Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch, Llywydd. Wrth agor, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r gwahanol bwyllgorau yn y Senedd, yr Aelodau a'r staff, sydd wedi gwneud popeth posibl i sicrhau bod y Bil hwn wedi gallu symud ymlaen i'r ddadl heddiw, drwy'r hyn a fu'n saith mis cythryblus a heriol iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i'm swyddogion am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud i barhau â'r gwaith, er gwaethaf y pwysau cyson y mae'r pandemig wedi ei roi ar ein hadnoddau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n arwydd o'n haeddfedrwydd a'n proffesiynoldeb fel deddfwrfa a Llywodraeth ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau deddfwriaethol allweddol ar yr un pryd â llywio ein ffordd drwy argyfwng digynsail, yn ogystal â rheoli'r paratoadau cymhleth ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE. Rwy'n sylweddoli cymaint fu'r ymdrech i'n harwain mor bell â hyn gyda'r Bil, a gobeithio nad wyf yn temtio ffawd wrth ddweud hynny. Ar ôl darllen adroddiadau Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, rwy'n obeithiol, gyda chefnogaeth barhaus yr Aelodau, y byddwn ni'n gallu cael y Bil hwn drwy weddill y cyfnodau craffu ac ar y llyfr statud cyn diwedd tymor presennol y Senedd.
Hoffwn i droi yn awr at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ond cyn gwneud hynny, dylwn i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn gysylltiedig â'r Bil. Rwy'n cymryd bod hyn yn arwydd cadarnhaol bod y pwyllgor wedi'i fodloni gan y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a ddarparwyd gennyf, a'i fod yn derbyn fy honiadau na fydd y ddeddfwriaeth hon yn arwain at ganlyniadau ariannol negyddol i landlordiaid da yng Nghymru, ac na fydd yn arwain at lwyth gwaith gormodol i'r gwasanaeth llysoedd yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Llyr yn ddiweddarach yn y ddadl. Nawr, i ymdrin â phob un o'r naw argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn eu tro.
Rwy'n croesawu yr argymhelliad cyntaf, y dylai'r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n barod i dderbyn yr ail argymhelliad mewn egwyddor. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn edrych yn ofalus ar effeithiau'r ddeddfwriaeth dros amser, pan fydd wedi dod i rym, a byddwn ni'n cynnal adolygiad o'i heffaith a'i heffeithiolrwydd pan fydd digon o amser wedi mynd heibio. Rwy'n cytuno'n llwyr bod hyn o bwys hanfodol, a gallaf ddweud wrthych chi fod gwaith ar y ffordd orau o fonitro effeithiau'r ddeddfwriaeth eisoes ar y gweill. Byddwn ni hefyd yn ystyried y ffordd orau o adrodd ar effeithiau'r ddeddfwriaeth, mewn ffyrdd sy'n ddefnyddiol i'r sector ac i ddatblygu polisi ac arfer yn y dyfodol. Ac os daw unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r amlwg, byddwn ni wrth gwrs yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r rheini, naill ai drwy ganllawiau neu, os oes angen, rhagor o newid deddfwriaethol. Fy unig amheuaeth o ran yr argymhelliad, a'r rheswm pam yr wyf i wedi ei dderbyn mewn egwyddor yn hytrach nag yn ddiamod, yw bod rhai o'r meysydd y mae'r pwyllgor wedi eu cynnwys yn y cwmpas arfaethedig ar gyfer adolygiad o'r fath yn faterion nad ydyn nhw yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Bil, ac na fyddent yn cael eu heffeithio gan ei weithrediad—er enghraifft, cydgrynhoi cyfraith tai, neu faterion yr eir i'r afael â nhw drwy waith arall, fel nifer y bobl sy'n ddigartref yn fwriadol, a fydd yn cael eu cynnwys yn rhan o waith ehangach o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ein hymateb i amrywiol adroddiadau ac argymhellion gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd.
Gan droi at argymhelliad 3, rwy'n fodlon derbyn hwn, a byddaf yn trafod gyda'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet a'm swyddogion pa un ai Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fyddai'r corff a fyddai yn y sefyllfa orau i gynnal ymarfer o'r fath. Ac os oes cytundeb, byddwn ni'n ceisio comisiynu'n gwaith hwnnw yn unol â hynny.
Rwyf hefyd yn barod i dderbyn yr argymhelliad nesaf. Er bod ymgysylltu â thenantiaid y sector rhentu preifat wedi cael ei gydnabod ers tro byd fel bod yn heriol oherwydd natur y sector ac amrywiaeth y bobl sy'n rhentu eu cartrefi gan landlord preifat, rydym ni wedi gallu gwneud gwelliannau sylweddol drwy'r pandemig, drwy dechnegau cyfathrebu arloesol. Dylwn nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys ymgysylltu â thenantiaid y sector rhentu preifat. Mae'n ddigon posibl bod rhywfaint o werth mewn adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y gwersi yr ydym yn parhau i'w dysgu o brofiad COVID. Yn sgil hyn, rwyf wedi gofyn i hynny gael ei ddatblygu, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar hyn yn y dyfodol. Gobeithio y bydd hyn yn bodloni'r pwyllgor ar yr adeg hon.
Mae argymhelliad 5 yn gofyn i'r Llywodraeth gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod eiddo a feddiannir gan weinidogion crefydd yn cael eu heithrio o ofynion y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Wrth wneud hynny, dylwn i egluro yn gyntaf fod trafodaethau yn parhau rhwng fy swyddogion a chynrychiolwyr y sector yng Nghymru ar y mater hwn, ac yn ail, bod gennym ni eisoes bŵer i wneud rheoliadau yn y Bil sy'n caniatáu i eithriad o'r fath gael ei fewnosod yn Atodlen 1. Nid oes angen gwelliant penodol felly ar gyfer hyn. Felly, yn hytrach na chyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2, rwy'n rhoi ymrwymiad i chi y byddwn ni'n gwneud rheoliadau i ddarparu'r eithriad hwn cyn gweithredu'r Ddeddf wedi'i diwygio os byddwn yn dod i'r casgliad bod hyn yn angenrheidiol. Hyderaf y bydd hyn yn bodloni'r pwyllgor yn hyn o beth.