Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad cyn y sesiwn y prynhawn yma. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud ynglŷn â faint o ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn cynhyrchu'r ddogfen honno, ac rwy'n croesawu llawer iawn o'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi o ran pethau yr hoffai eu cyflawni wrth symud ymlaen. Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu bod pethau yr hoffwn i ofyn rhai cwestiynau i chi amdanynt.
Sylwaf eich bod yn cyfeirio at yr angen i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion yng Nghymru ar gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan argyfwng COVID-19. Rhestrwyd pob math o unigolion—plant, pobl ifanc, menywod, y rhai mewn gwaith ansicr ac ar gyflog gwael, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl—ond yr un grŵp na wnaethoch chi amdano oedd pobl hŷn, ac, wrth gwrs, gwyddom i gyd fod effaith y pandemig ar bobl hŷn, yn anffodus, wedi bod yn llawer mwy difrifol nag ar grwpiau eraill mewn cymdeithas. A wnewch chi ddweud wrthyf a oes rheswm pam nad oes fawr ddim sôn am bobl hŷn—dim sôn o gwbl yn eich datganiad ac ychydig iawn yn y ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi heddiw?
Rydych chi hefyd wedi dweud yr hoffech chi sicrhau y caiff swyddi pobl eu diogelu lle bo'n bosib, ac y gall pobl ifanc yn arbennig gael gwaith, a byddwn yn adleisio'r sylwadau hynny'n fawr iawn. Ond mae pryder cynyddol ledled Cymru bod rhai o'r cyfyngiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith yn anghymesur â maint y risg yng nghymunedau pobl. Ydych chi'n derbyn bod perygl y bydd mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn ddi-waith o ganlyniad i rai o fesurau Llywodraeth Cymru a'i bod hi'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i aelodau'r cyhoedd benderfynu a yw'r hyn a wnaed hyd yma yn gymesur, oherwydd diffyg data manwl fesul cymuned sydd ar gael ac wedi eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill.
A gaf i hefyd ofyn am fynediad at welliannau o ran ein stoc dai? Rwy'n amlwg yn deall pam y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar geisio gwella'r stoc tai cymdeithasol. Mae'n hawdd cymell landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda grantiau i ôl-osod cyfarpar yn yr eiddo hynny, ond mae'n amlwg bod angen i ni hefyd annog pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain i fynd ati i wella eu heiddo hefyd. Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ei chynllun grant cartrefi gwyrdd, sy'n hael iawn, ac mae llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i fanteisio ar hynny ar hyn o bryd, ond nid oes gennym ni gynllun cyfatebol yma yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt ar hynny ac a oes ffordd y gallwch chi hybu pobl i fuddsoddi yn eu cartrefi a'u heiddo eu hunain drwy eu cymell gyda chyfraniad o goffrau'r Llywodraeth yn y ffordd y mae'r grant cartrefi gwyrdd yn ei wneud yn Lloegr?
A gaf i hefyd godi pryderon gyda chi ynglŷn â faint y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi i wella canol trefi? Byddwch yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gronfa adfer ar ôl COVID gwerth £250 miliwn, sydd, yn amlwg, yn fuddsoddiad llawer mwy na'r arian sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canol trefi hyd yma. A allwch chi roi syniad inni o faint y buddsoddiad yng nghanol trefi yn y dyfodol o ganlyniad i'ch cynllun?
Ac yn olaf—o, mae gennyf i ychydig mwy o amser nag yr oeddwn yn ei feddwl. Os caf i hefyd, felly, sôn am drafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf eich bod yn annog pobl i newid eu patrymau gwaith. Bydd hynny'n amlwg yn lleihau'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'r rheswm pam yr ydych chi wedi dewis targed o 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref y tu hwnt i mi; nid wyf yn hollol siŵr pam yr ydych chi wedi penderfynu tynnu'r ffigur hwnnw o'r awyr neu ble mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny. Ond dyna'r targed yr ydych chi wedi'i osod. Yn amlwg, os bydd mwy o bobl yn gweithio gartref, bydd llai o alw am drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd yn gwneud llawer o lwybrau'n llai hyfyw. Nawr, rydych chi wedi sôn am geisio lledaenu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus drwy'r dydd. Gallaf ddeall hynny ar y llwybrau prysur hynny lle mae gennym ni rywfaint o orlenwi, yn enwedig ar ein gwasanaethau trên, ond beth fydd hyn yn ei olygu o ran llwybrau bysiau? Rwy'n bryderus iawn, oherwydd mae pobl hŷn, yn amlwg, yn defnyddio gwasanaethau bysiau lawer iawn mwy na phobl eraill, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru lle nad oes ganddyn nhw gludiant arall ac efallai nad oes ganddyn nhw gar. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud i nodi'r llwybrau hollbwysig hynny y mae pobl hŷn yn arbennig yn dibynnu arnynt yn y mathau hynny o gymunedau?
Fe wnaethoch chi sôn hefyd bod angen i'r gwasanaeth iechyd gwladol wneud iawn am y gohirio a fu ar drin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws, ac eto nid wyf wedi gweld un ateb yn y ddogfen o ran sut yr ydych yn mynd i ymdrin â'r ôl-groniad o apwyntiadau. Unwaith eto, pobl hŷn yn fwy na neb arall—