Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch i Dai Lloyd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yn y Siambr heddiw. Mae hyn yn amlwg yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth. Ac fel gyda chamau paratoi blaenorol, mae rhai o'r atebion yn berthnasol i’r DU gyfan ac mae rhai ohonynt ar gyfer Cymru'n benodol. Felly, mewn perthynas â meddyginiaethau yn gyntaf, fel y cyfeiria atynt yn ei gwestiwn, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU mewn trafodaethau ynghylch parhad cyflenwadau. Mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â gwasanaethau cludo nwyddau’n gyflym, ac mae rhywfaint yn ymwneud ag ymateb i darfu ar gyflenwadau. Ond rydym yn cymryd camau ychwanegol yng Nghymru i roi sicrwydd ychwanegol i ni'n hunain mewn perthynas â hynny, ac mae rhywfaint o hynny, fel yr awgryma ei gwestiwn, yn ymwneud â dysgu o brofiad COVID-19.
Mewn perthynas â chyflenwadau meddygol, boed yn ddyfeisiau meddygol neu ddefnyddiau traul clinigol, er enghraifft—ac mae hyn, gyda llaw, yn ymwneud â'r GIG yn ogystal â rhannau o'r sector gofal cymdeithasol, am resymau y bydd yn eu deall—rydym yn adolygu ac yn ailgyflenwi cyflenwadau Cymru o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol. Rydym yn profi ac yn mireinio'r cynlluniau a oedd gennym ar waith ddiwedd y llynedd rhag ofn y byddem yn gadael heb unrhyw fath o gytundeb. Ac fel yr awgryma ei gwestiwn, rydym yn dal i elwa'n sylweddol iawn o fuddsoddiad yn y cyfleuster warws storio ac IP5 ger Casnewydd, sy'n parhau i allu rhoi cymorth i ni gyda’n gwaith paratoi.