Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Fe'm calonogwyd pan welais y teitl, 'Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19'. Rwyf wedi bod yn pwyso arni am rywbeth tebyg i hynny ers cryn amser. Rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig yn y cynnwys. Roeddwn wedi gobeithio y gallem roi amcangyfrifon neu ddiweddariadau am yr effaith, er enghraifft, ar dreth trafodion tir yn sgil y cyfyngiadau ar y farchnad dai a oedd yn llymach ac am gyfnod hwy yng Nghymru nag yn Lloegr, ond ni chafwyd dim o'r fath.
Tybed hefyd: a oes perygl bod Llywodraeth Cymru yn arfer pŵer heb gyfrifoldeb? A yw'r fframwaith cyllidol yn golygu y gall, fel y broliodd y Prif Weinidog yn gynharach, osod cyfyngiadau'n gynharach ac yn llymach ac yn hwy am a wn i nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar gyfer Lloegr, ar y sail bod yn rhaid i Lywodraeth y DU dalu wedyn am effaith economaidd hynny yng Nghymru? Ai dyna'r strategaeth? I ba raddau y byddwn yn teimlo unrhyw effeithiau drwy gyfraddau treth incwm Cymru, o gofio'r compact cyllidol a sut y mae hynny wedi'i negodi i liniaru newidiadau i hynny, o leiaf yn y tymor agos?
Credaf hefyd ei bod hi'n beryglus troi eto at ddweud mai dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r cymhellion macro. Dywedodd y Gweinidog hynny, ond cytunodd llefarydd y Ceidwadwyr hefyd, ac yna ymffrostiodd ynghylch datganoli pwerau codi trethi, ar ôl addo'n gyntaf i beidio â gwneud hynny heb refferendwm, na chafodd ei grybwyll. Ond dywedir wrthym nad yw Llywodraeth Cymru eisiau defnyddio'r pwerau hynny. A ydych yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddefnyddio'r pwerau hynny? Os felly, a fyddech yn credu y dylent godi trethi neu dorri trethi yn sgil yr hyn sy'n digwydd?
Gwnaethom fenthyg, fel gwlad—y Deyrnas Unedig—£36 biliwn ym mis Awst 2020. Rhoddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolygon—roedd hyn yn ôl ym mis Gorffennaf; gallai fod yn fwy nawr, wn i ddim—ond dywedasant eleni y byddem yn benthyca tua £322 biliwn. Dyna ddwywaith yr hyn a fenthycodd Gordon Brown ar waethaf y dirwasgiad diwethaf yn 2009-10. A yw hynny'n gynaliadwy? Rydych chi'n dweud bod gan Lywodraeth y DU y cymhellion, ond mewn gwirionedd benthyca'r arian yn unig y mae hi. Ar hyn o bryd, mae'n llwyddo i gael y Swyddfa Rheoli Dyledion i werthu'r giltiau hynny, ond yn bennaf ar y ddealltwriaeth y bydd Banc Lloegr yn argraffu swm tebyg o arian i'w prynu'n ôl gan fuddsoddwyr. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn sefydlog ac yn gallu cynhyrchu'r goeden arian hud honno, fel petai, ond a fydd hynny'n parhau? Ac os bydd sefydlogrwydd chwyddiant yn dod i ben, beth sy'n mynd i ddigwydd? A ydych chi eisiau gweld Banc Lloegr annibynnol yn codi cyfraddau llog, neu'n rhoi'r gorau i argraffu'r arian hwnnw er mwyn atal chwyddiant rhag codi, neu a ydych chi eisiau gweld Llywodraeth y DU yn eu gorfodi—a chredaf y byddai angen Senedd y DU, nid Llywodraeth y DU yn unig i wneud hynny—i roi'r gorau i'r targed chwyddiant hwnnw neu o leiaf ei atal dros dro? Mae'r rhain yn gwestiynau gwirioneddol ddifrifol, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n ddigon da dweud, 'A wel, mae gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro' ac i ni beidio â'u hystyried.
Un neu ddau o gwestiynau cyflym penodol iawn, os caf i. Fe wnaethoch chi sôn am swm canlyniadol o £4 biliwn o gymharu â £0.5 biliwn ar gyfer addasu at ddibenion gwahanol. Ai dyna'r cydbwysedd cywir a'r maint cywir yn llai na'r hyn yr ydym yn ei wneud yma, o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU? Ac fe sonioch chi am £320 miliwn ychwanegol, ond nid ydych chi wedyn yn rhoi manylion unrhyw raniad o ran pa un a yw hynny drwy addasu at ddibenion gwahanol neu'n gyllid ganlyniadol, neu'n gyfuniad ac, os felly, beth ydyw. Fe sonioch chi am £15 miliwn ar gyfer dysgu digidol. Mae hwnnw'n swm cymharol fach o ystyried maint addysg a'r hyn sydd wedi digwydd. Fe sonioch chi am £60 miliwn yn fwy ar gyfer adeiladu, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni. Credaf mai effeithlonrwydd ynni yw un o'r ffyrdd gorau o gyfyngu allyriadau carbon o ran yr effaith a gewch am y swm o arian a wariwch, ond aethoch ymlaen wedyn i ddweud eich bod yn gwario £14 miliwn ar ddatgarboneiddio. A yw hynny'n ychwanegol at yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am effeithlonrwydd ynni ac ar wahân iddo, ac oni ddylid rhoi sylw manylach i'r ddau beth yna yn eu holl agweddau?