Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 7 Hydref 2020.
Yn Iwerddon, mae deialog cyson, cadarnhaol rhwng y sector a'r Llywodraeth a gwerthfawrogiad llawn o bwysigrwydd y celfyddydau yn y cynlluniau adfer. Yn Seland Newydd, mae'r sector yn ganolog i'w hadferiad; fe roddwyd gwaith i gannoedd o artistiaid yn ysgolion y wlad fel rhan o'u cynlluniau adferiad. Mae nifer fawr o wahanol gynlluniau a chronfeydd o gefnogaeth, a rhaglen benodol adferiad celfyddydau a diwylliant sy'n cynnwys pob rhan o'r sector. O, am gael gweledigaeth ddychmygus o'r math yma yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae'r celfyddydau a'r sector creadigol mewn cors ar hyn o bryd, neu fel llong fawr, hardd heb gapten wrth y llyw. Wrth siarad â rhanddeiliaid ar draws Cymru, yr un ydy'r neges: does gan y Llywodraeth ddim gweledigaeth glir; mae yna ddiffyg arweiniad a diffyg cyfathrebu efo'r sector drwyddi draw, gan gynnwys efo'r undebau creadigol, gyda llaw.
Mae yna ambell i ddatblygiad positif, oes, fel y gweithgareddau yn Theatr Clwyd i enwi ond un, ond, ar y cyfan, mae'r cyfnod clo wedi tanlinellu'r gwendidau mawr oedd yno yn barod. Model o'r top i lawr sydd gennym ni yng Nghymru, efo cyngor y celfyddydau yn cael arian i weinyddu, a hwnnw yn 'trickle-o' lawr. Ond, nid dyna weledigaeth Plaid Cymru. Yn hytrach, rydyn ni'n rhoi'r pwyslais ar ddiwylliant llawr gwlad yn bwydo i fyny ac yn porthi'r sefydliadau.
Un ecoleg fawr gron ydy'r celfyddydau yng Nghymru, gyda'r gwahanol elfennau yn atgyfnerthu ei gilydd. Ond, i'r olwyn ecolegol gelfyddydol weithio'n iawn, rhaid parchu pob rhan ohoni hi a chefnogi pob rhan. Heb weithwyr llawrydd, byddai'r system yn dymchwel; heb y sefydliadau, fyddai yna ddim prosiectau na seilwaith i gefnogi ymarferwyr artistig unigol.
Ond, ble mae pwyslais Llywodraeth Cymru? Ar ddenu cwmnïau ffilm o'r tu allan a'u canoli yng Nghaerdydd, yn hytrach na meithrin ein creadigrwydd cynhenid ein hunain o'r gwaelod i fyny. Daeth yna gyhoeddiad dros y penwythnos fod Llywodraeth Cymru wedi taro bargen efo cwmni Great Point, sy'n dod i Seren Stiwdios—enw newydd Pinewood. Pam na all Llywodraeth Cymru ffocysu ar helpu'r sector a chwmnïau Cymreig ar lawr gwlad, yn hytrach na chwmnïau mawr rhyngwladol?
Mae'r sector cyfrwng Cymraeg dan fygythiad penodol. Mae tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i'r pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg yn nodi bod angen i'r sector Cymraeg ei iaith dderbyn cefnogaeth benodol oherwydd y cyfleoedd y mae'n eu cynnig i siaradwyr Cymraeg gymdeithasu yn y Gymraeg, ac mae angen sicrwydd yn y tymor hir fod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei gyfanrwydd wrth symud ymlaen.
Dwi'n troi at ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol, a dwi am sôn am dri yn unig. Mae'r llyfrgell genedlaethol wedi dioddef o ganlyniad i dangyllido systematig gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, ac mae'r adolygiad teilwredig sydd newydd ei gyhoeddi yn mynegi pryder mawr ynghylch dyfodol y llyfrgell genedlaethol, gan nodi'r glir iawn nad ydy'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.
Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac yn sicr mae tanfuddsoddi wedi bod, yn arbennig o ran isadeiledd a chynnal a chadw'r safleoedd. Yr Urdd: mae Urdd Gobaith Cymru yn wynebu'r hyn a ddisgrifiwyd gan ei brif weithredwr fel cyfnod mwyaf heriol ei 98 mlynedd o hanes o ganlyniad i'r sefyllfa COVID-19. Mae'r mudiad yn wynebu gostyngiad incwm o £14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae'n rhaid i ni wrthwynebu'r amarch sy'n cael ei ddangos tuag at ein sefydliadau cenedlaethol; at y celfyddydau drwyddi draw ac at y gweithwyr yn y diwydiant. Fe welwyd enghraifft berffaith o'r amarch yma ddoe gan Rishi Sunak. Fe aeth ati i gynddeiriogi cerddorion efo'i sylwadau amharchus.
Mi roedd Llywodraeth San Steffan yn gyndyn iawn o roi cymorth ariannol i'r celfyddydau pan oedd y pandemig ar ei anterth, a phan ddaeth cyfran o'r arian hwnnw i Gymru, yn llawer rhy hwyr yn y dydd, roedd £6 miliwn ohono fo ar goll. A dim ond wythnos diwethaf y cyhoeddwyd cronfa gwerth £7 miliwn ar gyfer gweithwyr llawrydd—yr arian coll yn ffeindio'i ffordd i'r artistiaid o'r diwedd bellach? Ond yn rhy hwyr i lawer sydd wedi hen roi'r gorau i geisio cynnal bywoliaeth yn y celfyddydau, ac mae'n gwlad ni ar ei cholled o'r herwydd.
Mae'r cyfnod clo wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y celfyddydau, yn ymgais y ddynoliaeth i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas, ond mae o hefyd wedi tynnu sylw at ba mor fregus ydy'r sector yng Nghymru a bod yna lawer iawn o waith i'w wneud cyn gwireddu gweledigaeth Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd am weld diwylliant a'r celfyddydau yn rhan gwbl ganolog o bopeth yr ydyn ni yn ei wneud yng Nghymru.
Mae angen gwreiddio gweithgarwch diwylliannol yn y gymdeithas a'r economi a chreu cydberthynas fywiol, ryngweithiol rhwng y celfyddydau a phob agwedd ar fywyd y genedl. Nid dyna le'r ydyn ni ar hyn o bryd, ond dyna le'r ydyn ni'n mynd pan fydd Plaid Cymru mewn grym yn y lle hwn.