Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 13 Hydref 2020.
Byddai'n anghyfrifol iawn i unrhyw Aelod o'r Senedd hon gefnogi camau gorfodi cyfyngiadau sylweddol ar ein hetholwyr pan nad ydym ni wedi cael digon o dystiolaeth i allu eu cyfiawnhau. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol, fel y gwnaethom ni glywed yn gynharach, i ddangos bod unrhyw gyfyngiadau y mae'n eu gosod ar bobl Cymru yn gymesur ac yn angenrheidiol, ac eto maen nhw wedi methu â darparu'r data i gefnogi eu safbwynt.
Nawr, fel person sy'n cynrychioli etholaeth sy'n pontio dwy ardal awdurdod lleol, Conwy a Sir Ddinbych, mae'n ofid i mi, er gwaethaf gofyn dro ar ôl tro am yr wybodaeth hon a'r data hyn gan Weinidogion ac, yn wir, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, yn wir, gan fy mwrdd iechyd lleol fy hun, fod Llywodraeth Cymru a'r holl gyrff eraill hynny wedi methu â'i darparu. Nid yw'r data sydd ar gael i'r cyhoedd yn dangos i mi y cyfraddau achosion y coronafeirws yn ôl cymuned. Mae'n bosibl mewn gwirionedd ei fod yn rhoi cymunedau mewn rhannau risg isel iawn o Gonwy a Sir Ddinbych mewn mwy o berygl oherwydd ein bod yn annog pobl o rannau risg uchel o'r siroedd i deithio i'r rhannau risg is hynny o'r siroedd, os ydym am gredu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud ynghylch teithio. Felly, ar y sail honno, mae'n gwbl amhosibl i mi allu cyfiawnhau dull ar draws siroedd cyfan o weithredu'r cyfyngiadau lleol hyn. Nid oes unrhyw ddata yn cael eu cyhoeddi ynghylch y man trosglwyddo tebygol na'r gweithgareddau sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r trosglwyddo, felly sut ar y ddaear ydym ni'n gallu penderfynu pa un a ellir cyfiawnhau'r cyfyngiadau ar faterion fel teithio?
Nawr, byddaf i'n dweud bod y math hwn o ddata ar gael mewn rhannau eraill o'r DU, felly pam mae Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â'u cyhoeddi neu eu rhannu ag Aelodau'r Senedd hon? Ni allwn ni ond dod i'r casgliad mai'r rheswm am hynny yw nad yw'r data yn cefnogi eich safbwynt, nad yw'n cefnogi eich polisi ac nad yw'n cefnogi'r cyfyngiadau yr ydych yn ceisio eu gorfodi ac yr ydych chi eisoes wedi eu gorfodi. A'r cyfyngiadau teithio hyn yn arbennig sy'n ei gwneud yn anodd iawn i bobl yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych.
Yn wir, Prif Weinidog, clywais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud yn ystod y ddadl, neu'r cyfnewid yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, ac eto mae'n gwbl groes i'r hyn yr ydych wedi ei ddweud wrth y Siambr hon o'r blaen. Fe wnaethoch chi ddweud mewn ymateb i gwestiwn gen i ar 23 Medi, ynghylch twristiaeth, ac rwy'n tybio y gallwn ni ddefnyddio hyn fel dirprwy ar gyfer teithio, mai'r newyddion da yw, ac rwy'n dyfynnu:
'Y newyddion da yw ein bod ni wedi cael twristiaid yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ers rhan gyntaf mis Gorffennaf bellach, ac nid oes tystiolaeth bod hynny wedi arwain at gynnydd sydyn mewn heintiau yn y rhannau hynny o Gymru y mae pobl yn ymweld â nhw amlaf. Yn wir, mae'r coronafeirws yn parhau i fod ar ei isaf yn y lleoedd hynny y mae twristiaid yn ymweld â nhw amlaf.'
Mae hynny mewn ffordd yn tanseilio yn llwyr y ddadl yr ydych yn ei gwneud ynghylch cyflwyno'r cyfyngiadau teithio llym hyn ar fy etholwyr i a phobl eraill ledled Cymru. Wyddoch chi, roedd hi'n gwbl dorcalonnus yn gwylio'r teledu dros y penwythnos hwn i weld pobl yn cael eu cyfweld ym mrenhines y cyrchfannau twristiaeth, Llandudno, ar arfordir y gogledd. Roedd gennym ni un unigolyn sy'n cadw siop yno yn dweud wrth ohebwyr mai dim ond £6.50 y gwnaethon nhw ei gymryd dros y cownter ar un diwrnod yr wythnos diwethaf. Dywedodd bwyty lleol fod ganddyn nhw 184 o bobl yn bwyta yno fel arfer ar ddydd Sadwrn, yr wythnos flaenorol cyn y cyfyngiadau; roedd hynny i lawr i 18 ar y dydd Sadwrn yn dilyn cyflwyno'r cyfyngiadau. Ac oni bai eich bod yn gweithredu yn gyflym, gallaf i ddweud wrthych chi y bydd y busnesau hyn yn mynd i'r wal. A phan fyddan nhw'n mynd i'r wal, bydd yr holl bobl hynny sy'n dibynnu ar eu bywoliaeth o'r busnesau hynny yn gweld effaith sylweddol ar ansawdd eu bywyd, oherwydd nid ydym yn sôn am y busnesau hynny yn unig, rydym yn sôn am bob un person y maen nhw'n ei gyflogi, pob teulu sy'n dibynnu ar y pecynnau cyflog sy'n dod i mewn drwy'r gyflogaeth honno, a phob un cyflenwr y mae'r busnesau hyn yn prynu eu nwyddau oddi wrthyn nhw. Bydd yr effeithiau canlyniadol yn gwbl enfawr.
Ac, wrth gwrs, nid yw'r cyfyngiadau teithio hyn yn rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i'r patrymau teithio rheolaidd y mae pobl yn eu mwynhau, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n byw yn y rhannau hynny ar ffiniau yr ardaloedd awdurdodau lleol hyn. Ni all fy etholwyr i, er enghraifft, ym Mae Cinmel fynd ychydig gannoedd o lathenni i'r Rhyl i'w harchfarchnad leol. Yn hytrach, gallan nhw, wrth gwrs, deithio awr i'r cyfeiriad arall yr holl ffordd i lawr i barc cenedlaethol Eryri lle mae lefelau isel iawn o haint y coronafeirws, mae'n siŵr, ac eto nid ydyn nhw'n cael mynd ychydig gannoedd o lathenni i'w harchfarchnad agosaf. Mae'n gwbl hurt.
Mae prinder tystiolaeth. Ni fyddaf i'n pleidleisio dros y cyfyngiadau o ran rheoliadau Rhif 16 ar y coronafeirws. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd hefyd i awgrymu bod y cyfyngiadau hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Lle maen nhw wedi eu gosod, y realiti yw bod y cyfraddau wedi bod yn codi mewn rhai achosion. Felly, aeth Rhondda Cynon Taf yn destun cyfyngiadau fis yn ôl. Nawr, cofiwch mai 14 diwrnod yw'r cyfnod heintus, iawn? Felly, dylen nhw fod wedi cael effaith erbyn hyn. Aeth yn destun cyfyngiadau fis yn ôl pan oedd 82.1 o achosion ym mhob 100,000 o bobl dros saith diwrnod. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw yn 178.2, bron i ddwbl yr hyn yr oedd. Mae Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau ers 8 Medi. Ar 26 Medi, yr oedd ganddi 36.4 o achosion—yr oedd wedi bod yn teithio i'r cyfeiriad iawn—ym mhob 100,000 o bobl, ond heddiw mae'r ffigur hwnnw yn 92.2. Felly, os yw'r dystiolaeth yn awgrymu efallai nad yw'r rhain yn gweithio, os nad oes gwybodaeth fesul cymuned, os nad oes digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod y cyfyngiadau teithio yn gweithio, pam ar y ddaear y dylai unrhyw un yn y Siambr hon bleidleisio dros y gyfres benodol hon o gyfyngiadau? Rwyf i'n annog pawb i bleidleisio yn eu herbyn.