– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 13 Hydref 2020.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, felly y Gweinidog Cyllid—wel, y Trefnydd, yn fwy penodol—sy'n ateb. Rebecca Evans sy'n gofyn—. Rebecca Evans sy'n cyflwyno—fe gaf i hyn yn iawn yn y diwedd—y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i agenda'r wythnos hon. Mae'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gwm Taf wedi'i symud i eitem 6 ar yr agenda, gyda'r busnes arall wedi'i ailrifo'n unol â hynny. Ac yn ail, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd y ddadl fer a ohiriwyd yr wythnos diwethaf yn cael ei chynnal yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, yn dilyn ymateb y Prif Weinidog yn gynharach, a fyddech chi gystal â gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i amlinellu'n union sut yn awr y bydd cam 3 y gronfa cadernid economaidd yn rhoi'r hyblygrwydd i sicrhau na fydd busnesau sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn ardaloedd nad ydynt dan gyfyngiadau symud yn cael eu heffeithio'n andwyol gan ardaloedd cyfagos sydd dan gyfyngiadau symud? Rwy'n croesawu cefnogaeth y Prif Weinidog i hyn, gan fod y cyfnod hwn yn un pryderus i fusnesau yn sir Fynwy, yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol oherwydd diffyg cwsmeriaid.
Yn ail, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd am ddatganiad yn amlinellu safbwynt cenedlaethol ynghylch presenoldeb partneriaid geni drwy gydol y broses eni, os gwelwch yn dda? Ar hyn o bryd, mae'r cyfyngiadau, yn fy marn i, yn rhy anhyblyg, ac mae rhyw fath o loteri rhwng byrddau iechyd yn digwydd, yn amlinellu pa mor hir, neu cyn lleied o amser, yn yr achos hwn, y gall partneriaid geni fod yn bresennol gyda'u hanwyliaid? Nid yw'n rhoi ystyriaeth i gymhlethdodau annisgwyl. Roedd fy mhrofiad geni cyntaf i—fy nhro cyntaf i—yn hollol iawn; ond yr ail dro, roedd y serfics wedi ymledu'n gynnar iawn ac yn gyflym iawn, a chefais broblemau geni, lle'r oedd y brif wythïen yn tyfu i mewn i'r brych ac roedd ffrwydrad a bu bron i'r ddau ohonom farw. Nid wyf eisiau mynd i ormod o fanylion, ond roedd honno'n broses gyflym iawn, a byddai wedi peri gofid mawr i mi pe na fyddai rhywun wedi bod gyda mi bryd hynny. Gyda'r cyfyngiadau presennol, ni fyddai unrhyw un wedi bod gyda mi bryd hynny. Felly, a oes modd ichi ganiatáu ychydig o hyblygrwydd yno, os gwelwch yn dda, oherwydd nid yw'n bosibl rhagweld genedigaethau, fel yr wyf newydd ei ddisgrifio? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i Laura Anne Jones am godi'r ddau fater hynny. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â cham 3 y gronfa cadernid economaidd, os oes unrhyw newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd, yna fe wn mai Busnes Cymru, yn amlwg, fyddai'r lle cyntaf i etholwyr fynd er mwyn deall unrhyw newidiadau penodol. Ond, wrth gwrs, fel y dywedais, byddaf yn gwneud yn siŵr, pe bai newidiadau, y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn tynnu sylw cydweithwyr at hynny.
Ac ar yr ail fater, o bartneriaid geni, fe wn fod Lynne Neagle wedi codi'r mater penodol hwn ychydig wythnosau'n ôl yn y datganiad busnes, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi paratoi ateb ysgrifenedig iddi, felly byddaf yn sicrhau eich bod chi hefyd yn cael yr ymateb hwnnw, sy'n nodi ei ystyriaeth o'r mater hwn. Diolch.
Yn dilyn y pwynt olaf, Gweinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, a hoffwn ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad yn rhoi gwybod inni am yr hyn sy'n cael ei wneud i helpu teuluoedd a mamau i ymdopi â'r trawma ac anawsterau seicolegol a all godi o ganlyniad i golli baban. Mae heriau penodol wedi codi, fel yr ydym newydd glywed, o ganlyniad i bandemig COVID, ac mae'r Gynghrair Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gofyn bod gwersi yn cael eu dysgu o don gyntaf y feirws. Mae llawer o bobl wedi codi gyda mi a llawer o Aelodau eraill hefyd, rwy'n siŵr, y mater hwn o bartneriaid yn cael eu hepgor o sganiau ac apwyntiadau allweddol. Os gallai ymgynghoriadau fideo, o leiaf, gynnwys partneriaid, yna byddai hynny'n helpu pawb, yn enwedig os oes rhaid rhoi newyddion drwg. Felly, a allwn ni gael datganiad i ymdrin â'r cwestiwn o bartneriaid yn bresennol mewn gwasanaethau beichiogrwydd, mamolaeth a newyddenedigol, yn enwedig pan fyddan nhw eisoes wedi colli baban, a hefyd sut y byddai modd gwella gwasanaethau'n fwy cyffredinol yn y maes hwn?
Diolch i Leanne Wood am godi'r mater hwn ac, o gofio'r dystiolaeth a'r diddordeb sydd ymhlith cyd-Aelodau, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog Iechyd yn ysgrifennu at bob Aelod fel y bydd modd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ynghylch y mater pwysig hwn.
Fel y mae Leanne Wood yn cydnabod, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Mae'r Prif Weinidog, yn ei swydd fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd, wedi cefnogi digwyddiad ers blynyddoedd lawer, ac wedi noddi digwyddiad, fel arfer yn y Pierhead. Eleni, yn amlwg, bydd y trefniadau'n wahanol, ond mae'r trefnwyr wedi gwneud trefniadau amgen i nodi'r wythnos, a bydd hynny'n digwydd ddydd Iau 15 Hydref, rhwng 6.45 p.m. a 7.15 p.m. Mae'r Prif Weinidog yn ein gwahodd i gyd i gymryd rhan os gallwn, naill ai drwy alw i mewn ar gyfer y gwasanaeth ffrwd fyw, neu drwy ymuno ag ef i gynnau cannwyll a rhannu llun ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, byddwn i'n amlwg yn annog cydweithwyr i gymryd rhan yn y coffáu pwysig hwnnw hefyd.
Efallai fod rhai yn y Siambr yn ymwybodol o'r ffaith fod Cymru ar fin ennill coron pencampwriaeth gyrru rali'r byd. A allwch chi fy nghlywed i, Llywydd?
Na. A allwch chi ailadrodd yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud? Gallwn eich clywed chi nawr, rwy'n credu.
Diolch. Roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le ar y peth ar y cyfrifiadur.
Efallai bod rhai yn y Siambr yn ymwybodol bod Cymru ar fin ennill coron pencampwriaeth gyrru rali'r byd. Beth bynnag fydd y canlyniad ym mis Tachwedd, mae ein Elfyn Evans ni o Ddolgellau wedi dangos sgiliau gyrru o'r radd flaenaf ac, unwaith eto, bydd yn rhoi ein gwlad glyfar a phenderfynol ar y map. Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd eisiau dymuno'n dda iddo ar gyfer y rowndiau nesaf.
Fodd bynnag, mae hyn yn codi cwestiwn i mi ynghylch Rali Cymru Prydain Fawr. Mae'r gogledd yn cynnal un o'r cymalau a gwn ei fod yn gyfnod cyffrous i gymunedau, yn enwedig pan fyddan nhw'n mynd drwy goedwig Clocaenog yn fy ymyl i ger Rhuthun. Mae cystadleuwyr, gwirfoddolwyr a phawb yn credu ei fod yn hollol wych, ac mae'n dod â refeniw y mae mawr ei angen i'r ardal. Byddwn i'n ddiolchgar, felly, o glywed gennych chi neu'r Gweinidog perthnasol o ran pa gymorth parhaus fydd Lywodraeth Cymru yn ei roi i Rali Cymru Prydain Fawr. Yn fy marn i, byddai cyfle enfawr yn cael ei golli i arddangos y dalent wirioneddol sydd gennym ni yng Nghymru, yn ogystal â, gobeithio, ddarpar bencampwr byd-eang, os na fyddwn ni'n parhau i'w gefnogi. A fydd y rali'n cael ei chynnal yng Nghymru y flwyddyn nesaf, Gweinidog?
Diolch am hynny. Mae arnaf i ofn nad wyf i'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau mawr yn ysgrifennu atoch gydag ateb. Wrth gwrs, rydym i gyd yn estyn ein dymuniadau gorau i Elfyn Evans o ran ei ymdrechion gyrru rali, ac yn croesi ein bysedd oll.
A allwn ni gael datganiad, Gweinidog, ar unrhyw drafodaethau rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch y gefnogaeth i glybiau rygbi a phêl-droed yng Nghymru? Nid mater i gyrff llywodraethu proffesiynol yn unig yw hwn, ond mater o gydlyniant cymunedol a chyfranogiad chwaraeon gweithredol, yn ogystal â threftadaeth chwaraeon, yn enwedig lle mae'r clybiau hyn wedi bod yn rhan o asgwrn cefn trefi a phentrefi lleol ers cenedlaethau, a lle mae llawer wedi dangos drwy COVID eu bod yn llawer mwy na chlybiau chwaraeon, drwy ddarparu cymorth fel prydau bwyd, dosbarthu bwyd, a hyd yn oed alwadau ffôn i aelodau ynysig yn ystod yr argyfwng.
Cawsom ein siomi o glywed yn ddiweddar fod Clwb Rygbi Maesteg ac Aberafan Quins ymhlith 30 o glybiau rygbi eiconig sy'n straffaglu o wythnos i wythnos, ac mae hyd yn oed glybiau pêl-droed fel Clwb Pêl-droed Pen-y-bont yn wynebu'r un sefyllfa bryderus. Felly, Gweinidog, siawns nad yw hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei godi gydag Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i weld sut y byddai modd defnyddio'r dylanwad ariannol ar frig y gêm i helpu'r gêm clwb drwodd i'r dyfodol. Fel arall, byddwn ni nid yn unig yn colli'r gronfa o dalent sy'n cyflenwi ein prif glybiau a'n gêm genedlaethol; byddwn i'n colli asedau cymunedol gwerthfawr sy'n mynd ymhell y tu hwnt i chwaraeon ei hun.
Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i gydnabod bod ein clybiau'n mynd ymhell y tu hwnt i chwaraeon a'u bod wrth wraidd ein cymunedau ledled Cymru. Rwy'n gwybod y bydd y drafodaeth yr ydych yn ei disgrifio yn rhywbeth y bydd gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon ddiddordeb i'w ystyried. Ond, yn sicr o ran Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi cyllid ar waith drwy ein cronfa adfer chwaraeon a hamdden newydd gwerth £14 miliwn. Nawr, mae'r gronfa honno'n cael ei dosbarthu drwy Chwaraeon Cymru a gwn eu bod yn bwriadu rhoi rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd a'r broses ymgeisio ymhen rhyw wythnos nawr. Felly, dylai'r manylion pellach fod yno i glybiau yn fuan iawn.
Rwy'n galw am ddatganiad ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau gwely a brecwast bach wedi cysylltu â mi ar ôl i Lywodraeth Cymru eu heithrio eto o gymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig; y tro hwn wedi'u gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Cawsant eu hystyried yn anghymwys mewn cylchoedd blaenorol a chafodd grantiau busnesau ei gwrthod, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban.
Mae eu sylwadau yn ystod y dyddiau diwethaf yn cynnwys: 'Mae'r gronfa hon, unwaith eto, yn ein gadael ni, fel miloedd o fusnesau bach, allan yn yr oerfel'; 'Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod wedi llithro drwy'r rhwyd gyda'r gronfa cadernid economaidd newydd hon'; 'Mae canslo wedi dinistrio ein harchebion am lefydd. A gaf i ofyn ichi godi hyn yn y Senedd?'; 'Cael trosiant o £65,000 llynedd i lawr nawr i £5,000 yn unig, does dim ffordd y gallwn ni gadw ein busnes ar agor'; 'Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn datgan y bydd microfusnesau'n gallu gwneud cais am hyd at £10,000 ar yr amod eu bod yn cyfateb hyn â'u buddsoddiad eu hunain o 10 y cant o leiaf, ac ar gyfer microfusnes twristiaeth a lletygarwch, bydd disgresiwn ar gyfer dyfarniadau grant o 100 y cant. Dechreuais weithio fy ffordd drwy'r gwiriwr dim ond i ganfod nad ydym ni, fel microfusnes, yn gymwys. Rwy'n credu y bydd yr un peth yn wir am lawer o ficrofusnesau, os nad y rhan fwyaf ohonyn nhw. A allwch chi bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid eu meini prawf ac a wnewch chi archwilio'r bwlch hwn yr ydym ni wedi syrthio trwyddo, os gwelwch yn dda? Rydym yn gwbl anobeithiol ac nid ydym yn deall pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cefnogaeth i'r rhan hanfodol hon o economïau twristiaeth lleol ledled Cymru.'
Rwy'n galw felly am ddatganiad sy'n mynd i'r afael â realiti a brys y sefyllfa hon.
Diolch i Mark Isherwood am godi'r mater hwn ar ran ei etholwyr. Gwn ei fod yn fater y mae wedi'i godi gyda mi o'r blaen.
Mae'n amlwg y bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi bod yma i glywed eich sylwadau y prynhawn yma a gwn fod ganddo ddiddordeb mewn archwilio'r gronfa cadernid economaidd o ran sut y mae'n cefnogi busnesau, ond hefyd pa gymorth arall y mae modd ei ddarparu mewn mannau eraill. Rwy'n gwybod y byddwch chi hefyd, yn y man cyntaf, yn cynghori eich etholwyr i siarad â chynghorwyr Busnes Cymru i ystyried a allan nhw gyfeirio'r busnesau hynny at fathau eraill o gymorth, megis benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, er enghraifft.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros chwaraeon am yr heriau difrifol sy'n wynebu haenau uchaf pêl-droed yng Nghymru? Mae gemau uwch gynghrair Cymru, wrth gwrs, yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig ar hyn o bryd ac mae hynny’n rhoi straen ariannol aruthrol ar y clybiau yma. Dyw hynny ddim yn gynaliadwy heb naill ai ganiatáu rhywfaint o gefnogwyr i fynychu’r gemau hynny, neu, wrth gwrs, i ddarparu cefnogaeth ariannol. A dwi’n clywed beth ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â chronfeydd gan Chwaraeon Cymru, ond does dim sicrwydd eto ar y ffrynt yna.
Yn bwysicach na hynny o ran polisi, mae yn sefyllfa gwbl wirion. Mae polisi’r Llywodraeth yn dweud ar hyn o bryd cewch chi ddim mynd i mewn i'r stadiwm i wylio gêm, sefyll yn yr awyr agored, wedi’i wahanu’n gymdeithasol, ond fe gewch chi fynd i’r dafarn i wylio’r un gêm, neu yn wir, mewn rhai sefyllfaoedd, fe gewch chi fynd i’r clubhouse yn y stadiwm, lle mae’r gêm yn digwydd, a gwylio’r gêm drwy’r ffenest. Dyna yw sefyllfa polisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae’n ffars llwyr. Byddai’n llawer mwy diogel caniatáu rhywfaint, beth bynnag, o gefnogwyr i fynychu’r gemau hynny mewn modd wedi’i reoli a modd cyfrifol.
Ac ar yr un pryd, dyw clybiau tier 2, sef cynghreiriau Cymru North a Cymru South ddim yn cael chwarae o gwbl, wrth gwrs, er bod llawer o'r chwaraewyr, fel yn uwch gynghrair Cymru, yn chwaraewyr lled broffesiynol, er bod yn rhaid i’r clwb fodloni meini prawf y gymdeithas bêl-droed i gael trwydded tier 2, ac er bod nifer fawr o feysydd chwarae clybiau tier 2, sydd ddim yn cael chwarae, yn cwrdd â’r un criteria â meysydd tier 1, sydd yn cael chwarae, a bod rhai o’r meysydd tier 2 yna’n cael eu defnyddio ar gyfer gemau uwch gynghrair merched Cymru, sydd yn cael eu chwarae. Mae’r polisi yma dros y siop i gyd a dwi eisiau i’r Dirprwy Weinidog i ddod fan hyn i esbonio’r rhesymeg, oherwydd, yn fy marn i a nifer o bobl eraill, mae’n gwbl, gwbl hurt.
Wel, bydd y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich cais am ragor o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau ynghylch gallu pobl i wylio chwaraeon yn fyw. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wrthi'n treialu rhai o'r digwyddiadau mwy hynny er mwyn dysgu oddi wrthynt, o ran ein cynghori a'n helpu ni i feddwl sut yr ydym yn mynd ati i gynnal digwyddiadau mwy yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar chwaraeon a'r celfyddydau, ond, yn anffodus, mae atgyfodiad y feirws wedi ei gwneud yn amhosibl parhau â hynny ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, bydd y Gweinidog wedi clywed eich cais am ragor o wybodaeth, ac fel y clywsoch yn fy ymateb i siaradwr blaenorol, bydd cronfa adfer Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi ei meini prawf a'i phroses ymgeisio yn fuan iawn.
Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar wasanaethau iechyd trawsffiniol ac, yn benodol, bryderon y mae trigolion wedi'u codi gyda mi ynghylch llawdriniaeth ddewisol. Mae trigolion yn ceisio sicrwydd y byddan nhw'n parhau i allu manteisio ar wasanaethau yn Lloegr drwy'r pandemig, yn enwedig yn Ysbyty Iarlles Caer. A wnewch chi ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar i'r Siambr gan y Gweinidog Iechyd?
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, oherwydd cyfrifoldeb y byrddau iechyd, wrth gwrs, yw sicrhau'r gweithgarwch angenrheidiol i'w poblogaethau lleol, ac rydym yn gwybod bod pethau'n anodd o ran llawdriniaeth ddewisol ar hyn o bryd, dros y ffin, fel y maen nhw yma yng Nghymru. Ond, mae'n gwbl wir, lle mae'r contractau hynny ar waith, ac wedi bod ar waith gyda darparwyr yn Lloegr, cyn COVID, yna rydym yn llwyr ddisgwyl i'r darparwyr hynny yn Lloegr gyflawni eu rhwymedigaethau i gleifion yng Nghymru a thrin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Felly, byddwn i'n gobeithio y gallwch roi'r sicrwydd hwnnw i'ch etholwyr. Ond, fel y dywedais, cafwyd effaith ar y capasiti dros y ffin, yn union fel y mae yng Nghymru, oherwydd dros y ffin, fel yma yng Nghymru, mae’n rhaid inni gyflwyno mesurau ychwanegol i sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel i drin y cleifion hynny. Ond lle mae'r contractau hynny'n bodoli, yn sicr, dylen nhw fod yn cael eu bodloni, ac ni ddylai cleifion o Gymru fod dan unrhyw anfantais o ran hynny.
A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau cynharach Leanne Wood yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod? Bydd fy mab i fy hun yn troi'n ddwyflwydd oed fis nesaf—anodd credu hynny—ond ni allaf ddychmygu'r tor calon y mae rhieni a theuluoedd yn ei ddioddef pan nad yw pethau'n dilyn y cynllun, yn ystod beichiogrwydd ac ar ei ôl. Rwy'n credu bod angen cymorth ar y teuluoedd hynny, a byddaf i'n sicr yn cefnogi digwyddiad ar-lein Ymwybyddiaeth Colli Babanod y Prif Weinidog eleni.
Trefnydd, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu Oergell Gymunedol gyntaf Sir Fynwy, a gafodd ei lansio yn ddiweddar yng Nghanolfan Bridges Trefynwy? Rwy'n siŵr y gwnewch chi hynny. Fe'i sefydlwyd gan Food Sense, a chyfrannwyd y bwyd gan archfarchnadoedd lleol a hefyd gan Gyngor Sir Fynwy, a helpodd i'w sefydlu. A allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y modd y mae'r mathau hyn o fentrau gwrth-wastraff yn cael eu cefnogi ledled Cymru? Efallai y gallai Llywodraeth Cymru, efallai y gallai'r Senedd ei hun gefnogi'r math hwn o fenter yn y dyfodol.
Ac yn olaf, Llywydd, rydym bellach lai na mis i ffwrdd o Sul y Cofio, dyddiad arbennig o ingol eleni gyda phen-blwydd 75 oed Diwrnod VJ a'r atgofion pwerus sydd gan oroeswyr o hyd o'r adeg honno. Yn amlwg, mae'r pandemig a'r cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol yn gwneud gwasanaethau traddodiadol yn amhosibl eleni, felly pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol a phartïon eraill sydd â diddordeb ynghylch sut y bydd Sul y Cofio yn cael ei goffáu y mis nesaf? Oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc sy'n agos iawn at galonnau pobl, a bydden nhw eisiau gweld rhyw fath o goffáu, hyd yn oed os na fydd hynny yn yr ystyr draddodiadol.
Diolch i Nick Ramsay am dynnu sylw at bwysigrwydd Sul y Cofio a sicrhau ein bod eleni'n ei nodi mewn ffordd briodol a'n bod yn gweithredu'r holl gynlluniau i wneud hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad i'r Siambr ar nodi'r coffa a'n cefnogaeth barhaus i'r lluoedd arfog, ac fe welwch chi hynny ar y datganiad busnes a osodwyd heddiw.
Ac, wrth gwrs, yr un Gweinidog sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â gwastraff, ac fe wn y bydd wedi clywed eich cais am ddatganiad ar sut y gallwn ni gefnogi a hyrwyddo mentrau rhagorol fel yr oergell gymunedol yng Nghanolfan Bridges yn Nhrefynwy. Rwy'n siŵr y bydd yn adnodd hollol wych yn y gymuned i bobl sydd ei angen ac, wrth gwrs, yn ein helpu i fynd i'r afael â gwastraff bwyd hefyd. Felly, llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â gwireddu hynny.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar yr effaith y mae cyfyngiadau parhaus yn ei chael ar bobl â chyfrifoldebau gofalu, yn enwedig pobl a fyddai fel arfer yn dibynnu ar gyfleusterau canolfannau gofal dydd fel seibiant ac nad ydyn nhw wedi gallu cael y cymorth hwnnw ers misoedd lawer. Mae teuluoedd sy'n ofalwyr ac yn byw gyda'u hanwyliaid wedi gweld eu trefn ddyddiol yn mynd â'i phen i waered yn ystod y pandemig, ac mae llawer o gynghorau'n dal i ddweud nad yw canolfannau gofal dydd yn gallu agor. Mae hyn yn cael effaith negyddol ddifrifol iawn ar iechyd meddwl a lles y teuluoedd hynny. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, fod angen i gynghorau ddarganfod cydbwysedd anodd rhwng diogelu iechyd y cyhoedd a lles preswylwyr, ond mae'r grŵp hwn o bobl wedi bod heb gymorth nawr ers cyfnod hir, ac nid oes diwedd yn y golwg. Rwy'n poeni fwyfwy am y doll y mae'n ei chymryd ar y bobl hyn. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fyddai'n nodi o dan ba amgylchiadau y gallai'r cyfleusterau hyn ailagor ac unrhyw ganllawiau a chymorth y gellid eu darparu i gynghorau i'w helpu i ddarparu cyfleusterau dydd unigol neu gymorth unigol tra bydd y canolfannau hynny'n parhau i fod ar gau. Mae'n niwed cudd COVID, ac mae angen cefnogaeth nawr ar lawer o bobl.
Yn ail, Trefnydd, ac yn olaf, mae'r BBC newydd ddweud bod y Prif Weinidog wedi gwrthod llythyr diweddaraf Prif Weinidog Cymru yn galw am wahardd pobl sy'n teithio allan o ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o haint COVID. Nawr, mae'n amlwg nad yw'r strategaeth ysgrifennu llythyrau wedi gweithio, felly mae angen un ddeddfwriaethol arnom. Pe bai angen amser seneddol ychwanegol ar y Llywodraeth yr wythnos hon er mwyn pasio hynny, yna byddem ni'n ei gefnogi. Felly, a allai'r Trefnydd gadarnhau, os gwelwch yn dda, mai bwriad Llywodraeth Cymru nawr yw deddfu er mwyn amddiffyn ein cymunedau, ac a allwch chi amlinellu pa amserlen ddeddfwriaethol yr ydych chi'n disgwyl i hynny ei dilyn?
Diolch i Delyth Jewell am godi'r ddau fater pwysig hyn. O ran cymorth i ofalwyr, mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr, a gwn y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol a gofalwyr eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i chi. Gofynnaf iddi yn y lle cyntaf, ysgrifennu atoch chi ynghylch y canllawiau a'r gefnogaeth i awdurdodau lleol, a gwn y bydd yn ystyried y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i'r gofalwyr eu hunain.FootnoteLink
O ran gwrthod y cais yn y llythyr gan Brif Weinidog Cymru, mae'n amlwg bod hynny'n siomedig iawn, ond byddaf yn ei adael iddo ef nodi'r camau nesaf. Ond rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am eu cynnig o gefnogaeth pe bai angen amser seneddol ychwanegol. Diolch.
John Griffiths. Mae angen i chi gael eich dad-dawelu John Griffiths.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr lofnod diweddar Llywodraeth Cymru ar ddatganiad Caeredin ar y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020. Mae'r datganiad yn cydnabod yn feirniadol fod bioamrywiaeth iach a'r gwasanaethau ecosystem y mae'n eu darparu yn allweddol i les pobl ac i feithrin cadernid ein dinasoedd a'n rhanbarthau—mae hynny yn ystod ac ar ôl y pandemig—ac y dylai fod yn ganolog i'n hadferiad. Gwyddom fod ein hecosystemau wedi'u diraddio ac nad yw rhywogaethau prin yn gwneud yn dda yng Nghymru ac, yn wir, mae hynny'n wir ledled y byd i gyd. Felly, rwy'n croesawu llywodraethau a rhanbarthau yn llofnodi'r datganiad ac yn dangos uchelgais yn y maes hwn ac ar y materion hyn, a byddaf yn croesawu ymhellach, Gweinidog, ddatganiad gweinidogol llawn yn y Siambr ar ddatganiad Caeredin, yr ymrwymiadau ynddo a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau hynny.
Diolch, John Griffiths, am godi'r mater hwn. Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed eich cais am ddatganiad. Ond yn y cyfamser, byddwn i'n dweud mai un o brif ganlyniadau datganiad Caeredin fu amlinellu swyddogaeth bwysig gwledydd datganoledig wrth ddatblygu a chyflawni'r fframwaith ar ôl 2020 drwy gynllun gweithredu newydd, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ymrwymo i hynny. Drwy ein mentrau polisi, rydym yn cymryd camau i ymgorffori ystyriaeth bioamrywiaeth ledled y Llywodraeth, ac rydym yn gwneud hynny drwy ein polisi adnoddau naturiol, ein cynllun gweithredu adfer natur, ein dyletswydd bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau adran 6, ac wrth gwrs yn fwyaf nodedig, byddwn i'n ei ddweud, drwy ein paratoadau ar gyfer y gyllideb hefyd. Mae'r cynllun gweithredu adfer natur, ar ei newydd wedd, yn nodi rhai themâu sydd i'w datblygu'n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan y cyrff anllywodraethol amgylcheddol, awdurdodau lleol ac wrth gwrs ein partneriaethau natur lleol hefyd, yn ogystal â thirfeddianwyr a ffermwyr ledled Cymru. Ond yn bwysig iawn, mae'r darn hwnnw o waith wedi nodi rhai bylchau pwysig, a dylem fod yn ceisio hyrwyddo ein hymdrechion tuag at y rheini.
Diolch i'r Trefnydd.
Rwy'n ymddiheuro i'r holl Aelodau nad oeddwn i'n gallu eu galw. Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwnnw yn barod. Byddwn yn cymryd seibiant nawr, seibiant byr, a byddwn yn ailymgynnull ymhen ychydig funudau.
Trefn. Trefn. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto.