Part of the debate – Senedd Cymru am 7:30 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roedden ni wedi disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog yn ôl ym mis Mawrth, wrth gwrs, ar y mater yma, ond bu'n rhaid inni ohirio'r sesiwn honno yn wyneb pandemig COVID-19. Yn lle hynny, mi wnaethon ni ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am wybodaeth am oblygiadau ariannol y Bil, rhag ofn y bydden ni'n methu aildrefnu sesiwn dystiolaeth cyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd yng Nghyfnod 1. Ond gan fod y dyddiad cau hwnnw wedi'i ymestyn, fe gawsom ni yn y pendraw gyfle i glywed gan y Gweinidog, ac rŷn ni'n ddiolchgar iawn iddi am hynny, wrth gwrs.
Mae'r pwyllgor yn nodi y bydd y Bil yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi rhagor o sicrwydd o ran tenantiaeth i ddeiliaid contractau sy'n rhentu, yn enwedig, wrth gwrs, y bobl hynny sydd yn y sector rhentu preifat, drwy ymestyn faint o rybudd y mae'n rhaid i landlord ei roi o ddeufis i i chwe mis, pan nad yw deiliad y contract ar fai.
Rŷn ni'n nodi bod diwygiadau yn cael eu gwneud yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn y maes yma hefyd, wrth gwrs. Yn Araith y Frenhines ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnwys Bil arfaethedig i ddiwygio trefniadau ar gyfer rhentwyr, a fydd yn atal troi pobl allan o'u cartrefi heb fai. Yn yr Alban wedyn, fe greodd Deddf Tai Preifat (Tenantiaethau) (Yr Alban) 2016 gategori newydd o denantiaeth rhentu preifat yn yr Alban, gan ddod â'r arfer o droi allan heb fai i ben a nodi 18 rheswm y caiff landlord eu defnyddio i ddod â thenantiaeth i ben.
At ei gilydd, mi fydd cost net y Bil yma, fel sy'n cael ei nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, rywle rhwng £9.5 miliwn a £13 miliwn. Yn gyffredinol, rŷn ni'n fodlon ar y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog, felly does gennym ni ddim materion i'w hadrodd o ran goblygiadau ariannol y Bil.