwy o athrawon, rhieni a'r gymuned? Ac os byddwn ni'n cadw at yr amserlen hon, a fyddwn ni mewn sefyllfa lle bydd raid i'r Llywodraeth, er gwaethaf ei dyheadau, fod yn fwy rhagnodol ynglŷn â'r dulliau o gyrraedd safonau cyson, er mwyn gyrru'r cwch i'r dŵr?

Ac yna'n olaf gennyf i—y mater o sut olwg fydd ar y cwricwlwm hwn i flynyddoedd 10 ac 11 a hyd yn oed y ddwy flynedd ddilynol, lle mae angen i'r cwricwlwm fod yn fwy nag eang a chytbwys yn unig, lle mae gofyn iddo fod yn ddigon dwfn i ddangos lefelau uchel o wybodaeth o leiaf mewn meysydd pwnc a sgiliau dadansoddi, nad yw'n rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw, yn ôl yr hyn a welais yn yr adroddiad hwn. Pwy sy'n cyd-ddatblygu'r rhan honno o'r cwricwlwm i rai rhwng 14 ac 16 oed, ac efallai hyd yn oed i rai rhwng 16 a 18 oed? Ble mae'r colegau Addysg Bellach yn sefyll yn hyn o beth, er enghraifft, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw gyflwyno rhywfaint o'r cwricwlwm hwn? Rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol iawn na ddywedodd yr OECD ddim am addysgwyr y tu allan i'r system ysgolion, er gwaethaf y ffaith y bydd y cwricwlwm yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau ysgolion. Diolch. Neu os wnaethant hynny, mae'n rhaid fy mod i wedi ei fethu.