Cyflenwadau Bwyd Ffres

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:08, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes gennyf syniad beth yw barn y Twrnai Cyffredinol ar hyn, ond byddwn yn dweud bod dwy—. Mae cwestiwn yr Aelod yn seiliedig ar ddwy ragdybiaeth sylfaenol anghywir: yn gyntaf, y dylem fod yn barod i oddef cyfyngiadau ar y cyflenwad bwyd, os mai dyna sy'n digwydd, a chostau uwch, os mai dyna sy'n digwydd, oherwydd budd hirdymor yn y dyfodol. Rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef fod honno'n ffordd dderbyniol o fwrw ymlaen. A'r ail gamgymeriad y mae'n ei wneud yn y rhagdybiaethau yw bod ein trefniadau presennol mewn rhyw ffordd yn atal datblygiad y math hwnnw o sector yn y DU. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef: rydym am weld sector amaethyddol a garddwriaethol cynyddol fywiog yng Nghymru a ledled y DU. Nid wyf yn derbyn am eiliad fod y trefniadau presennol yn rhwystr i hynny.