Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 13 Hydref 2020.
Mae argymhelliad 6 yn gofyn i ni gyflwyno gwelliant i ymestyn y cyfnod y gellir tynnu rhybudd landlord yn ôl a'i ailgyflwyno, er enghraifft, i gywiro camgymeriad, o 14 diwrnod i 28 diwrnod. Ar ôl gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd ar y mater hwn gan gynrychiolwyr landlordiaid, ac ar ôl ystyried casgliadau'r pwyllgor ar hyn, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn ar y sail y bydd o gymorth i landlordiaid da sydd wedi gwneud camgymeriad gonest. Ni fydd ychwaith yn effeithio'n negyddol ar ddeiliaid contract, gan y bydd yn dal yn ofynnol i'r rhybudd sydd wedi ei ailgyflwyno fod am o leiaf chwe mis. Felly, byddwn, fe fyddwn ni'n cyflwyno gwelliant i wneud y newid hwnnw.
Mae argymhelliad 7 yn gofyn i ni gynnal astudiaeth o ddichonoldeb fanwl i sut y gallai tribiwnlys neu lys tai weithio yng Nghymru, gyda'r bwriad o sefydlu corff o'r fath fel blaenoriaeth yn y Senedd nesaf pe byddai'r astudiaeth yn dod i'r casgliad bod hyn yn debygol o arwain at welliannau yn y sector ac y byddai modd ei gyflawni. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn gwybod o'm tystiolaeth fy mod i yn bersonol yn cefnogi llys neu dribiwnlys tai i Gymru, fel y mae pleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd. Er fy mod i'n sylweddoli bod yr argymhelliad yn ymwneud â sefydlu astudiaeth o ddichonoldeb yn unig ar hyn o bryd, byddai hynny'n dal i fod yn ymrwymiad sylweddol ar adeg pan fo'r holl adnoddau sydd ar gael gennym yn cael eu hymestyn i'r eithaf i reoli effaith yr achosion o'r coronafeirws ac yn wir ar y Bil hwn. Hefyd, dim ond ychydig iawn o amser sydd gennym ni ar ôl yn nhymor presennol y Senedd. Felly, byddai'n afrealistig i mi ymrwymo i ddechrau gweithio ar astudiaeth o ddichonoldeb ar hyn o bryd. Am y rhesymau hyn, dim ond mewn egwyddor y gall y Llywodraeth gefnogi'r argymhelliad hwn am y tro, ond rwy'n gobeithio, pan fyddwn yn goresgyn yr anawsterau presennol a phan fydd rhyw fath o normalrwydd wedi dychwelyd, fod hyn yn rhywbeth y byddai gweinyddiaeth yn y dyfodol yn dymuno ei ddatblygu cyn gynted ag y bydd adnoddau yn caniatáu.
Mae argymhelliad 8 yn gofyn i ni gyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol pan ddaw Deddf ddiwygiedig 2016 i rym, gan ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ystyried unrhyw bersonau y cyflwynir hysbysiad iddynt a fydd yn dod i ben o fewn 84 diwrnod fel bod wedi eu bygwth â digartrefedd ac felly yn gymwys i gael cymorth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan fy mod yn cefnogi'n gryf yr egwyddor o ymgysylltu ag aelwydydd ar gam cynnar i weithio i atal digartrefedd. Fodd bynnag, ni fyddai'n bosibl diwygio'r diffiniad statudol o 'fygythiad o ddigartrefedd' fel y nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014 drwy gyhoeddi canllawiau. Felly, byddwn ni'n ystyried y ffordd orau o gyflawni'r egwyddor o ymyrraeth a chymorth cynharach a geir yn yr argymhelliad hwn yn rhan o'n gwaith ehangach i atal digartrefedd.
Mae argymhelliad olaf y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i ni ddiwygio Deddf 2014 fel mai dim ond os darperir llety i unigolyn neu deulu am 12 mis y caiff y dyletswyddau digartrefedd hynny eu hystyried fel bod wedi eu cyflawni yn hytrach nag ar ôl chwe mis, fel y mae ar hyn o bryd. Er fy mod yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad hwn, nid yw'n un y gall y Llywodraeth ei gefnogi, mae arnaf i ofn. Ni ellid gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl ar wahân a byddai angen eu hystyried yn rhan o'r ystyriaethau polisi a deddfwriaethol ehangach wrth fwrw ymlaen â'r agenda drawsnewid a nodir yn ein strategaeth ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019. Mae'r gwaith i gyflawni'r strategaeth yn cael ei lywio gan y grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd ac mae wedi symud ymlaen yn gyflym eleni, a bu buddsoddiad sylweddol yn yr ymateb i ddigartrefedd yng ngham 2 COVID-19. Archwiliodd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn benodol y fframwaith polisi a'r mesurau sydd eu hangen i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru a bydd eu hadroddiad yn llywio'r ystyriaethau ehangach o ran unrhyw newidiadau polisi a deddfwriaethol posibl sydd eu hangen. Am y rhesymau hyn rwy'n gwrthod argymhelliad 9.
Gan droi yn awr at bedwar argymhelliad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. O ran y cyntaf o'r argymhellion hynny, mae asesiad trylwyr o'r darpariaethau yn y Bil wedi ei gynnal i sicrhau eu bod yn gydnaws â hawliau dynol.
Yr ail argymhelliad yw y dylem gynyddu ymgysylltiad a datblygu cysylltiadau mwy ffurfiol â deiliaid contractau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu argymhellion 3 a 4 y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a nodais yn gynharach fy mod yn fodlon ei dderbyn, gan nodi ein bod eisoes yn cefnogi TPAS Cymru yn hyn o beth. Hyderaf y bydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn fodlon â'm cynnig i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hynny gyda'r bwriad o'u cryfhau lle bo angen.
Mae trydydd argymhelliad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gofyn, yn rhan o'n gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, y dylem ystyried yr angen a'r brys posibl i gydgrynhoi cyfraith tai yn llawn fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei dderbyn mewn egwyddor, ond, yn ôl ei natur, mae'n ymrwymiad a fyddai i weinyddiaeth yn y dyfodol ei ddatblygu. Fel y soniais yn gynharach, serch hynny, nid yw adolygu'r posibilrwydd o gydgrynhoi cyfraith tai yng Nghymru yn ymarfer y gallem ni ei gynnal yn rhan o unrhyw adolygiad o Ddeddf 2016 sydd ar waith. Byddai yn ymarfer ar wahân ac am y rheswm hwnnw rwy'n tueddu i dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn hytrach nag yn ddiamod.
Ac yn olaf, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â'r potensial i sefydlu tribiwnlys tai yng Nghymru. Fel y dywedais yn fy ymateb i argymhelliad tebyg y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y mater hwn, er fy mod i yn bersonol yn gefnogol, mae hwn bellach yn fater i lywodraeth yn y dyfodol, yn hytrach na hon, felly rwy'n derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor ar y sail honno.
Daw hyn â mi at ddiwedd fy ymatebion ffurfiol i bob un o argymhellion y pwyllgorau. Hoffwn ailadrodd fy niolch gwirioneddol i Gadeiryddion, aelodau a staff y pwyllgorau sydd wedi gweithio mor galed mewn amgylchiadau eithriadol o anodd i gwblhau proses graffu Cyfnod 1 a chyflwyno yr adroddiadau hyn. Rwy'n credu ei fod yn arwydd o'r ymdrech sydd wedi ei gwneud i ddatblygu'r dull deddfwriaethol penodol hwn o wella sicrwydd deiliadaeth bod yr adroddiadau hyn wedi bod yn ffafriol ar y cyfan, gyda dim ond ychydig o argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r Bil ei hun.
Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu Bil sy'n taro cydbwysedd teg rhwng buddiannau deiliaid contractau i ganiatáu iddyn nhw deimlo'n ddiogel ac wedi ymgartrefu yn y llety y maen nhw'n ei alw'n gartref, gan hefyd barchu buddiannau landlordiaid, a chaniatáu iddyn nhw adennill meddiant o'u heiddo pan fo rheswm da dros yr angen iddyn nhw wneud hynny.
Wrth gloi, hoffwn i sôn hefyd, yn dilyn trafodaethau manwl gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet dros yr wythnosau diwethaf, ei bod wedi dod yn amlwg i mi nad oes gennym ni ddigon o amser na chapasiti deddfwriaethol mwyach i gwblhau'r holl waith sydd ei angen i ddod â darpariaethau Deddf 2016 ddiwygiedig i rym y flwyddyn nesaf, fel yr oeddem wedi gobeithio ei wneud cyn yr achosion o COVID. Yn hytrach, fe fyddwn yn ceisio cwblhau'r holl ganllawiau is-ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r gwaith codi ymwybyddiaeth sydd ei angen mewn pryd ar gyfer dyddiad gweithredu yng ngwanwyn 2022. Rwy'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond dyna realiti'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, gyda chymaint o'n hadnoddau wedi'u canolbwyntio ar y pandemig yn y misoedd diwethaf, a heb fawr o arwydd y bydd y pwysau hwnnw yn lleihau yn y dyfodol rhagweladwy.
Edrychaf ymlaen at glywed yn awr gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu a gan Aelodau eraill sy'n dymuno siarad am y Bil, ac fe wnaf ymateb i unrhyw bwyntiau eraill nad wyf eisoes wedi ymdrin â nhw yn fy sylwadau terfynol. Diolch, Llywydd.