Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 7 Hydref 2020.
Yn sicr, Lywydd, ceir enghreifftiau o welliannau a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur i amddiffyn datganoli nad yw Plaid Cymru wedi eu cefnogi yn Senedd y DU. Byddwn yn annog yr Aelod y dylem fod yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda'n gilydd ar y pwynt hwn. Mae gennym berthynas gynhyrchiol iawn â Phlaid Genedlaethol yr Alban. Mae'n berthynas aeddfed a chydweithredol sy'n cydnabod y gall Llywodraethau o wahanol liwiau gwleidyddol weithio gyda'i gilydd pan fo ganddynt ddiddordeb cyffredin. Rwy'n gobeithio, ar ryw bwynt, y gallwn berswadio Plaid Cymru i gael yr un math o berthynas gyda ni yng Nghymru.