Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, yn amodol ar y pryderon a amlinellais yn fwy cyffredinol, nid yw lefel yr ymgysylltu mewn perthynas â pharodrwydd cwmnïau cludo nwyddau a pharodrwydd busnes yn fwy cyffredinol yn ddigonol. Mae set ymarferol iawn o ymyriadau yn mynd i gael effaith real iawn ar lwybrau i'n porthladdoedd, os na all gweithredwyr cludo nwyddau gyrraedd yno gyda'r lefel o barodrwydd sy'n ofynnol. Mae posibilrwydd y bydd hynny’n cael sgil effaith logistaidd sylweddol. Ac fel y dywedwch, fel y dywed yr Aelod, mae sgil effaith fwy o lawer o ran parodrwydd cyflenwyr a busnesau ledled y DU, ac mae'n dal yn wir nad oes gennym lawer iawn o hyder fod y lefel honno o baratoi’n digwydd ymhlith busnesau. Nid beirniadaeth o'r busnesau mo hynny. Mae llawer ohonynt yn wynebu pwysau aruthrol o ganlyniad i'r ymateb i COVID, ac a dweud y gwir, er ein bod am godi ymwybyddiaeth fod angen paratoi, ni all unrhyw un, ar hyn o bryd, fynegi beth yn union sy'n ofynnol er mwyn bodloni'r trefniadau newydd hynny. Ac felly, dyna'n union pam fod angen eglurhad ynghylch y gofynion hynny ar frys a mwy o ymgysylltu, gyda chwmnïau cludo nwyddau, ond gan alluogi busnesau hefyd i wneud y paratoadau hynny mewn ffordd synhwyrol a phragmatig, fel yr awgryma’r Aelod.