Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ond prin yw’r dystiolaeth hyd yma eich bod yn cymryd effaith y coronafeirws ar bobl hŷn o ddifrif. Cefais fy synnu’n fawr pan welais y ddogfen a gyhoeddwyd ddoe ar yr heriau a’r blaenoriaethau wrth ailadeiladu ar ôl y coronafeirws, nad oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at bobl hŷn. Rwy'n deall eich bod wedi cynnal nifer o gyfarfodydd bord gron, gan gynnwys un o’r enw, ac rwy'n dyfynnu, 'Cynllunio ar gyfer adferiad Economaidd a Chymdeithasol ar ôl y pandemig Coronafeirws: Atodiad 2: Grwpiau Agored i Niwed’. Ac eto, nid oedd hyd yn oed y cyfarfod bord gron penodol hwnnw'n cynnwys unrhyw un o swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn. Mewn gwirionedd, deallaf na chafodd y comisiynydd pobl hŷn wahoddiad i gyfarfod â chi, ac mewn gwirionedd, bu’n rhaid i’w swyddfa wneud cais i gyfarfod â chi, a dim ond bryd hynny y gwnaethoch gyfarfod â hi i drafod ei phryderon ynglŷn â’r effaith ar bobl hŷn. Felly, a gaf fi ofyn i chi: pam fod gennych chi fel Llywodraeth Cymru fan dall mewn perthynas â phobl hŷn pan ddaw'n fater o'u cynnwys yn eich ymdrechion i ailadeiladu ar ôl COVID?