Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae 119 o unedau ffermio dofednod dwys yng Nghymru, gyda 40,000 neu fwy o adar. Mae 116 o'r rhain ym Mhowys. Canfu astudiaeth beilot Cyfoeth Naturiol Cymru o ddofednod Powys—asesiad o ollyngiadau atmosfferig cronnol—fod unedau ffermio dofednod llai o faint, nad ydynt wedi’u rheoleiddio, ond sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth gynllunio yn cael mwy o effaith ar y crynodiadau amonia lleol na'r unedau dwys mwy o faint a reoleiddir. Nodir bod 12,000 o ieir dodwy maes yn cael mwy o effaith amgylcheddol nag 80,000 o adar cig. Roedd hynny yn 2005, ac eto, bum mlynedd yn ddiweddarach, CNC sy'n parhau i fod yn gyfrifol am roi trwyddedau amgylcheddol i'r safleoedd ac am gwblhau'r asesiadau risg i gynefin ar gyfer datblygiadau â 40,000 neu fwy o adar yn unig. A ydych yn hyderus, Weinidog, fod CNC yn rheoleiddio'r categori yn gywir, neu a ddylid gostwng y terfyn 40,000 o adar yn adran 6.9 o Atodlen 1 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn sgil adroddiad 2015?