Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Hydref 2020.
Gadewch imi ddweud fy mod yn rhannu pryderon yr Aelod yn llwyr fel y’u hamlinellwyd ganddi. A phan ddarllenais am y llythyr, a oedd yn cadarnhau i bob pwrpas na fyddai Llywodraeth y DU yn mynnu bod y rheolau tarddiad yn cael eu cynnwys, roeddwn mewn penbleth. Ymddengys bod Llywodraeth y DU yn fwy na pharod i fynnu ei ffordd mewn perthynas ag agweddau eraill ar ei safbwynt negodi, gan gynnwys, er enghraifft, ildio’r posibilrwydd o gytundeb masnach hael er mwyn amddiffyn y sector pysgodfeydd, sydd, er nad ydym am weld unrhyw sector yn dioddef, yn cyfrannu llai o lawer at les economaidd yng Nghymru a ledled y DU na'r sector modurol, sy’n cyflogi oddeutu 10,000 o bobl yng Nghymru yn unig. Fel y dywed, mae trefniadau cyfuno uchelgeisiol yn gwbl hanfodol. A hyd yn oed pe bai Llywodraeth y DU yn llwyddo i sicrhau cytundeb di-dariff, di-gwota gyda'r UE, os nad yw’n cynnwys y trefniadau cyfuno hynny, bydd nwyddau Cymru'n dal i dalu tariffau sylweddol oherwydd rhwystrau rheolau tarddiad. Rwyf wedi dadlau’r achos i Lywodraeth y DU sawl tro mewn perthynas â'r cwestiwn hwn, ac rwyf wedi codi'r pwynt ynghylch rheolau tarddiad a chyfuno yn benodol dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU. Ysgrifennais ar 29 Mehefin, pan oedd Llywodraeth y DU ar yr adeg honno yn disgrifio ei hamcanion mewn perthynas â rheolau tarddiad yn eithaf uchelgeisiol, a byddem yn cefnogi hynny. Ond nid oes diben disgrifio uchelgais os nad ydych yn barod i'w chyflawni wrth negodi.