Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 6 Hydref 2020.
Fel cenedl sydd â thraddodiad morwrol balch, nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd y Bil Pysgodfeydd hwn. Mae ein perthynas â'r môr nid yn unig wedi helpu i lunio hanes ein cenedl ond ein diwylliant hefyd. Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cydnabod bod angen dull gweithredu ledled y DU i greu'r fframwaith pysgodfeydd, y mae ond modd ei wneud drwy Fil y DU. Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i weithredu'n bendant nes inni gyrraedd adeg pan fydd modd dod â Mesur pysgodfeydd cynhwysfawr i Gymru gerbron Senedd Cymru i graffu'n llawn ac yn briodol arno.
Mae'r Bil yn cyflwyno llawer o bethau cadarnhaol a sylweddol i Gymru, gan ailddiffinio cyfrifoldebau yn ymwneud â physgodfeydd neu Lywodraeth Cymru a'i his-adran forol a physgodfeydd, gan gynnwys datblygu rheoliadau newydd, cynlluniau rheoli pysgodfeydd newydd, trefniadau rhynglywodraethol newydd, gan gynnwys y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, memorandwm cyd-ddealltwriaeth a threfniadau datrys anghydfodau, a mwy o gyfrifoldeb o ran rheoleiddio a gorfodi pysgodfeydd ym mharth Cymru. Mae'n cydnabod natur dechnegol a byd-eang y farchnad bysgota. Mae cymalau 12 a 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfle i fanteisio ar bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota o Brydain a thramor. Mae Atodlen 2 hefyd yn cynnwys gwelliannau i sicrhau y bydd unrhyw longau tramor sy'n mynd i mewn i'n dyfroedd yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau â chychod pysgota Prydeinig. Yn y cyfamser, mae cymalau 19 i 22 ac Atodlen 4 yn darparu ar gyfer troseddau mynediad a thrwyddedu. Fodd bynnag, dim ond drwy is-adran forol a physgodfeydd wedi'i hariannu yn llawn y mae modd gorfodi'r cymalau hyn.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi tynnu sylw o'r blaen at bryderon ynghylch gallu staff cyfreithiol a pholisi pysgodfeydd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r llwyth gwaith cynyddol sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth newydd hon. Gweinidog, mewn llythyr a anfonwyd gennych at y Pwyllgor ar 30 Mehefin, fe ddywedasoch:
'lle y gall costau ychwanegol godi' mewn cysylltiad â'r is-adran forol a physgodfeydd,
'byddan nhw'n dod o gyllidebau rhaglenni presennol.'
Gyda phryder hefyd mai dim ond hanner y staff sy'n gweithio i'r tîm hwn ar hyn o bryd, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i egluro pa asesiad sydd wedi'i wneud i ganfod beth allai cyfanswm costau ychwanegol fod ac i ddweud yn bendant a all cyllidebau presennol dalu'r gost hon.
Mae cymal 23 yn galluogi Ysgrifennydd Gwladol y DU i bennu uchafswm y pysgod môr y gall cychod pysgota Prydeinig eu dal a'r nifer mwyaf o ddyddiau y gall cychod pysgota Prydeinig eu treulio ar y môr. O dan gymal 24, cyn i benderfyniad o'r fath gael ei wneud neu ei dynnu'n ôl, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn hyn o beth sydd, ar adeg y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, yn parhau i aros. Nawr, rwy'n rhannu hyder y Gweinidog yn yr ymrwymiadau y mae Llywodraeth Prydain wedi'u gwneud hyd yma y bydd unrhyw Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cyflawni'r paramedrau a osodwyd rhwng y ddwy ochr.
Mae cymal 1 yn nodi amcanion pysgodfeydd y DU, a fydd yn berthnasol ledled y DU, ochr yn ochr ag amcan cynaliadwyedd wedi'i ailddrafftio. Mae'r Bil erbyn hyn yn cyflwyno amcan newydd o ran newid hinsawdd. Mae'r newidiadau hyn yn sylweddoli bod y Bil hwn yn cynnig cyfle digynsail i'r DU a Chymru ddangos uchelgais ac arweiniad amgylcheddol hyfyw i bolisi morol cynaliadwy, ond mae cynaliadwyedd hefyd yn golygu cefnogi swyddi arfordirol a'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod pysgodfeydd Cymru yn hyfyw yn economaidd ac yn gadarn i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n croesawu cyflwyno amcan newydd o dan gymal 1, wedi'i ddynodi'n 'fudd cenedlaethol'.
Mae gwybodaeth sy'n dyddio'n ôl i 1985 yn awgrymu mai diwydiant pysgota Cymru yw'r diwydiant cenedlaethol lleiaf yn y DU. Yn 2012, roedd tua 1,020 wedi'u cyflogi ym maes pysgota, 643 o weithwyr llawn amser rheolaidd a 347 o staff pysgota. Yn fwy cyffredinol, mae nifer y llongau pysgota yn fflyd y DU wedi gostwng 29 y cant ers 1996. Mae'r economegydd amgylcheddol Griffin Carpenter wedi nodi y bydd y pwerau cymorth ariannol sydd wedi'u cynnig o dan y cymal hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer amrywiaeth ehangach o ddibenion o'i gymharu â chronfa forol a physgodfeydd presennol Ewrop. Roedd hyn yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant, a awgrymodd Mr Carpenter y gallai helpu i gefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc ac yn ei dro o bosibl adfywio'r diwydiant pysgota yng Nghymru.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid rhoi caniatâd, oherwydd mae gwneud hynny'n gam cadarnhaol ymlaen tuag at ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy i ddiwydiant pysgota Cymru. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar bryderon y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ran ariannu a staffio'r is-adran forol a physgodfeydd, a'i bod yn ceisio cwblhau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyn gynted â phosibl. Diolch.