Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 14 Hydref 2020.
Ers hynny, ers 2016, safodd y Gweinidog a minnau yng Nglynebwy yn 2017 a lansio rhaglen y Cymoedd Technoleg yn fy etholaeth i. Rydym wedi gweld bargeinion dinas Caerdydd ac Abertawe yn datblygu'n ansicr, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Rydym wedi clywed sôn am gronfa ffyniant gyffredin ond hyd yma, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw un ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon yn gwybod beth yw hi nac i ble y mae'n mynd i fynd. Gallwn dybio y bydd y Cymoedd yn rhan o hynny. Ond yr hyn rydym wedi'i weld yw ailffocysu gwaith, newid blaenoriaethau. Nid ydym wedi gweld y gwelliant roedd angen inni ei weld, ac rydym i gyd yn gwybod mai'r Cymoedd yw'r rhannau o Gymru sy'n wynebu'r heriau cymdeithasol ac economaidd mwyaf drwy'r holl ddegawdau o'r rhaglenni hyn. Ac mae hefyd yn deg dweud, rwy'n meddwl, pe gallai penderfyniadau pwyllgor, datganiadau i'r wasg ac areithiau ddileu tlodi, y byddai'r Cymoedd yn iwtopia fodern.
Mae'n amlwg i mi yn awr fod angen inni ailedrych ar hanfodion y ddadl hon a sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn, a hoffwn ddechrau'r ddadl honno y prynhawn yma. Daeth tasglu'r Cymoedd i mewn am sgyrsiau a gynhaliwyd cyn etholiad diwethaf y Senedd yn 2016. Roedd llawer ohonom bryd hynny'n pwyso am awdurdod datblygu yn y Cymoedd. Am bob math o resymau, teimlwyd ei fod yn amhriodol ac roedd tasglu, mewn sawl ffordd, yn gyfaddawd. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y cyfaddawd hwnnw'n mynd i gyflawni'n hirdymor. Credaf fod angen inni ailystyried y ddadl honno heddiw. Rwyf am wneud hynny drwy siarad am bedair elfen: cysondeb, capasiti, cydlyniad ac ymrwymiad.
Mae arnom angen cysondeb polisi. Mae'r Cymoedd wedi dioddef gormod oherwydd Gweinidogion sydd naill ai â chynllun neu angen arbrofi gyda damcaniaeth economaidd, ac mae pob Gweinidog newydd angen cynllun newydd, targed newydd, amcanion newydd, minnau'n gynwysedig. Ond canlyniad hynny yw dechrau a stopio. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn adolygu ac yn newid dull nad yw'n gweithio, a byddai'n ffôl gwneud fel arall. Ond mae torri a newid heb adolygiad o'r fath a heb reswm o'r fath dros gynnal adolygiad yn ffôl. Mae nodi targedau, strategaethau, amcanion a rhaglenni ar ddechrau Senedd, ddim ond i droi cefn ar y dulliau hynny hanner ffordd drwodd, yn gwahodd rhwystredigaeth gan y bobl a gynrychiolwn, ac yn gwarantu methiant ein rhaglenni ein hunain. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu cael cysondeb yn hirdymor.
Ond os oes gennym gysondeb polisi, mae arnom angen ffordd o gyflawni'r ddadl honno hefyd. Mae arnom angen cynnydd sylweddol mewn capasiti. Y tu allan i Rondda Cynon Taf, mae'n anodd gweld unrhyw un o awdurdodau'r Cymoedd â gallu i gyflawni'r raddfa sydd ei hangen i greu'r amodau ar gyfer dyfodol economaidd sylfaenol wahanol. Y gwir plaen yw bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn y Cymoedd yn rhy fach i ddarparu'r math o fewnbynnau economaidd a welais yn Fflandrys rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddem yn edrych ar barc y Cymoedd. Roedd maint yr uchelgais yno'n wych—ac mae Dawn Bowden yma o Ferthyr Tudful; bûm yn trafod prosiect Crucible gyda hi. Roedd yn wych ei weld. Ond mae hi'n gwybod ac rwy'n gwybod hefyd na fydd byth yn digwydd heb y capasiti i wneud iddo ddigwydd, ac nid yw'r capasiti hwnnw'n bodoli heddiw.
Gŵyr y Gweinidog fod amcanion gwych i raglen y Cymoedd Technoleg a lansiwyd ganddo ef a minnau—amcanion yr ymrwymais iddynt ac rwyf am eu gweld. Ond rydym hefyd yn gwybod nad oes gennym gapasiti i'w gyflawni ym Mlaenau Gwent, ac mae'n rhaid inni dderbyn hynny a deall hynny. Gwyddom hefyd mai'r unig sefydliad, os hoffech, sydd â'r gallu i gyflawni a'r pŵer i sicrhau newid yw Llywodraeth Cymru. Ond rydym hefyd yn gwybod, os ydym yn onest â'n gilydd, fod gan Weinidogion ac adrannau a swyddogion i gyd flaenoriaethau gwahanol sy'n cystadlu. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, mae gormod o amser ac adnoddau'n cael eu gwastraffu ar geisio cydlynu'r ffrydiau ariannu a'r blaenoriaethau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd, a dim digon o amser yn cyflawni'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud mewn gwirionedd.
A daw hynny â mi at elfen arall: cydlyniad. Mae wedi bod yn un o ffeithiau bywyd, ers diddymu Awdurdod Datblygu Cymru, fod y prif ysgogiadau polisi sy'n ofynnol gan lunwyr polisi wedi gorwedd mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol arweinwyr, gwahanol flaenoriaethau, ac amcanion gwahanol. Ni fu erioed fwy o angen rhaglen gydlynol ar y Cymoedd. Ond mae dryswch gwahanol strwythurau, a gormodedd o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd, yn golygu nad oes gennym fawr ddim o ran cydlyniad. Mae gennym lawer iawn o gyfoeth o ran strategaethau a rheolaeth, ond nid oes gennym allu i gyflawni'n gydlynol. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros orsaf drenau yn Abertyleri, fel y gŵyr y Gweinidog yn rhy dda, rwy'n siŵr; rydym yn rhannu hunllefau am y pethau hyn ar wahanol adegau. Cynigiodd bargen dinas Caerdydd gyfaddawd gyda stop newydd yn Aber-bîg. Nawr, er cymaint y byddai hynny'n cael ei werthfawrogi, nid yw'n orsaf yn Abertyleri, ac nid yw byth yn mynd i fod. Nid yw byth yn mynd i gyflawni'r newid sylweddol sydd ei angen arnom. Ond pam fod Llywodraeth Cymru, a pham fod tasglu'r Cymoedd bryd hynny, a pham fod bargen dinas Caerdydd yn gweithio yn yr un lle yn unol â gwahanol flaenoriaethau, gyda gwahanol uchelgeisiau? Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â hynny.
Felly, mae angen ymrwymiad a ffocws i'n dyfodol sy'n fanwl ac yn barhaus. Gwyddom fod pethau'n mynd i fynd yn anos ac nid yn haws. Credaf fod Llywodraeth y DU yn ceisio gwleidyddoli'r ffordd y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn gweithio, ac ni fydd yn sicrhau cydlyniad ag unrhyw un o'r rhaglenni eraill sydd gennym yn y Cymoedd. Llai o gydlyniad, nid mwy, a welwn yn y dyfodol. Felly, rwyf am weld ac rwyf am agor y ddadl ynglŷn ag i ble rydym yn mynd yn y Cymoedd. Credaf fod arnom angen awdurdod datblygu yn y Cymoedd. Credaf fod angen inni ddwyn llywodraeth leol, ac adnoddau llywodraeth leol, ynghyd â Llywodraeth Cymru. Credaf fod angen inni gynnwys y busnesau yn y Cymoedd, a chymunedau'r Cymoedd. Ac mae angen inni wneud hynny ar sail statudol, gyda phwerau statudol a gallu i gyfeirio datblygiad yn y dyfodol. Mae angen inni allu gwneud hynny hyd braich, rwy'n credu, o'r Llywodraeth, lle bydd Gweinidog yn gosod y blaenoriaethau ac yn pennu'r amcanion, ond lle bydd yr awdurdod ei hun yn gyfrifol am gyflawni.
Gobeithio y gallwn gael y ddadl hon, a gobeithio y gallwn gael dadl sy'n ddadl gyfoethog ac yn ddadl gadarnhaol, oherwydd os gallwn gael y pethau hyn yn iawn yn y Cymoedd, lle mae pethau o bosibl yn fwyaf anodd, credaf nad oes rheswm pam na allwch gael hyn yn iawn—gwelaf fod Rhun ap Iorwerth gyda ni—yn Ynys Môn , ac mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd. A gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y ffocws hwnnw gennym mewn gwahanol rannau o'r wlad. Felly, gobeithio y gallwn gael y ddadl hon, gobeithio y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, a gobeithio y gallwn gael dadl sy'n canolbwyntio ar yr hyn rydym yn awyddus i'w gyflawni dros y bobl rydym i gyd yn ceisio eu cynrychioli. Diolch yn fawr iawn.