Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:46, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuriadau, Lywydd. Rwy'n siarad yn dawel yn naturiol, yn amlwg. [Chwerthin.]

Yr wythnos hon, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb effeithio'n drychinebus ar y GIG, gyda phryderon amlwg ynghylch y cyflenwad o gynhyrchion fferyllol, dyfeisiau meddygol a chyfarpar diogelu. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi adeiladu warws Brexit o gyflenwadau meddygol, a bod y cyflenwadau hyn wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r ymateb i COVID. Nawr, yn gynharach eleni, rhybuddiodd y diwydiant fferyllol fod rhai cyflenwadau wedi'u defnyddio i gyd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, felly, ynghylch lefelau argaeledd meddyginiaethau yn warws Brexit, o gofio y gallem wynebu Brexit heb gytundeb ymhen ychydig fisoedd?