1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ynghylch mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19 ar ystâd y llysoedd yng Nghymru? OQ55713
Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Mae'n rhaid i lysoedd yng Nghymru weithredu yn ddiogel yn ystod y pandemig. I'r perwyl hwnnw, mae swyddogion yn cynnal deialog rheolaidd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Rwyf i wedi ysgrifennu at y prif weithredwr yn gofyn am sicrwydd pellach bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch y rhai sy'n mynd i adeiladau llysoedd yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn dilyn pryderon a godwyd gyda mi, rwyf i hefyd wedi ysgrifennu at y gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn ddiweddar yn gofyn am sicrwydd bod eu harferion gweithredol yn dal i gydymffurfio â rheolau COVID Cymru. Rwyf i, wrth gwrs, yn deall bod y gwasanaeth llysoedd o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, ond roeddwn i'n bryderus o glywed y gallai pobl sy'n ymddangos gerbron y llysoedd yng Nghaerdydd ar benwythnosau fod wedi cael eu trosglwyddo o ardaloedd fel Merthyr Tudful a'r canolbarth a'r gorllewin, a'u bod nhw'n cael eu cadw mewn amodau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau COVID Cymru. Rwy'n deall hefyd bod oddeutu 16 o gyfreithwyr sy'n gweithio yn y llysoedd yng Nghaerdydd hefyd wedi cyflwyno sylwadau i'r gwasanaeth llysoedd yn nodi eu pryderon am arferion gwaith diogel. Felly, a allwch chi ofyn am ddau sicrwydd: un, bod y driniaeth o bobl ar remand, ac sy'n ymddangos gerbron y llysoedd yng Nghymru, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n gweithio yn y llysoedd, yn cydymffurfio â rheoliadau COVID Cymru, a gofyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi wneud defnydd llawn o'u hystâd, gan gynnwys ailgyflwyno llysoedd penwythnos mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, os oes angen, i'n helpu ni i gyd gadw'n ddiogel rhag lledaeniad yr haint?
Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am ei chwestiwn atodol. Rwy'n hapus iawn i roi sylw i'r materion y mae hi wedi eu nodi. Diolchaf iddi am adael i mi weld y llythyr y mae hi ei hun wedi ei ysgrifennu at y gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd, ac yn wir gwelais y llythyr gan ymarferwyr cyfreithiol—eu llythyr agored dyddiedig 18 Medi. Hoffwn sicrhau'r Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i drafod yn rheolaidd gydag uwch swyddogion yn y gwasanaeth llysoedd drwy gydol y pandemig—fi a'r Cwnsler Cyffredinol. Cyfnewidiais lythyrau gyda'r Arglwydd Brif Ustus yn gynharach ym mis Awst, pryd y dywedodd wrthyf fod Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran ymdrechion y gwasanaeth i ailagor Llysoedd y Goron a llysoedd ynadon yn ddiogel. A chyfnewidiais lythyrau ddiwethaf gyda'r Arglwydd Ganghellor, a arweiniodd at ateb ganddo ar 21 Medi.
Felly, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau ein bod ni wedi mynd ar drywydd materion drwy'r pandemig, gan wneud yn siŵr bod cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn uniongyrchol i'r gwasanaeth llysoedd, a'u bod nhw'n gwbl ymwybodol o'i gyngor. Mater iddyn nhw wedyn yw gwneud yn siŵr eu bod nhw'n sicrhau bod y risgiau i'r diffynyddion ac i bobl eraill sy'n gweithio yn y system llysoedd cyn lleied a phosibl, a byddwn yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod adeiladau llysoedd yng Nghymru yn ddiogel i bawb sydd angen eu defnyddio.
Mae COVID-19, wrth gwrs, yn effeithio ar ein llysoedd a'n hawdurdodau gorfodi o ddau gyfeiriad: y feirws ei hun a baich y rheoliadau. Nawr, yma yng Nghaerdydd, mae'r rheithgor yn nhreial dyn yr honnir iddo fod yn rhan o ddigwyddiad saethu wedi cael ei ryddhau ar ôl i un o'u nifer hysbysu bod ganddo symptomau coronafeirws. Gall swyddogion gorfodi argymell erlyn mewn llys ynadon pe byddai diffyg cydymffurfiad â chyfyngiadau symud lleol, ond maen nhw'n aruthrol o brysur a dweud y gwir.
Nawr, mae Heddlu De Cymru yn ymateb i 40 o adroddiadau o achosion o ddiffyg cydymffurfio bob dydd ar gyfartaledd, ac mae Arfon Jones, comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, wedi datgan yn gyhoeddus ein bod ni yn ôl i'r hyn sy'n arferol o ran troseddau traddodiadol erbyn hyn, ac mae'n rhaid i ni barhau i orfodi'r rheoliadau coronafeirws hyn. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd, Prif Weinidog, i gynorthwyo i fynd i'r afael â'r ddwy brif broblem sy'n cael eu hachosi i awdurdodau gorfodi gan COVID-19?
Llywydd, ni fyddwn fy hun yn disgrifio'r rheoliadau sydd yno i'n cadw ni i gyd yn ddiogel fel baich. Amddiffyniad angenrheidiol ydyn nhw, sy'n golygu bod bywydau pobl yng Nghymru yn fwy diogel nag y bydden nhw heb y rheoliadau. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae comisiynydd heddlu a throseddu'r gogledd wedi ei ddweud, bod lefelau troseddu cyffredinol wedi'u hatal ym mis Mawrth a mis Ebrill, ond eu bod nhw wedi adfer—os dyna'r gair iawn—i'r mathau o lefelau a oedd yn cael eu gweld yn gynharach yn y flwyddyn. Ac mae ein heddluoedd yn gweithio'n galed dros ben erbyn hyn i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymdrin â'r materion hynny, a'u bod nhw hefyd yn gallu cynorthwyo gyda'r busnes hanfodol o orfodi cyfyngiadau a rheoliadau coronafeirws yma yng Nghymru. Rwy'n llwyr gefnogi'r dull y mae ein heddluoedd wedi ei fabwysiadu drwy gydol y pandemig—eich bod chi'n dechrau bob amser drwy wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r rheolau, eich bod chi'n addysgu, yn cynghori, yn annog, ond, pan fydd hynny'n dod i ben ac y bydd pobl yn torri'r cyfreithiau sydd yno i'n hamddiffyn ni i gyd, yn fwriadol ac yn ymwybodol, yna mae'n rhaid cymryd camau gorfodi. A dyna'r dull y mae ein heddluoedd yn ei ddefnyddio, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru wrth wneud hynny.