1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am alluoedd profi COVID-19 Cymru? OQ55715
Diolchaf i Rhianon Passmore, Llywydd. Mae materion capasiti yn rhwydwaith labordai goleudy'r DU wedi effeithio ar system brofi Cymru. Mae'r sefyllfa yn gwella ac mae angen iddi wneud hynny ymhellach. Yn y cyfamser, rydym ni wedi cynyddu capasiti a'r defnydd o labordai Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Diolch am hynna. Disgwylir i labordy COVID-19 arbenigol cyntaf Cymru agor yng Ngwent y mis hwn, a hoffwn iddo ymuno â mi i ddiolch i'n holl staff ymroddedig sy'n gweithio eu gorau glas ynddyn nhw ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd y cyfleuster goleudy newydd yn prosesu 20,000 o brofion y dydd, ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rheolir y labordai goleudy hyn gan Lywodraeth y DU a'u rhedeg gan gwmnïau preifat. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y safle hwn ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i gydweithio i gynyddu i nifer a throsiant cyflymach o brofion ar gyfer poblogaeth Cymru? Hefyd, mae'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y byddai Llywodraeth Cymru yn creu safleoedd profi lleol ym mhrifysgolion Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe, Pontypridd, Bangor ac Aberystwyth i'w groesawu hefyd. Felly, Prif Weinidog, pa bosibiliadau pellach sydd i Lywodraeth Cymru gynyddu'r capasiti profi hwnnw a pha bosibilrwydd sydd o leoli cyfleuster profi yn fy etholaeth i, sef Islwyn? Diolch.
Diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Mae hi'n iawn wrth ddweud bod y ganolfan newydd ym Mharc Imperial 5 wedi dod yn weithredol ar 5 Hydref. Mae eisoes yn gallu prosesu 10,000 o brofion y dydd a bydd yn gallu prosesu 20,000 o brofion y dydd pan fyddan nhw'n gwbl weithredol yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, bydd hynny yn rhoi hwb pellach i'n capasiti labordy, i gydnerthedd ein system ac yn ein helpu i barhau i wella amseroedd gweithredu. Felly, rwy'n falch iawn o allu rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod ein bod ni'n defnyddio'r cyfle hwnnw, fel yr ydym ni'n defnyddio'r £32 miliwn y llwyddodd y Gweinidog iechyd ei ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwaith 24 awr mewn labordai rhanbarthol yn Abertawe, Caerdydd a'r Rhyl a chwe labordy poeth newydd, mewn ysbytai cyffredinol acíwt.
Y safleoedd profi lleol mewn prifysgolion—agorodd yr un yn Nhrefforest ar 25 Medi, yr un yn Abertawe yn gynharach yr wythnos hon, bydd yr un ym Mangor yn agor ar 16 Hydref, yng Nghaerdydd ar 16 Hydref, yn Aberystwyth ar 19 Hydref. Felly, unwaith eto, rydym ni'n symud yn gyflym i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau profi lleol hynny ar gael. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod y byddem ni'n defnyddio ein huned profi symudol hefyd, fel pe byddai angen cyfleusterau safle penodol ychwanegol yn ei hetholaeth hi—pe byddai hynny'n dod yn angenrheidiol, yna mae'r cyfleusterau gennym ni ac mae gennym ni'r profiad o'u symud nhw yn gyflym i'r mannau hynny lle mae eu hangen fwyaf.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Pe byddwn i eisiau ymateb mwy manwl o ran eich llythyr at Brif Weinidog y DU, gallwn fynd at y cyfryngau erbyn hyn, oherwydd gwelaf eu bod nhw'n trydaru'r llythyr hwnnw nawr, ac nid ydym ni fel Aelodau'r Cynulliad wedi gweld y dystiolaeth wyddonol yr ydych chi'n ei hatodi iddo, sy'n destun gofid mawr ac yn amharchus, byddwn i'n ei awgrymu i chi. Hefyd, pan ddaw i gyngor SAGE o ran cyfyngiadau teithio, mae'n dweud mai effaith isel fyddai ganddyn nhw ac mai ffydd gymedrol sydd ganddyn nhw y bydden nhw'n llwyddiannus. Maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud bod eithriadau a gorfodaeth yn debygol o fod yn gymhleth iawn. Felly, o gofio mai dyna gyngor SAGE yn ôl ym mis Medi, ac rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi fel Llywodraeth wedi gweld hwnnw, pa ffydd sydd gennych chi bod y dadansoddiad profi yr ydych chi wedi ei rannu gyda Phrif Weinidog y DU yn bwysicach na'r cyngor y mae SAGE wedi ei roi ar gyfyngiadau teithio?
Llywydd, nid wyf i'n siŵr a oes gan y cwestiwn yna unrhyw beth i'w wneud â galluoedd profi Cymru. Ac os yw ef eisiau siarad am fod yn amharchus, ysgrifennais at Brif Weinidog y DU dros bythefnos yn ôl gyda chais manwl am gyfyngiadau teithio. Nid wyf i hyd yn oed wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw. Mae hynny yn amharchus. Mae hynny yn amharchus i'r Senedd hon ac yn amharchus i bobl Cymru. Rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Brif Weinidog y DU—gwybodaeth a gwaith ymchwil a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad y cyfeiriodd yr Aelod ato. Gadewch i ni obeithio y bydd yn barod y tro hwn i'w ystyried gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu.
Os cawn ni ddod yn ôl at brofi, mae e wedi dod i'm sylw i bod problemau difrifol wedi codi efo'r system brofi cyffredinol yn un o ardaloedd bwrdd iechyd y de, a mi liciwn i wybod beth ydy'r cysylltiad rhwng hynny a phrofi COVID. Dwi'n clywed bod profion gwaed dydd i ddydd mewn meddygfeydd teulu wedi cael eu canslo, a dim ond profi brys yn gallu digwydd. Mae'n swnio fel y math o beth yr oeddem ni'n yn cael ein rhybuddio ohono fo pan gafodd systemau cyflenwi Roche eu trafferthion, ond dwi'n nodi bod y Gweinidog iechyd wedi dweud wrthym ni wythnos yn ôl na fuasai hynny yn effeithio ar Gymru. Ydy'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn?
Llywydd, i ddweud y gwir, bydd yn rhaid i fi gael mwy o fanylion am y problemau mae Rhun ap Iorwerth wedi cyfeirio atyn nhw. Dwi wedi gweld datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething a oedd yn esbonio'r effaith mae'r problemau mae Roche yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn gallu ei gael yma yng Nghymru, nid ar ochr coronafeirws, ond ar rai pethau eraill rŷn ni'n trial eu gwneud bob dydd yn y gwasanaeth iechyd. Dwi ddim cweit yn deall eto beth oedd y cefndir i'r cwestiwn penodol, ond wrth gwrs os ydy Rhun ap Iorwerth eisiau ysgrifennu ataf i gyda'r manylion, dwi'n fwy na hapus i edrych i mewn i'r problemau.