4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:03, 6 Hydref 2020

Diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau hynny sy'n cyffwrdd ar y ddogfen yn gyfan gwbl. Jest ar y pwynt y gwnaeth hi gloi arno fe, mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r siwrnai dros y cyfnod nesaf, ond bydd datganiad wrth y Gweinidog cyllid nesaf ynglŷn â'r cyllid, ac wedyn bydd Gweinidogion yn gwneud datganiadau pwrpasol ynglŷn â phethau maes o law. Felly, bydd cyfle eto i ddatganiadau ac ati yn y meysydd hynny. 

O ran yr hyn rŷn ni wedi ei ddysgu'n gyffredinol, wrth gwrs mae amryw o'r sialensiau yma yn sialensiau cyfarwydd. Yr hyn sydd wedi digwydd, rwy'n credu, yw bod brwdfrydedd ehangach a dealltwriaeth ddyfnach ymhlith y cyhoedd, efallai, ar lefel y sialensiau a'r parodrwydd, felly, i fynd i'r afael â nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn newid eu cyd-destun nhw o'n safbwynt ni i gyd, am wn i. Fuaswn i yn dweud bod yr ymateb rŷn ni wedi ei gael i'r ymgynghoriad gan y cyhoedd a'r mudiadau ac ati wedi adlewyrchu—ar lefel fras, hynny yw—yr egwyddorion a'r blaenoriaethau efallai oedd gyda ni fel Llywodraeth cyn hynny. Rŷn ni wedi parhau trwy gyfnod y pandemig i allu blaenoriaethu yr elfennau hynny o'r rhaglen lywodraethu sydd yn cael yr impact fwyaf ar bobl yn y meysydd hyn, felly mae hyn yn adeiladu efallai ar hynny, gydag amryw o syniadau newydd, ond hefyd yn pwysleisio rhai o'r pethau yna rŷn ni wedi gallu eu gwneud.

O ran y pethau y gwnaeth hi sôn amdanyn nhw yn benodol, yn sicr mae angen cynnig gobaith i bobl ifanc ac i gydnabod bod plant a phobl ifanc wedi cario rhan sylweddol o'r baich yn y cyfnod diwethaf. Felly, mi wnaeth hi sylwi ar y buddsoddiad yn yr ysgolion a'r buddsoddiad mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac mae hynny'n cynnwys—. Mi wnaeth hi sôn am iechyd meddwl. Mae hynny'n cynnwys cronfa i gefnogi pobl yn ein prifysgolion ni sy'n mynd trwy broblemau gydag iechyd meddwl ac ati i ddelio gyda'r sefyllfa sydd ohoni. 

Mi wnaeth yr Aelod ofyn amryw o gwestiynau ynglŷn â lefel y gefnogaeth ac ati, a'r bwriad ar gyfer cefnogi pobl yn eu swyddi. Mae'r ffigwr o £2.4 biliwn yn lefel o'r buddsoddiad sydd wedi bod, hyd yn hyn, o ran cefnogaeth i gwmnïau ac ati. Rŷn ni'n credu bod y gefnogaeth wedi arbed rhyw 100,000 o swyddi, mwy neu lai, yn y cyfnod diwethaf, ond mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio'r angen ar gyfer hyfforddi, ar gyfer swyddi cynaliadwy yn yr hirdymor, a hefyd i sicrhau bod dilyniant a chynnydd yn gallu digwydd i bobl yn eu swyddi dros y cyfnod hynny. Felly, mae hynny yn rhan o'r flaenoriaeth yn yr hyn sydd yn y ddogfen. 

O ran iechyd meddwl yn ehangach, mae amryw o bethau sy'n cael eu crybwyll yn y ddogfen, hynny yw cefnogaeth i'r trydydd sector ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl—mae'r trydydd sector wedi bod o dan bwysau penodol yn y cyd-destun hwnnw—a hefyd ymyriadau yn yr ysgol, mewn addysg uwch a hefyd trwy'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i gefnogi pobl efallai sydd ddim wastad â phroblemau dirfawr meddyliol yn y cyd-destun hwn, ond mae'n sicr bod angen rhyw elfen o gefnogaeth ar bobl. 

O ran y cwestiynau ar y sector llawrydd, dwi'n cytuno'n llwyr gyda hi pa mor gwbl annerbyniol oedd sylwadau'r Canghellor yn San Steffan, a bydd hi'n sicr wedi talu sylw i'r datganiad ddoe fod y cynllun i gefnogi gweithwyr llawrydd wedi agor, a bod ail gyfnod i hynny ar y gweill hefyd. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y sector yn gwrando'n astud ar y drafodaeth, ac yn gwybod pa mor bwysig yw'r issue hyn iddo fe fel blaenoriaeth hefyd.