Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 6 Hydref 2020.
Rydym ni wedi dechrau sgwrs genedlaethol ynglŷn â sut y dylai Cymru edrych yn y dyfodol. Fe wnaethom ni ofyn i aelodau'r cyhoedd gysylltu â ni i ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig iddyn nhw ar gyfer y dyfodol, a chawsom dros 2,000 o sylwadau gan unigolion, gan sefydliadau cymunedol, elusennau, busnesau a chyrff cynrychioliadol. Rwyf wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gyda phobl o grwpiau cymunedol, y trydydd sector, awdurdodau lleol, undebau llafur, busnesau, academyddion, pobl ifanc, ynghyd â sefydliadau cynrychioliadol o Gymru, rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol.
Bydd aelodau'r Senedd hefyd yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu grŵp cynghori o arbenigwyr, sydd â phedwar aelod sefydlog: Torsten Bell, o'r Resolution Foundation; Rebecca Heaton, sy'n cynrychioli Cymru ar Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac sy'n arwain ar newid yn yr hinsawdd yn y Drax Group; Paul Johnson, sy'n bennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; a Miatta Fahnbulleh, sy'n arwain y Sefydliad Economeg Newydd; a bu pumed aelod gwahanol yn bresennol ym mhob sesiwn, gan ddod â phrofiad a gwybodaeth o sector penodol neu o fath arall sy'n berthnasol i'r mater sy'n cael ei drafod.
Yn y cyfarfodydd bord gron fe ystyriwyd ystod eang o faterion i'n helpu i gloriannu ble fyddai orau i ni flaenoriaethu ein hymdrechion, o ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu. Bu'r cyfarfodydd yn hynod ddefnyddiol ac mae'r safbwyntiau a gyflwynwyd yn y trafodaethau hyn wedi llywio datblygiad ein blaenoriaethau. Maen nhw hefyd wedi ailddatgan i ni fod ein pryderon presennol—yr argyfwng hinsawdd, effaith ddamniol tlodi, yr angen i addasu i newid economaidd cyflym a phwysigrwydd ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus i'w gwneud yn fwy ymatebol a hygyrch—a'n gwerthoedd a'n hamcanion o Gymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach yw'r rhai cywir i'n cenedl er mewn cyd-destun newydd. Drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi cael ein harwain gan y weledigaeth honno ac, er gwaethaf heriau'r pandemig, rydym ni wedi parhau i flaenoriaethu cyflawni'r camau gweithredu yn ein rhaglen lywodraethu a fydd yn cael yr effaith ymarferol fwyaf.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad: 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Mae'r adroddiad yn nodi meysydd allweddol lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau ar gyfer ailadeiladu er mwyn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol i Gymru.
Gan gydnabod ein bod yn dechrau ar gyfnod heriol iawn i'r farchnad swyddi, sy'n debygol o fod yn arbennig o anodd i bobl ifanc, byddwn yn canolbwyntio ar gadw pobl mewn swyddi a chreu swyddi newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau diweithdra a rhoi'r cyfle gorau i bawb ddod o hyd i waith teilwng gyda rhagolygon hirdymor ac i allu cadw'r gwaith hwnnw, gan ychwanegu gwerth at raglen Kickstart Llywodraeth y DU. Byddwn yn gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr, ysgolion a cholegau i roi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau ac i feithrin rhai newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal ein pobl ifanc rhag bod ar eu colled yn addysgol neu'n economaidd oherwydd effeithiau'r coronafeirws a dirywiad economaidd nad oes unrhyw fai arnyn nhw amdano. Byddwn yn cefnogi ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol ac yn y coleg. Hefyd, byddwn yn sicrhau bod grwpiau arbennig o ddifreintiedig, gan gynnwys aelodau o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
Byddwn yn bwrw iddi i adeiladu mwy o dai cyngor a thai cymdeithasol fel bod mwy o dai o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, gan fuddsoddi yn enwedig mewn nifer sylweddol o dai carbon isel ac uwchraddio'r stoc dai, yn enwedig tai cymdeithasol, i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac i leihau tlodi tanwydd. Bydd hyn yn arwain at fanteision mewn tri maes: yn rhoi hwb economaidd; yn galluogi mwy o bobl i fyw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus; a chyfrannu at ddatgarboneiddio.
Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad yng nghanol ein trefi lleol er mwyn helpu i adeiladu cymunedau cryf ac i fanteisio ar sut y mae'r coronafeirws wedi ail-ganolbwyntio bywydau pobl ar y cymunedau lle maen nhw'n byw, gan gynnwys darparu gwell mynediad i fannau agored, creu canolfannau gweithio o bell, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch. Gan gydnabod ein bod yn parhau i fynd i'r afael â heriau mawr eraill, byddwn yn parhau i ymateb yn egnïol i'r argyfwng yn yr hinsawdd drwy ddilyn agenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau'r dyfodol, a diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.
Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy newid patrymau gweithio a theithio i adeiladu ar yr arbrofi a fu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n ymateb i'r galw a rhoi pwyslais clir yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd ar leihau'r angen i deithio, lledaenu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfartal drwy'r dydd, a galluogi teithio llesol fel buddsoddiad mewn iechyd cyhoeddus. Byddwn yn canolbwyntio ar yr economi beunyddiol neu sylfaenol ac yn cefnogi twf ac annibyniaeth busnesau sydd â phencadlys yng Nghymru er mwyn meithrin cadernid economi Cymru yn wyneb y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio'r UE. Byddwn yn cefnogi'r GIG i wneud iawn am yr oedi a fu o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws.
Ym mhob un o'r wyth blaenoriaeth hyn ac ym mhopeth a wnawn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng, gan gynnwys plant a phobl ifanc, menywod, y rhai mewn gwaith ansicr ac sy'n talu'n wael, pobl o gefndir du a lleiafrifol ethnig a phobl anabl. Mae'r pecyn hwn yn fodd o ailadeiladu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i lywio gan brofiadau pobl Cymru ac yn un a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach.