Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 6 Hydref 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am ddarparu copi o'r adroddiad ymlaen llaw. Dwi'n ddiolchgar hefyd iddo am gytuno i ryddhau popeth yn gyhoeddus.
Mae'r adroddiad yn un swmpus, sy'n cynnwys nifer o ymrwymiadau gwario y bydd angen i'n plaid ni eu dadansoddi yn ofalus, ond o ran y blaenoriaethau mae'r Llywodraeth wedi'u gosod, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn eu harddel, a dwi'n croesawu nifer fawr iawn o'r argymhellion. Yn wir, mae nifer o'r camau yma yn rhai rydym eisoes wedi galw amdanynt, er enghraifft yr angen i wneud popeth er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn ddioddef sgil-effeithiau hirdymor o ran eu haddysg, eu hiechyd a'u sefyllfa economaidd oherwydd sefyllfa lle nad oes bai arnyn nhw o gwbl. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bobl o bob oedran mewn ffyrdd creulon, ond mae'n bwysig nad yw pobl ifanc yn colli allan ar ran hynod bwysig o'u datblygiad cymdeithasol oherwydd y cyfyngiadau sy'n eu hatal rhag gallu cymdeithasu â chyfoedion a datblygu yn addysgiadol.
Mae'r adroddiad yn nodi'r angen hefyd i sicrhau bod pobl ifanc sydd eisoes dan anfantais oherwydd annhegwch strwythurol yn cael cymorth ychwanegol. A fyddai'r Gweinidog yn gallu rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y gefnogaeth yna yn cael ei rhoi, a sut byddwch yn sicrhau ei bod yn cyrraedd y bobl iawn, os gwelwch yn dda? Hefyd, allai e ddweud sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynnig gobaith am y dyfodol i bobl ifanc a myfyrwyr, yn sgil y ffaith eu bod nhw wedi colli allan ar y profiadau yna roeddwn i'n eu gosod mas? Mae'r adroddiad yn nodi'r angen i geisio lleihau diswyddiadau gymaint â phosib, yn ogystal â chreu swyddi newydd. Wrth gwrs, mae'n amhosibl gwybod ar hyn o bryd beth fydd maint y broblem, ond mae'n hanfodol bod rhaglenni a chynlluniau yn cael eu sefydlu cyn gynted â phosib, a dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny.
Rwy'n deall y rhesymeg o geisio ychwanegu at fenter Kickstart Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond a all y Gweinidog gadarnhau ei fod yn bwriadu gwneud hyn mewn modd sy'n mynd i'r afael â gwendidau'r fenter honno? Er enghraifft, a fydd yn rhoi pwyslais ar ddarparu cyfleoedd hyfforddi, cefnogi busnesau bach a cheisio darparu gyrfa tymor hir i weithwyr, yn hytrach na dim ond ateb tymor byr fydd ddim yn arwain at ddatblygiad gyrfaol? A all y Gweinidog hefyd roi esboniad am y ffigurau sydd yn yr adroddiad yn hyn o beth? Mae'n nodi y bydd £2.4 biliwn i'r gronfa cadernid economaidd, ond dim ond £40 miliwn ar gyfer darparu swyddi. A all e gadarnhau faint o'r gronfa yna fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw pobl mewn gwaith a hefyd sut bydd gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi, os gwelwch yn dda?
Un peth oedd ar goll yn natganiad y Gweinidog, ond rwy'n cydnabod ei fod yn cael ystyriaeth yn yr adroddiad, yw'r angen dirfawr i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd meddwl sydd yn siŵr o ddatblygu a gwaethygu fel y mae amser yn mynd yn ei flaen. Mae'r adroddiad yn sôn am raglen fawr o gymorth iechyd meddwl i blant, ac rwy'n croesawu hynny, ond a all y Gweinidog roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â sut bydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn, o ystyried y methiannau enbyd o fewn y system gymorth iechyd meddwl oedd yn bodoli cyn y pandemig ei hunan? Sut fyddwch chi'n cynyddu'r ddarpariaeth sydd ar gael i'r lefel angenrheidiol mor gyflym?
Mater arall sydd angen ei flaenoriaethu ydy cymorth i'r celfyddydau. Roedd sylwadau'r Canghellor heddiw yn dweud wrth artistiaid i ganfod swyddi eraill yn warthus, a gyda chymhelliant gwleidyddol, yn fy marn i. Rwy'n croesawu, felly, y gronfa o £53 miliwn i gefnogi'r sector, a byddai'n ddefnyddiol clywed asesiad y Gweinidog ynghylch sut y bydd yn sicrhau bod yr arian yma yn cyrraedd y bobl a'r sefydliadau sydd ei angen mewn da bryd. Mae'r un peth yn wir am gefnogaeth i brifysgolion, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau parhaus â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol, oherwydd mae ein prifysgolion yn hanfodol bwysig o ran lles deallusol ein cenedl.
Nawr, mae nifer o rannau eraill o'r adroddiad yr hoffwn i siarad amdanyn nhw mewn manylder, er enghraifft y cynlluniau i adeiladu tai, sefydlu hubs cymdeithasol i bobl weithio ynddynt, rheoli tir er budd cymunedol, trafnidiaeth gyhoeddus—rhai o'r pethau mae'r Gweinidog wedi ymateb yn eu cylch yn barod—a newid hinsawdd, ond does dim modd siarad mewn manylder am bopeth. Hoffwn argymell, felly, i'r Gweinidog ystyried perswadio ei gyd-aelodau Cabinet i roi datganiad ynghylch y cynlluniau ôl-COVID yma yn eu meysydd unigol, er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar y cynlluniau eang yma mewn modd priodol.
Ac i gloi, mi wnaf i holi un cwestiwn arall: sut mae'r broses o wneud y gwaith yma wedi newid meddwl y Gweinidog ynghylch beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud? Ac a oes gwersi pwysig wedi eu dysgu ynghylch yr angen i greu cymdeithas ac economi ar seiliau mwy gwydn ar gyfer y dyfodol? Diolch yn fawr.