Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:50, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, yn sicr, nid wyf yn derbyn rhagosodiad cwestiwn yr Aelod. Boed mewn perthynas â heriau ynysu, y gefnogaeth sydd ei hangen i bobl a warchodir, efallai, y gefnogaeth sydd ei hangen gan sefydliadau'r trydydd sector, y set benodol o ymyriadau sydd ei hangen gan wasanaethau cyhoeddus i gydnabod profiad pobl hŷn yn y pandemig hwn, boed yn gydnabod y cyfraniad penodol y mae gwirfoddolwyr hŷn wedi gallu ei wneud mewn ffordd bositif iawn i gefnogi pobl eraill yn eu cymunedau yn ystod y cyfnod hwn, boed yn gydnabyddiaeth benodol o anghenion pobl hŷn a allai fod mewn perygl o golli eu swyddi a chefnogaeth arbennig y gallai fod ei hangen arnynt wedi'i theilwra ar gyfer pobl sy’n agosáu at ddiwedd eu bywyd gwaith—mae pob un o'r rheini'n gwbl hanfodol i'r ymyriadau rydym wedi'u gwneud hyd yma a'n trafodaethau parhaus.

Rwyf wedi cyfarfod â’r comisiynydd pobl hŷn. Ni allaf roi sicrwydd iddo mewn perthynas â pha swyddfa a gysylltodd â pha unigolyn mewn perthynas ag unrhyw un o'r nifer fawr iawn o gyfarfodydd rydym wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid mewn perthynas â hyn, ond yn sicr, teimlwn fod y drafodaeth gyda’r comisiynydd pobl hŷn a gafwyd yn gymharol gynnar, rwy'n credu, yn gynhyrchiol iawn, a dangosai ein bod yn meddwl ar hyd yr un llinellau mewn ffordd dda a chadarnhaol iawn.