– Senedd Cymru am 6:34 pm ar 6 Hydref 2020.
Yr eitem nesaf yw eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw ac amlinellu pam y dylai dderbyn cefnogaeth gan Aelodau'r Senedd. Rydym ni i gyd yn cofio, fel y dylem ni ei wneud, y tân a'r marwolaethau trychinebus yn Nhŵr Grenfell dros dair blynedd yn ôl. Rydym ni'n gwybod o'r ymchwiliad cyhoeddus mai diffygion yn y ffenestri allanol a'r cladin ar y tŵr oedd y prif resymau dros ledaeniad cyflym y tân a'r marwolaethau o ganlyniad. Fe wnaeth strwythurau mewnol fel drysau tân fethu ag atal lledaeniad y tân hefyd.
Mae'n wrthun nad yw cyfraith diogelwch tân fel y mae ar hyn o bryd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Lluniwyd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ar gyfer gweithleoedd, nid blociau o fflatiau. Mae'r ffordd y mae wedi ei ddrafftio yn golygu nad yw'n berthnasol i waliau allanol ar gyfer blociau o'r fath o gwbl; nid yw hyd yn oed yn ymdrin yn glir â drysau tân mewnol sy'n gwahanu fflatiau unigol ac ardaloedd cyffredin. Mae hynny'n golygu nad oedd dyletswydd ar landlordiaid na phersonau cyfrifol eraill i gynnal y nodweddion hyn er mwyn lleihau'r risg o dân. Mae hefyd yn golygu nad oes gan y gwasanaethau tân ac achub unrhyw bwerau i'w harchwilio na gorfodi cydymffurfiaeth. Bydd y Bil Diogelwch Tân byr hwn yn cywiro'r diffygion sylweddol hyn. Bydd yn darparu bod y Gorchymyn yn cwmpasu bloc cyfan, ac eithrio y tu mewn i fflatiau unigol yn unig. Mae'r rhain yn newidiadau pwysig a dylen nhw fod yn annadleuol.
Am resymau hanesyddol, dim ond drwy ddeddfwriaeth sylfaenol y gellir diwygio'r Gorchymyn. Er fy mod i'n glir y byddai deddfwriaeth o'r fath o fewn cymhwysedd y Senedd, nid oes lle yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer Bil o'r fath yn y fan yma cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf. Felly, o ystyried difrifoldeb y materion y mae'n mynd i'r afael â nhw, mae'n ymarferol ac yn briodol i'r Bil gwmpasu Cymru hefyd. Mae'r Bil yn berthnasol i safleoedd yng Nghymru a Lloegr yn union fel ei gilydd ac yn rhoi pwerau unfath i Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol.
Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y Bil a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n cytuno â'r hyn yr oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Yn benodol, rwyf i'n derbyn yn llwyr fod llawer mwy i'w wneud i ddysgu a chymhwyso gwersi Tŵr Grenfell. Nododd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ein bwriadau mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Mehefin a byddwn yn mynd ar drywydd hynny gyda Phapur Gwyn cynhwysfawr yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Ond mae'r Bil sydd ger ein bron heddiw yn gam cyntaf pwysig ac rwy'n annog y Senedd i gytuno â'i berthnasedd i Gymru.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.
Diolch yn fawr. Rwy'n fodlon iawn â dull y Llywodraeth o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Roeddem ni'n gallu gweld bod rhywfaint o bosibilrwydd o ddryswch, ond fe wnaethom ni nodi yr hyn yr oedd gan y pwyllgor deddfwriaeth i'w ddweud ac roeddem yn eithaf bodlon cefnogi hynny.
Mae'n amlwg yn fesur eithriadol o bwysig, ac fel pwyllgor, rydym ni wedi ymddiddori'n fawr iawn yn nhrasiedi tân Tŵr Grenfell, ac fe wnaethom ni rywfaint o waith ar hynny, gan ddilyn hynny â rhagor o waith. Rydym ni wedi ceisio cadw llygad barcud ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud hefyd. Roeddem ni o'r farn, ar brydiau, bod diffyg eglurder, ond mae'n ymddangos bod llawer o'r problemau wedi eu goresgyn ac, fel y dywedais i, rydym ni'n fodlon fel pwyllgor â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â hyn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o ran y Bil Diogelwch Tân yn ein cyfarfod ar 8 Mehefin ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad gerbron y Senedd ar 17 Mehefin. Roedd ein hadroddiad yn cydnabod bod y Bil yn un rhan o'r ymateb i wella diogelwch adeiladau yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017. Fe wnaethom ni nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad y Senedd arnyn nhw. Fe wnaethom ni nodi hefyd y rhesymau pam, ym marn Llywodraeth Cymru, y mae gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil yn briodol.
Yn olaf, nododd ein hadroddiad fod cymal 2 o'r Bil yn rhoi pwerau i'r awdurdod perthnasol, sef Gweinidogion Cymru yng Nghymru, i wneud rheoliadau i ddiwygio'r Gorchymyn diogelwch tân er mwyn newid neu egluro'r eiddo y mae'n berthnasol iddo. Rydym ni'n croesawu'r defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y pŵer hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r Bil Diogelwch Tân, ac felly, hoffwn i gofnodi fy siom mai dim ond 15 munud sydd wedi ei ddyrannu i'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ar yr agenda heddiw. Mae mater mor bwysig â diogelwch tân yn haeddu mwy o amser a thrafod yn y Senedd hon mewn gwirionedd—mesur a fyddai yn sicr wedi adlewyrchu diddordeb brwd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn dilyn y tân erchyll yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017.
Nawr, ym mis Mai 2018, nodwyd 143 o adeiladau preswyl uchel iawn o 18m neu fwy yng Nghymru: 38 yn y sector cymdeithasol, 105 yn y sector preifat. Ni allaf i ddim ond dechrau dychmygu'r ofn y mae trigolion wedi bod yn byw gydag ef ers trychineb Grenfell, ac felly, nid wyf i'n gwybod pam na wnaeth y Llywodraeth hon flaenoriaethu unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer diogelwch tân. Yn ei adroddiad ar adeiladau yn y sector preifat, fe wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân yn nhymor seneddol presennol Cymru ac i'r ddeddfwriaeth honno gynnwys:
'Safonau ar gyfer pobl sy’n cynnal asesiadau risgiau tân;
'Gofyniad i gynnal asesiadau risgiau tân yn flynyddol man lleiaf ar gyfer adeiladau preswyl uchel iawn;
'Eglurhad bod drysau tân sy’n ddrysau ffrynt fflatiau yn cael eu hystyried yn rhan o’r ardaloedd cymunol ac felly’n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth sy’n disodli Gorchymyn Diogelwch Tân 2005.'
Rwy'n cytuno â'r pwyllgor hwn fod y mater mor sylfaenol bwysig y dylai fod wedi cael y flaenoriaeth uchaf. A byddaf i'n rhoi ar gofnod unwaith eto fy marn bod Llywodraeth Cymru wedi methu drwy beidio â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Nid wyf i'n cytuno o gwbl â'r awgrym nad oes lle, neu nad oedd lle, yn rhaglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth Cymru.
Serch hynny, fel y mae'r pwyllgor wedi ei nodi, mae yn ddull synhwyrol i ddefnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU i wneud y newidiadau angenrheidiol na fydden nhw'n digwydd fel arall tan etholiad nesaf y Senedd. Ond un cwestiwn sylfaenol iawn i chi sydd gen i yw: pam nad yw'r gwaith hwn ar ddiogelwch tân wedi cael blaenoriaeth? Mae ateb i'r cwestiwn hwnnw yn arbennig o bwysig pan fo angen pendant, yn ôl 'Map tuag at adeiladau mwy diogel yng Nghymru', am ddeddfwriaeth newydd sylweddol i gyflawni system reoleiddio newydd a chyflwyno llawer o newidiadau. Mae'r map yn cynnwys argymhellion clir, fel, o ran systemau chwistrellu, larymau tân, synwyryddion mwg, cynllunio, asesiadau risg a staffio. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am ble yr ydych o ran yr holl argymhellion neu o ran unrhyw rai o'r argymhellion sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
Mae cymalau 1 i 3 o'r Bil yn ymwneud â diogelwch tân adeiladau yng Nghymru. Mae cymal 1 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn diwygio rheoleiddio diogelwch tân 2005 i egluro ei fod yn berthnasol pan fo'r eiddo yn adeilad sy'n cynnwys dwy set neu fwy o eiddo domestig, i (a) strwythur a waliau allanol yr adeilad, sy'n cynnwys drysau, ffenestri ac unrhyw beth sydd wedi ei gysylltu i'r waliau allanol, fel cladin, defnydd inswleiddio, ffitiadau a balconïau, ac unrhyw rannau cyffredin; a (b) drysau rhwng eiddo domestig a rhannau cyffredin. Rwy'n croesawu'r gwelliannau a'r ffaith eu bod yn cadarnhau y caiff awdurdodau tân ac achub gymryd camau gorfodi yn erbyn personau cyfrifol os ydyn nhw wedi methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.
Dirprwy Weinidog, yn gynharach eleni, fe wnaethoch chi honni'n falch mai Cymru oedd â'r rhaglen fwyaf helaeth o ymweliadau diogelwch tân â'r cartref ym Mhrydain. Fe wnaethoch chi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn darparu £660,000 o gyllid i'r gwasanaeth i sicrhau bod yr ymweliadau hyn a'r dyfeisiau diogelwch, a gyflenwir yn rhan ohonyn nhw, am ddim i'n deiliaid tai. Nodir yn y cynnig y bydd awdurdodau tân ac achub Cymru yn ysgwyddo costau o ganlyniad i'r Bil hwn, a fydd yn cynnal archwiliadau ehangach o flociau fflatiau bellach, gan gynnwys archwilio nodweddion pob adeilad a nodir. Mae'n rhaid rhoi eglurhad brys erbyn hyn i'n hawdurdodau tân ynghylch sut y caiff y gwaith ychwanegol hwn ei ariannu.
I gloi, nid yw'r Bil hwn yn edrych fel dim mwy na phont ddeddfwriaethol dros dro—plastr i Gymru hyd nes y gellir cyflwyno deddfwriaeth fwy eang ac ystyriol yn y fan yma. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid, ond rydym ni yn dal wedi ein siomi ynghylch diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddeddfwriaeth frys ar ddechrau'r Senedd nesaf. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl hon heddiw. Rwy'n ddiolchgar am sylwadau John Griffiths, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, a Mick Antoniw, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, yn arbennig am y gefnogaeth a'r gwaith pwysig gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ddatblygu'r gwaith yr ydym yn ei wneud a hefyd y gwaith ar argymhellion y grŵp arbenigol. Rwyf i'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r pwyllgorau wrth i ni ddatblygu'r gwaith ar ein Papur Gwyn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Rwyf i'n nodi llawer o sylwadau Janet Finch-Saunders ac yn croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil pwysig hwn. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae hwn yn amlwg yn gam cyntaf, ac rwy'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud mewn maes a chyd-destun sy'n aml yn fawr, yn bellgyrhaeddol a chymhleth. Mae'n bwysig ein bod ni'n neilltuo'r amser i fynd i'r afael â phob mater yn briodol ac, yn bwysicach, ein bod ni'n cymryd y camau gweithredu cywir. Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu Bil diogelwch adeiladau a hefyd—byddwn ni yn gweithio gyda nhw pan fo hynny'n briodol.
Llywydd Dros Dro, yn gyflym, mae hwn yn ddarn bach ond pwysig o ddeddfwriaeth i wella diogelwch tân mewn blociau o fflatiau, ond, fel y dywedais i, mae gennym ni lawer mwy i'w wneud. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd ein cefnogi i gymryd y camau cynnar a phwysig hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.