Cyflenwadau Bwyd Ffres

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:07, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'n iawn cydnabod y gallai—ac rwy'n pwysleisio y gallai—fod peth tarfu ar gyflenwadau bwyd sy'n dod o'r cyfandir ar ôl Brexit, ond oni chytunwch y gallai hyn roi cyfle enfawr i'r DU a Chymru ddod yn llawer mwy hunangynhaliol yn ein ffordd o gynhyrchu bwyd? Mae ffermwyr Prydain ymhlith y mwyaf effeithlon ac arloesol yn y byd ac mae safonau hwsmonaeth ymhlith yr uchaf. Rwy'n siŵr y byddai'n llawer gwell gan y cyhoedd ym Mhrydain brynu cynnyrch cartref, yn enwedig o gofio bod arferion ffermio yn Sbaen, er enghraifft, lle daw llawer o'r ffrwythau a'r llysiau a fewnforiwn ohono, ymhell o fod yn ddymunol. Dangosir bod llafur mewnfudwyr yn cael ei ecsbloetio'n gywilyddus, gyda chyflogau isel, oriau hir a llety byw ansafonol iawn. O ystyried arferion o'r fath, onid yw'r Twrnai Cyffredinol yn cytuno ei bod yn llawer gwell inni gynhyrchu bwydydd o'r fath gartref, lle nad oes ecsbloetio o'r fath yn digwydd, neu lle mae'n llawer llai cyffredin o leiaf?