Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 7 Hydref 2020.
Weinidog, yn amlwg, bu’r Gymdeithas Cludo Nwyddau gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, ac roedd un o’u pryderon yn ymwneud, nid â’u hunain—dywedasant y byddent yn cael trefn ar bethau yn ystod deufis cyntaf y flwyddyn nesaf—ond pryderon cleientiaid, a'r gwaith papur yn sgil materion tollau mewn perthynas â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a rheoli ffiniau. Maent yn bryderus iawn nad oes digon o baratoi yn digwydd i sicrhau bod y cleientiaid mewn sefyllfa i wneud hynny mewn pryd, gan iddynt ddweud yn glir na fyddai lorïau'n gadael oni bai fod y ddogfennaeth yn barod ganddynt. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU, ac yn enwedig gyda CThEM, i sicrhau bod y systemau ar waith i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu cyflawni'r gweithdrefnau priodol a gwneud y gwaith papur, fel y gall eu holl nwyddau deithio i Ewrop heb unrhyw oedi o gwbl?