Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl deg, wedi beirniadu'r Bil marchnad fewnol fel enghraifft amlwg o gipio grym, a dywedwch y byddwch yn gwrthwynebu hynny bob cam o'r ffordd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod ASau Plaid Cymru wedi cynnig gwelliant i’r Bil yn San Steffan a fyddai wedi diogelu'r setliad datganoli drwy atal y Bil rhag dod i rym oni bai fod y deddfwrfeydd datganoledig yn rhoi eu cydsyniad. Nawr, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd, penderfynodd ASau Llafur ymatal. Nawr, a ydych yn cytuno bod ASau Llafur wedi gwneud anghymwynas fawr â Chymru drwy fethu cefnogi gwelliant a oedd yn gwbl gyson â pholisi Llywodraeth Lafur Cymru? A ydych hefyd yn cytuno eu bod wedi colli cyfle i wneud safiad trawsbleidiol cryf i amddiffyn datganoli? Ac a allwch egluro sut y mae hyn yn cyd-fynd â safbwynt datganedig y Blaid Lafur y byddent yn gwrthwynebu'r Bil bob cam o'r ffordd?