Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i chi am hynny. Fe wnaethom ni ddechrau ystyried Bil Pysgodfeydd y DU mor bell yn ôl â mis Rhagfyr 2018, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod fersiwn gyntaf Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU wedi methu oherwydd diddymu Senedd y DU ddiwedd y llynedd, a hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru osod dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwnnw, yr adroddwyd arno ym mis Chwefror 2019. Cafodd Bil Pysgodfeydd newydd ei gyflwyno gan Lywodraeth bresennol y DU ym mis Ionawr eleni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod pedwar cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rydym ni wedi adrodd ddwywaith, yn gyntaf ym mis Mai, ac wedyn bythefnos yn ôl. Cafodd Memorandwm Rhif 3 ei osod ond ychydig ddyddiau cyn ein dyddiad cau ar gyfer adrodd, a dim ond ddydd Iau diwethaf y cyrhaeddodd y pedwerydd memorandwm.
Felly, yn ein Pwyllgor ddoe buom yn trafod memorandwm Rhif 4, ynghyd â llythyr gan y Gweinidog a gafodd ei anfon atom ar 1 Hydref, ac, o ganlyniad, ysgrifennwyd at y Gweinidog ddoe yn gofyn am eglurhad pellach ar ei llythyr a'i memorandwm Rhif 4. Mae'r ohebiaeth hon wedi'i chyhoeddi, ac rwy'n ddiolchgar am ateb y Gweinidog. Mae'n bwysig nodi nad yw memorandwm Rhif 4 yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwelliannau pellach i'r Bil. Nawr, caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud ar ôl i'r Senedd hon bleidleisio ar y cynnig heddiw. Mae llythyr y Gweinidog yn rhoi rhai manylion am y gwelliannau hyn, a gallwch weld y llythyr hwnnw yn y papurau ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Nid ydym wedi cael amser i asesu effaith y gwelliannau hyn. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn rhoi gwybod i Aelodau'r Senedd am unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin yn dilyn y ddadl. Byddwn i'n awgrymu nad yw hyn yn foddhaol. Yn ein hadroddiad ym mis Chwefror 2019, amlygwyd ein pryder cynyddol ynghylch trosglwyddo pwerau o'r Senedd fel deddfwrfa i Lywodraeth Cymru fel y weithrediaeth. Mae'r pryder hwn yn cynyddu pan gaiff pwerau eu dirprwyo i Weinidogion Cymru drwy Fil y DU, nad yw Aelodau'r Senedd yn gallu dylanwadu arno'n uniongyrchol. I'r gwrthwyneb, byddai Aelodau'r Senedd, yn amlwg, yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad Bil Cymru.
Nawr, yn wreiddiol, dywedodd y Gweinidog wrthym mai ei bwriad oedd cyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru yn nhymor y Senedd hon. Gyda'r bwriad hwnnw wedi'i nodi, nid yw'n glir pam nad yw'r Gweinidog wedi ceisio cynnwys cymal machlud yn y Bil. Rhesymeg y Gweinidog oedd nad oedd gan Lywodraeth Cymru bysgodfeydd eto wedi'u cynnwys yn ei rhaglen ddeddfwriaethol. Codwyd y mater hwn gennym eto yn ein dau adroddiad ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil presennol. Yn ein hadroddiad a gafodd ei osod bythefnos yn ôl, cyflwynwyd cynnig wedi'i wella i'r Gweinidog. Nawr, er nad yw'n ddelfrydol, nid ydym yn gweld bod unrhyw reswm pam na fyddai modd cynnwys darpariaeth machlud ym Mil y DU, yn nodi dyddiad 2024, ynghyd â phŵer Harri VIII i Weinidogion Cymru a fyddai'n caniatáu ymestyn y dyddiad machlud o ddwy flynedd. Dylai pŵer gwneud rheoliadau o'r fath fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd ac, yn anffodus, cafodd y cynnig hwn ei wrthod.
Hoffwn i symud ymlaen nawr a thynnu sylw at fater arwyddocaol arall. Mae'n ffaith annymunol, gyda phob cynnig cydsyniad deddfwriaethol a ystyriwyd ar gyfer Biliau sy'n ymwneud â Brexit, mae anghydfodau amlwg wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fater sydd wedi'i ddatganoli. I ddechrau, roedd y pŵer yn y Bil i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn y DU yn llinell goch i'r Gweinidog, oherwydd ymyrrodd y pŵer â mater datganoledig. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn ceisio datrys y mater hwn drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac mae hynny wedi peri cryn bryder i ni, yn bennaf oherwydd nad yw cytundebau o'r fath yn rhwymo'r naill barti na'r llall. Nododd y Gweinidog fod datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn hanfodol i unrhyw argymhelliad y gall hi ei roi i gydsyniad y Senedd gael ei roi i'r Bil. Nawr, yr wythnos diwethaf, rhannodd y Gweinidog ei llythyr at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol â ni, lle nododd y Gweinidog ei hoff delerau o ran cytundeb ar ddefnyddio'r pwerau i bennu cyfleoedd pysgota. Mae'r cytundeb hwn yn lle'r ffaith bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dal i gael ei ddatblygu.
Nawr, fel y soniais i'n gynharach, nid oes amser wedi bod i ddadansoddi'n llawn yr ohebiaeth sydd wedi'i rhannu â ni. Fodd bynnag, nid yw'n glir inni ar unwaith fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, na statws unrhyw ymrwymiad, i delerau'r cytundeb fel y'i cynigiwyd gan y Gweinidog. Hyd yn oed gyda'r cyfnewid gohebiaeth hwn, mae'r ffaith na fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn barod cyn cwblhau taith y Bil drwy Senedd y DU yn annerbyniol. Mae'r Senedd dan anfantais ddifrifol oherwydd nad oes ganddi fanylion y memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n ymwneud ag arfer pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota.
Gan symud ymlaen, mae'r Bil yn rhoi pwerau rheoliadol a gweithredol helaeth i Weinidogion Cymru. Yn ein hadroddiad a osodwyd ym mis Mai eleni, dywedasom ei bod yn rhwystredig nad yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn nodi'n ddigonol y pwerau gwneud rheoliadau sy'n cael eu cymryd nac yn ceisio cyfiawnhau pam y maen nhw'n cael eu cymryd. Roeddem hefyd yn siomedig mai gwybodaeth gyfyngedig y mae'r Gweinidog wedi'i darparu o ran y rhesymeg a'r broses o Weinidogion Cymru yn rhoi caniatâd i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig.
Nawr, cyn cloi, rydym ni'n cydnabod bod y Bil yn ymestyn cymhwysedd y Senedd o ran pysgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod i barth Cymru gyfan. Er ein bod ni'n croesawu'r estyniad cymhwysedd hwn, gallai hefyd fod wedi'i gyflawni drwy Orchymyn adran 109, a fyddai wedi bod yn destun craffu a chymeradwyaeth gan y Senedd. Nawr, fel sy'n dod yn amlwg ar Filiau'r DU yn gysylltiedig â Brexit, mae cyfyngiadau ar y broses cydsyniad deddfwriaethol, yn bennaf oherwydd bod y Senedd wedi'i hatal rhag craffu'n llawn ar gyfraith arfaethedig a fydd yn berthnasol yn y pen draw yng Nghymru ac yn benodol oherwydd yr angen i weithredu'n unol ag amserlennu yn Senedd y DU. Ceir llawer o enghreifftiau lle gallai Senedd y DU yn deddfu dros Gymru ar fater datganoledig fod yn bragmatig ac yn rhesymol. Fodd bynnag, ym marn y Pwyllgor, mae'n drueni na chafodd newid sylweddol i'r gyfraith yng Nghymru ar gyfer y sector pysgodfeydd ei wneud yng Nghymru. Diolch.