Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae ymddygiad fel cadw gwybodaeth oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig, mewn perthynas â pharodrwydd ar gwestiwn mor bwysig â hwn, yn niweidiol dros ben i'r berthynas o ymddiriedaeth rhwng Llywodraethau’r DU. Yr hyn rydym wedi gallu ei ddweud yw, ym maes parodrwydd, fod gweithio ar y cyd wedi bod yn bosibl, ac mae wedi bod yn effeithiol, hyd yn oed os nad yw wedi bod yn ddigonol ar brydiau. Ond lle caiff gwybodaeth ei chadw oddi wrthym, mae hynny'n peri i Lywodraeth Cymru orfod ailystyried ein lefel o sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd wedi'u rhoi ar waith. Ac roeddwn yn siomedig iawn, yn enwedig a minnau wedi cael cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU ddoe i drafod y cyflenwad bwyd, ac roedd gweld bod y wybodaeth wedi'i gwneud yn gyhoeddus ychydig oriau ar ôl hynny yn arbennig o siomedig.
Rwyf wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Michael Gove, er mwyn i mi allu deall beth sydd wedi digwydd yma, a pha wybodaeth arall nad ydym yn cael mynediad ati o bosibl. Lle ceir gwahaniaeth polisi neu wahaniaeth gwleidyddol rhwng llywodraethau'r DU, awgryma hyn na allwn ddibynnu arnynt i ddarparu’r holl wybodaeth. A chredaf fod y cyfeiriad yn y darn a welsom ddoe at y Bil marchnad fewnol yn dweud wrthym pa mor wenwynig yw'r Bil hwnnw o ran ei effaith ar y berthynas rhwng y Llywodraethau ledled y DU.