Y Sector Modurol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:30, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae'r llythyr diweddar gan yr Arglwydd Frost at wneuthurwyr ceir, sy'n diystyru unrhyw gyfuniadau â thrydedd gwlad fel rhan o'r cytundeb masnach, yn ddatblygiad sy’n peri cryn bryder. Mae'r sector eisoes wedi rhybuddio ynghylch effaith ddinistriol canlyniad 'dim cytundeb' posibl, ac erbyn hyn, ymddengys eu bod yn wynebu cael eu torri allan o unrhyw gytundeb a allai fod yn bosibl, wrth i Lywodraeth y DU geisio cyflawni amcanion eraill. Yn amlwg, mae gwneuthurwyr ceir yn cael eu cynnig yn aberth gan Lywodraeth y DU, wrth iddi straffaglu i sicrhau cytundeb munud olaf sy'n wleidyddol dderbyniol i'w chefnogwyr craidd. A wnewch chi ddadlau’r achos cryfaf posibl i Weinidogion y DU dros roi'r diwydiant hwn yn ôl ar y rhestr flaenoriaethol ar unwaith mewn negodiadau, lle dylai fod wedi bod erioed?